Crynodeb

  • Diweddglo cyffrous i gêm agoriadol ymgyrch tîm pêl-droed merched Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2027.

  • Mae Cymru a'r Weriniaeth Tsiec yng Ngrŵp B1 ynghyd â Montenegro ac Albania.

  • Hannah Cain yn sgorio gôl gyntaf Cymru o'r ymgyrch ac Elise Hughes yn cipio pwynt gwerthfawr i Gymru ym munud olaf y gêm.

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 19:48 GMT 3 Mawrth

    Dyna ddiwedd ein llif byw, diolch am ddilyn.

    Bydd sylwebaeth o gêm Cymru v Montenegro i'w glywed ar BBC Radio Cymru brynhawn dydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 16:30.

    Cymru'n dathlu gôl gyfartalFfynhonnell y llun, CBDC
  2. 'Mae timau da yn dod o hyd i ffordd' - Wilkinsonwedi ei gyhoeddi 19:46 GMT 3 Mawrth

    Canlyniad: Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Rhian Wilkinson, wrth siarad ar Match of the Day Wales:

    "Dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni ddweud celwydd am y perfformiad, ond dw i'n falch ein bod ni wedi aros yn y gêm, mae timau da yn dod o hyd i ffordd i wneud hynny.

    "Cafon ni ddiwrnod gwael ac fe ddaethon ni drwyddi - dydyn ni heb wneud hynny bob tro yn y gorffennol.

    "Doedden ni ddim ar ein gorau o ran ein pasio ag ati, ond mae'n bwynt da ac yn fan cychwyn i'r ymgyrch.

    "Byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar amddiffyn y darnau gosod. 'Dw i heb edrych yn ôl ar y goliau eto felly dydw i ddim eisiau dweud beth aeth o'i le, ond doedden ni ddim yn ddigon cryf.

    "Rydyn ni hanner ffordd drwy'r camp yma - mae yna feysydd i'w gwella, ac mae'n rhaid i ni eu trwsio.

    "Rwy'n meddwl fod ein eilyddion wedi cael effaith ar y gêm, ac mae hynny'n beth cadarnhaol arall. Pan ddechreuon ni chwarae trwy ganol y cae roeddech chi'n gallu gweld ein safon.

    "Roedden ni'n gwybod y byddai'n frwydr, felly mae cael pwynt oddi cartref yn ganlyniad da."

    Rheolwr Cymru Rhian WilkinsonFfynhonnell y llun, CBDC
  3. 'Os ydyn ni'n chwarae fel 'na, dydyn ni ddim yn haeddu ennill gemau'wedi ei gyhoeddi 19:40 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    'Dw i'n gwybod y bydd y merched yn siomedig gyda'u hamddiffyn heno, doedd e ddim yn ddigon da ar y lefel yma.

    Os ydyn ni'n chwarae fel 'na dydyn ni ddim yn haeddu ennill gemau, ond mae'r ffaith bod Elise Hughes wedi rhoi ei phen ar y bêl rhwng dau amddiffynnwr... chwarae teg iddi.

    Ond nid dyma'r safon fydd yn ein harwain ni i Gwpan y Byd, mae angen i'r safon fod yn llawer gwell. Rydyn ni wedi crafu pwynt ac rwy'n ddiolchgar am hynny, ond mae pawb yn gwybod bod angen i ni fod yn well na heno.

  4. Pa dîm fydd yn dathlu?wedi ei gyhoeddi 19:35 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar Match of the Day Wales

    Byddan nhw (Y Weriniaeeth Tsiec) yn teimlo fel eu bod wedi colli'r gêm, tra byddwn ni'n teimlo fel ein bod ni wedi ennill.

  5. Hapus gyda phwynt ar ddiwedd y gêmwedi ei gyhoeddi 19:33 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Yn siarad ar raglen Match of the Day Wales ar BBC2, dywedodd Katie Sherwood, cyn-chwaraewr ganol cae Cymru:

    "Fe gymerwn ni'r pwynt... a diolch byth i ni fod yn glinigol reit ar ddiwedd y gêm.

    "Roedd e'n berfformiad gwael o ystyried yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan y tîm - roedd disgwyliad i ddechrau'n gryfach.

    "'Dw i'n meddwl bod y Weriniaeth Tsiec di bod yn well o ran angerdd heno - roedden nhw eisiau'r fuddugoliaeth yn fwy na ni."

  6. Rhyddhad!wedi ei gyhoeddi 19:32 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Roedd yn ymddangos fod Cymru am golli gêm agoriadol yr ymgyrch yma, ond fe wnaeth Elise Hughes gipio pwynt hynod o werthfawr ym munud olaf amser ychwanegol.

    Yn ôl Kath Morgan ar Radio Cymru roedd hon yn gêm 'poenus i'w gwylio ar adegau', ond fe fydd ochenaid o ryddhad yn ystafell newid Cymru wedi'r diweddglo cyffrous.

