Crynodeb

  • Bethan Rhys Roberts fu'n cyflwyno panel o wleidyddion, ac yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa eu holi

  • Ar y panel roedd Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd

  • Cyfle hefyd i glywed barn gohebwyr a sylwebyddion o'r 'Stafell Sbin

  • Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai

  • Crynodeb syml o safbwyntiau'r prif bleidiau ar y materion sydd bwysicaf i bleidleiswyr

  • Yn ystod y ddadl cryn sylw i iechyd, costau byw, pwerau'r Senedd ac amaeth

  1. Dyna ni am y tro - diolch am eich cwmniwedi ei gyhoeddi 22:23 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r Ddadl Fawr ar ben - ond rhwng hyn a'r etholiad bydd digon o straeon gwleidyddol ar Cymru Fyw wrth i'r ymgyrchu barhau.

    Bydd y cyfri yn digwydd eleni drannoeth yr etholiad - y cyfan yn fyw ar lif byw Cymru Fyw o 07:00 ar 8 Mai.

    Tan hynny bydd holl straeon yr etholiad ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am eich cwmni. Nos da.

    mapFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Beth yw'r dyddiadau pwysig sydd eto i ddod?wedi ei gyhoeddi 22:19 GMT+1 23 Ebrill

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    7 Mai - Diwrnod y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Cyfle olaf i gasglu papur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfri'r pleidleisiau

  3. Richard Wyn Jones : Y gwleidyddion yn 'ddiurddas' ar adegauwedi ei gyhoeddi 22:18 GMT+1 23 Ebrill

    "Roedd yna gwpwl o enghreifftiau heno o bobl yn siarad ar draws ei gilydd," meddai'r sylwebydd Richard Wyn Jones ar raglen Gwleidydda.

    "Oedd o'n flêr.

    "Dwi ddim yn trio beirniadu'r gwleidyddion, gan fod ganddyn nhw bwyntiau yr oedden nhw angen eu gwneud.

    "Ond roedden nhw'n ymddangos yn ddiurddas.

    "Dwi ddim yn meddwl bod y bobl oedd yn gwylio a gwrando yn meddwl 'Mae hyn wedi fy ngoleuo i'.''

    Gwleidydda
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd podlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru ar gael yn fuan ar BBC Sounds

  4. Etholiad y Senedd: Dewch i 'nabod yr arweinwyrwedi ei gyhoeddi 22:15 GMT+1 23 Ebrill

    Wrth i etholiad y Senedd agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn brif weinidog nesaf Cymru?

    Dros yr wythnosau diwethaf mae Cymru Fyw wedi cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

    Cliciwch yma i ddarllen mwy am arweinwyr Plaid Cymru, Reform, y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a'r Ceidwadwyr Cymreig.

    arweinwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Barn y gynulleidfa wedi'r ddadlwedi ei gyhoeddi 22:14 GMT+1 23 Ebrill

    Roedd 60 o bobl o bob cwr o Gymru yn rhan o'r gynulleidfa a dyma oedd gan Gethin, Cody, Gwyn ac Alaw i'w ddweud wedi'r ddadl.

    Elgan: "Sai'n meddwl bo' fi lot callach o fod 'ma. Pawb yn addo hyn, addo'r llall ond neb gyda ryw gynllun credadwy, manwl o ran beth yn gywir oedden nhw am wneud."

    Gethin: "Ro'n i wedi joio heno, lot o siarad siop gan bobl ond oedd sens yn dod mas o gegau rhai."

    Cody: "Oedd lot i gymryd mewn, ond fi'n meddwl i fi, roedd lot o excuses, do'n nhw ddim yn ymddiheuro, dim yn cymryd y bai."

    Aaron: "Oedd y ddadl yn eithaf da ond trueni.. oedden nhw i gyd yn sôn le oedden nhw eisiau hala'r arian, ond neb yn dweud o le mae'r arian yn dod."

  6. Da clywed 'amrywiaeth o safbwyntiau' yw un farn o'r Stafell Sbinwedi ei gyhoeddi 22:12 GMT+1 23 Ebrill

    Dyma argraffiadau mwy o fyfyrwyr Jomec ar ôl gwylio yn y Stafell Sbin heno.

    Dywedodd Ifan: "O’n i’n meddwl bod hi'n ddadl danllyd - lot o fynd nôl a 'mlan rhwng yr arweinyddion a cynrychiolwyr o’r pleidiau.

    "O'dd sawl peth sydd yn becso pobl ar lawr gwlad o amaeth, costau byw a'i iaith Gymraeg.

    "Odd hi’n ddadl barchus ar y cyfan a dadl gobeithio a fydd yn helpu pobl i 'neud eu penderfyniad nhw wedyn ar y 7fed o Fai."

    I Beca, roedd angen mwy o sôn am sut fyddai'r pleidiau yn cefnogi myfyrwyr.

    "O ran addysg dwi’n meddwl ella 'sa mwy o sôn wedi bod am sut ‘sa’n nhw’n helpu i gefnogi pobl ifanc efo pethe fel taxes.

