Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 22:50 GMT 26 Mawrth
Dyna ddiwedd ein llif byw, a hynny wedi noson siomedig i dîm Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ein adroddiad o'r gêm.
Mae Cymru yn herio Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd FIFA.
Gorffennodd y ddau dîm yn ail yn eu grwpiau, a bydd yr enillydd heno yn wynebu naill ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y rownd derfynol ddydd Mawrth.
Gallwch wrando ar sylwebaeth BBC Radio Cymru ar y dudalen hon, neu wylio'r gêm ar S4C neu iPlayer.
Cic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45.
Dyna ddiwedd ein llif byw, a hynny wedi noson siomedig i dîm Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen ein adroddiad o'r gêm.
Joe Ledley
Cyn-chwaraewr canol cae Cymru ar Match of the Day Wales
Mae'n ffordd greulon o fynd allan, ond mae yna lawer o bethau cadarnhaol o'r ymgyrch hon.
Gallai rhai o'r ciciau o'r smotyn yna fod yn well, gwnaeth Darlow arbediad gwych ar y gic gyntaf.
Ar ddiwrnod arall gallai Cymru fod wedi ennill.
Ashley Williams
Cyn-amddiffynnwr Cymru ar BBC 5 Live
Mae'r hyn y mae Craig Bellamy wedi'i wneud drwy'r ymgyrch hon, a'r hyn mae'n ceisio'i adeiladu yma, yn edrych yn dda.
Rwy'n credu bod pawb yn hyderus am y dyfodol. Rydych chi'n ennill gyda'ch gilydd ac yn colli gyda'ch gilydd.
Dwy flynedd yn union ers colli'n erbyn Gwlad Pwyl drwy giciau o'r smotyn, mae Cymru unwaith eto yn profi tor calon.
Fe wnaeth tîm Craig Bellamy chwarae'n dda am gyfnodau hir heno, ond fe wnaeth cryfder Bosnia-Herzegovina wrth amddiffyn eu cadw yn y gêm.
Mae rhai o chwaraewyr Cymru mewn dagrau ar y cae.
Ar ôl tair cic yr un, mae'n gyfartal. Dyw cic o'r smotyn Brennan Johnson ddim yn taro'r targed.
Mae Karl Darlow yn arbed cic Ermedin Demirovic o'r smotyn.
Harry Wilson sy'n cymryd y gic o'r smotyn gyntaf i Gymru... ac mae'n rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd.
Mae chwaraewyr Cymru wedi ymgynnull ar ymyl y cae, a Craig Bellamy yn siarad â nhw unwaith eto.
Bosnia sy'n ennill tafliad y geiniog ac maen nhw'n penderfynu y bydd y ciciau o'r smotyn yn cael eu cymryd ar ochr eu cefnogwyr nhw o'r cae.
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Brennan Johnson yn agos!
Fe wnaeth Cymru daflu popeth at Bosnia yn y munudau olaf, ond ciciau o'r smotyn fydd yn penderfynu pwy sy'n wynebu Yr Eidal nos Fawrth nesaf.
Mae Karl Darlow yn arbed cic Ermedin Demirovic o'r smotyn.
Harry Wilson sy'n cymryd cic gyntaf Cymru... ac mae'n rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd!
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae Sorba Thomas wedi chwarae yn arbennig o dda ers dod ar y cae. Mae wedi creu cymaint o gyfleoedd.
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Mae Sorba Thomas yn parhau i ddod o hyd i gyfleoedd i groesi.
O am gael Kieffer Moore yno i gyfarfod y bêl...
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Mae Esmir Bajraktarevic ar y llawr yn derbyn triniaeth. Mae Bosnia i weld yn fwy bodlon na Chymru i setlo'r gêm yma gyda chiciau o'r smotyn.
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Mae Bosnia yn taro cic rydd i mewn i'r cwrt cosbi, ond Karl Darlow yn arbed.
Yna caiff Mark Harris ei atal wrth i Gymru geisio rasio'n glir.
Mae mwy o gyfleoedd i ddod yn y gêm hon i'r ddau dîm.
Mae tipyn o ffraeo ar ymyl y cae ar hyn o bryd, gyda Craig Bellamy wedi ei amgylchynu gan aelodau o dîm hyfforddi yr ymwelwyr.
Mae'r dyfarnwr wedi dangos cerdyn melyn i un o eilyddion Bosnia.
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Danny Gabbidon
Cyn amddiffynwr Cymru ar BBC Radio 5 Live
Mae Cymru i weld â mwy o fomentwm na Bosnia, gobeithio y caiff Harry Wilson gyfle arall fel y cafodd yn yr hanner cyntaf.
Mae gan Gymru chwarter awr i ddod o hyd i gôl. Fe wnaeth Craig Bellamy siarad â sawl un o'r chwaraewyr yn ystod yr egwyl.
I'ch atgoffa, dyw Bosnia-Herzegovina erioed wedi ennill gêm ail gyfle.
Dyw Cymru chwaith erioed wedi curo Bosnia-Herzegovina, ond wnawn ni ddim poeni am hynny am nawr!
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Ai eiliad arwrol neu gamgymeriad fydd yn penderfynu pethau?
Mae Sorba Thomas yn creu cur pen mawr i Bosnia ar yr asgell, ond gyda chwarae mor agored fe allai un digwyddiad weddnewid y gêm yma.
Dyna ddiwedd hanner cyntaf yr amser ychwanegol. Peidiwch â mynd i unman!
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru
Mae Ermedin Demirovic wedi creu llawer o broblemau i Dylan Lawlor a Joe Rodon heno...
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Ac ar y gair...
Fe wnaeth Ermedin Demirovic daro ochr y rhwyd yn dilyn pas gan Haris Tabakovic.
Dyw sylwebwyr Radio Cymru ddim yn mentro darogan pwy fydd yn mynd â'r gêm yma.
Cymru 1-1 Bosnia-Herzegovina
Mae Sorba Thomas yn gwastraffu cyfle i groesi.
Mae Cymru wedi edrych yn fywiog yn ystod y munudau diwethaf, ond mae'r ymwelwyr yn gallu troi momentwm y gêm yn gyflym iawn.