  7. Canlyniad: Gêm gyfartal yn Uherské Hradištěwedi ei gyhoeddi 19:25 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Fi ffaelu credu beth dwi newydd ei weld!

    Dihangfa lwyr i Gymru! Roeddwn i wir yn teimlo fod y gêm yma wedi rhedeg i ffwrdd!

  8. Gôl i Gymru!wedi ei gyhoeddi 19:20 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-2 Cymru

    Cymru'n sgorio wedi 93 munud o chwarae!

    Ymosodwr Crystal Palace, Elise Hughes, sy'n sgorio gyda'i phen yn dilyn croesiad gan Gemma Evans.

  9. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 19:16 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Mae'r tîm cartref yn rheoli'r gêm yn dda ar hyn o bryd.

    Maen nhw'n chwarae'n gorfforol ac yn atal Cymru rhag ymosod yn effeithiol.

    Does dim llawer o amser ar ôl gan Gymru i newid pethau...

  10. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 19:15 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Helen Ward
    Cyn ymosodwr Cymru ar BBC Radio Wales

    'Dw i'n hoffi newidiadau Cymru, 'dw i'n meddwl eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol i ni wrth symud ymlaen.

    Mae Mared Griffiths wedi cael dechrau gwych i'w gyrfa gyda Chymru; mae hi'n edrych fel bygythiad bob tro mae hi ar y cae.

  11. Eilyddiowedi ei gyhoeddi 19:13 GMT 3 Mawrth

    Gweriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Mia Ross ac Esther Morgan sy'n cymryd lle Angharad James a Lily Woodham.

    Hayley Ladd sydd bellach yn gapten, gyda naw munud o'r chwarae yn weddill.

  12. Jones bron yn unioniwedi ei gyhoeddi 19:08 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Golwr y Weriniaeth Tsiec, Olivie Lukášová, yn gwneud arbediad godidog o ergyd gan Carrie Jones.

  13. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 19:07 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Mae'r gêm yn egnïol a chorfforol ar hyn o bryd.

    Tereza Krejcirikova sy'n taclo Ceri Holland yn gryf, wrth i'r chwarae wibio o un pen y cae i'r llall.

  14. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 19:03 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Dyma gyfnod allweddol nawr.

    Mae Cymru wedi bod ymhell o fod ar eu gorau, ond mae dal amser i hawlio canlyniad da o'r gêm yma.

    Mae Hayley Ladd yn clirio'r bêl oddi ar y llinell!

  15. Y ddau dîm yn eilyddiowedi ei gyhoeddi 19:00 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Mae Mared Griffiths - sy'n dathlu ei phen-blwyddyn 19 oed heddiw - ac Elise Hughes wedi cymryd lle Hannah Cain a Rachel Rowe.

    I'r tîm cartref, mae Andrea Staskova yn cymryd lle Michaela Khyrova.

  16. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:58 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Mae dros 20 munud o'r gêm yn weddill, ac felly mae gan Gymru ddigon o amser i daro'n ôl.

    Yn ystod y munudau diwethaf rydym wedi gweld mwy o chwarae ymosodol gan Gymru.

    A fydd Rhian Wilkinson yn gwneud mwy o newidiadau i'r tîm yn fuan?

  17. Cymru angen Mared ar y cae, yn ôl Kathwedi ei gyhoeddi 18:50 GMT 3 Mawrth

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Am yr ail dro yn y gêm mae Cymru angen dod yn gyfartal.

    Fe wnaeth gormod o unigolion Cymru gamgymeriadau gyda'r bêl a wnaethon nhw ddim digon i'w chlirio.

    Y realiti yw, os collwn ni fan hyn mae'n mynd i fod yn flêr a chymhleth i guro'r grŵp.

    Mae'r gêm yn galw allan am Mared Griffiths - rhywun sydd heb ofn ac sy'n fodlon saethu at y gôl.

  18. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:49 GMT 3 Mawrth

    Mae'r Weriniaeth Tsiec yn mwynhau cyfnod o chwarae da, gan ddod yn agos at roi'r bêl yn y rhwyd am y drydedd tro.

    Fe aeth ergyd Jana Zufankova heibio'r gôl yn y pen draw.

  19. Gôl!wedi ei gyhoeddi 18:42 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 2-1 Cymru

    Croesiad o'r dde, a Chymru yn methu'n glir a chlirio'r bêl.

    Ymosodwr Slavia Prague, Jana Žufánková, sydd rhywsut yn cael y bêl i gefn y rhwyd gan ddefnyddio'i chlun.

    Amddiffyn hynod siomedig gan Gymru unwaith eto.

  20. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 18:42 GMT 3 Mawrth

    Y Weriniaeth Tsiec 1-1 Cymru

    Mae Cymru yn ennill dwy gic gornel yn syth ar ôl ei gilydd yn dilyn cyfnod o chwarae cadarnhaol.

    Caiff y ddwy eu clirio gan y Weriniaeth Tsiec, ond dyma ddechrau gobeithiol i'r ail hanner.

Trending Now