    "Dwi'n meddwl odd e’n dda clywed amrywiaeth o safbwyntiau gan pobl gwahanol.

    "Ag odd o’n ddiddorol clywed am faint o bobl oedd yn poeni amdan amaethyddiaeth a sut wedyn ‘sa’r pleidiau yn helpu cefnogi nhw."

  7. Beth mae'r Senedd yn ei wneud ac ar beth mae £25bn yn cael ei wario?wedi ei gyhoeddi 22:08 GMT+1 23 Ebrill

    Roedd un o'r cwestiynau heno yn cyfeirio at bwerau'r Senedd.

    Beth mae Senedd Cymru yn ei wneud? Ac ar beth mae £25bn yn cael ei wario?

    Mared Parry a BBC Bitesize sydd yn esbonio.

    Disgrifiad,

    Mared Parry a BBC Bitesize sydd yn esbonio beth mae'r Senedd yn ei wneud

  8. Bethan Rhys Roberts: 'Teimlo tensiwn rhwng y gwleidyddion a'r gynulleidfa'wedi ei gyhoeddi 22:04 GMT+1 23 Ebrill

    Wedi awr a hanner o ddadl, mae Bethan Rhys Roberts yn dweud ei bod hi wedi mwynhau cadeirio'r noson.

    Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd:

    "Roedd hi'n fywiog. Gobeithio aeth hi ddim yn rhy flêr.

    "Roedd cymaint o ddwylo i fyny a'r sêr, wrth gwrs, yw'r gynulleidfa a'r profiadau personol.

    "Mae pobl yn teimlo'n ddirdynnol am y pynciau yma a dyna sy'n dda am ddadl fel 'na.

    "Roedd y tensiwn yn yr 'stafell yna i'w deimlo ac roedd 'na wefr yna ac roedd hi'n fraint cael bod yna."

    Bethan Rhys Roberts
  9. 'Dim digon o sylw i bobl ifanc', medd y myfyrwyrwedi ei gyhoeddi 22:01 GMT+1 23 Ebrill

    Mae criw o fyfrwyr Jomec wedi bod yn gwylio'r ddadl heno a dyma oedd gan rhai ohonyn nhw i'w ddweud.

    Dywedodd Efa: "Ro'n i'n meddwl fod e'n ddiddorol iawn ond do'n i ddim yn gweld bod lot o sôn am fyfyrwyr neu topics sy'n berthnasol i bobl ifanc. Roedd lot o ffocws ar amaeth a doedd hwnna ddim yn berthnasol i fi achos fi'n fyfyrwraig yn y ddinas, so o ni'n gobeithio bydde fwy o sôn am broblemau mae pobl ifanc yn delio gyda fe.

    Dywedodd Betsan: "Dwi'n teimlo 'mod i heb gael fy nghynrychioli mor dda a 'swn i wedi licio, ella bod ffordd oedd y ddadl wedi ei chreu bach yn anodd er mwyn tynnu pethau newydd ac ro'n i'n teimlo bod Reform yn cael gormod o sylw, ac er mod i'n cefnogi Plaid Cymru, dwi'm yn siŵr pam 'swn i wedi gallu pleidleisio Plaid heddiw achos doedd dim llawer o sgwrs gan Rhun yn fan'na.

    Ychwanegodd: "Hefyd materion am yr iaith Gymraeg a diwylliant, ella roedd hwnna yn destun peryg achos doedd Reform ddim yn cynnig ymddiheuriad a chwaith oedd neb yn rili herio nhw'n ddigon da dwi'm yn meddwl.

    Sami, Betsan ac Efa
    Disgrifiad o’r llun,

    Sami, Betsan ac Efa

    Roedd Sami o'r farn hefyd nad oedd pobl ifanc wedi cael digon o sylw.

    "Dwi'n teimlo ein bod wedi cael ein tangynrychioli, fel unigolyn sy'n byw mewn ardal eithaf dinesig a hefyd yn fyfyriwr yng Nghaerdydd.

    Roedd prif ffocws y ddadl ar amaeth ac ar gefn gwlad. Fel myfyriwr beth am gostau byw myfyriwr, beth am y pethau sy'n ein hwynebu ni?

    "Roedd hi'n ddadl dda ac o'n ni wedi dysgu lot am fwriadau'r pleidiau ond falle ond roeddwn i fel unigolyn ffili uniaethu gyda dadl y pleidiau."

  10. Argraffiadau yr Athro Richard Wyn Jones wedi'r ddadl henowedi ei gyhoeddi 21:54 GMT+1 23 Ebrill

    Richard Wyn Jones
    Athro Gwleidyddiaeth Cymru

    Mae'r sylwebydd, yr Athro Richard Wyn Jones, yn credu bod dadl yn 'rhan o liw' yr etholiad.

    Er hyn, dyw e ddim yn credu bydd y gwleidyddion heno wedi newid llawer ar farn y gynulleidfa.

    Gwrandewch ar ei holl sylwadau ar bodlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru a fydd ar gael yn fuan.

    Disgrifiad,

    Ymateb y sylwebydd gwleidyddol Richard Wyn Jones i'r ddadl

  11. Dim ymddiheuriad am sylwadau Farage am yr iaithwedi ei gyhoeddi 21:48 GMT+1 23 Ebrill

    Fe wnaeth Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, wrthod ymddiheuro am sylwadau diweddar Nigel Farage am y Gymraeg.

    Fe gafodd arweinydd y blaid yn y DU ei feirniadu fis Mawrth am ddisgrifio pobl Cymru fel "siaradwyr estron" (foreign) mewn neges fideo.

    Yn dilyn sylwadau gan aelod o gynulleidfa Y Ddadl Fawr fe alwodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds sawl gwaith am ymddiheuriad gan Helen Jenner.

    Mewn ymateb, dywedodd dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru: “’Da chi’n wirioneddol meddwl bod hynny’n bwynt pwysig pan mae gymaint o bethau eraill” gan ychwanegu bod angen deall cyd-destun y fideo.

    Disgrifiad,

    A ddylai Reform ymddiheuro am sylwadau Nigel Farage am y Gymraeg?

  12. Pwy sy'n sefyll yn fy ardal i?wedi ei gyhoeddi 21:45 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r rhestr lawn o ba bleidiau ac ymgeiswyr annibynnol sy'n sefyll ym mhob etholaeth i'w gweld yma.

    Un bleidlais fydd gennych ar 7 Mai (neu cynt os ydych wedi dewis pleidleisio drwy'r post) ac fe fyddwch yn pleidleisio i blaid nid i unigolyn - heblaw bod unigolyn yn sefyll yn annibynnol.

    Mae pob plaid wedi dewis trefn yr ymgeiswyr ar eu rhestrau.

    etholiad
  13. 'Plaid a Reform yn hollol ymwybodol mai nhw yw'r ceffylau blaen'wedi ei gyhoeddi 21:44 GMT+1 23 Ebrill

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    "Dydy hi ddim yn syndod bod iechyd ‘di bod y peth cynta' i'r ddadl ffocysu arno ac wedi amlygu barn ymhlith y pleidiau.

    "‘Dan ni’n gweld safbwynt falle fel rhoi mwy o bwyslais ar ofal cymdeithasol - Jane Dodds yn benodol yn sôn hynny.

    "Ond wrth gwrs ma’r cwestiwn parhaol am y rhestrau aros i'r Blaid Lafur a hynny heddiw ar ddiwrnod cyhoeddi'r ffigyrau.

    "Dwi’n meddwl bod e’n ddiddorol bod Helen Jenner wedi dweud wrth Rhun ap Iorwerth 'ti’m yn gallu stopio siarad am Nigel Farage'.

    Mae’n amlwg bod y ddau yn ymwybodol bod y gwagle rhwng y ddwy blaid wedi lleihau.

  14. Angen i ffermwyr 'gynhyrchu bwyd'wedi ei gyhoeddi 21:34 GMT+1 23 Ebrill

    Reform UK

    Dywed Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru bod ffermwyr yn “cael eu hamro ac yn boddi mewn gwaith papur”.

    Mae gormod o ganolbwyntio ar sero net a’r amgylchedd, meddai, a “dim digon ar gynhyrchu bwyd”.

  15. Ansicrwydd yn effeithio ar iechyd meddwl ffermwyrwedi ei gyhoeddi 21:27 GMT+1 23 Ebrill

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds bod ffermwyr yn deall yr amgylchedd “yn well nag un proffesiwn arall” a’u bod wedi cael blynyddoedd o ansicrwydd sy’n effeithio ar iechyd meddwl.

    Mae angen “sicrwydd arian a rhaglen i ffermwyr ifanc”.

  16. Ymateb y pleidiau ar y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 21:25 GMT+1 23 Ebrill

    Iechyd oedd pwnc cyntaf y noson.

    Dyma beth oedd gan y gwleidyddion ar y panel i ddweud mewn ymateb i gwestiwn am wella'r rhestrau aros a chael gwared ar ofal mewn coridorau.

    Disgrifiad,

    Y pleidiau yn ymateb i gwestiwn am y gwasanaeth iechyd

  17. Yr amgylchedd yn bwysig i ffermwyrwedi ei gyhoeddi 21:23 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Cymru

    Yn ôl Rhun ap Iorwerth arweinydd Plaid Cymru, mae’n rhaid sicrhau “gwerthfawrogiad o amaeth oherwydd ei gyfraniad i gynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd, o ran cymdeithas ac economi wledig”.

    Ychwanegodd bod amaethwyr eisiau ffermio yn y ffordd fwyaf amgylcheddol posib a bod yn rhaid i lywodraeth eu helpu i wneud hynny.

  18. 'Dim lot am bobl sy'n byw yn y ddinas'wedi ei gyhoeddi 21:22 GMT+1 23 Ebrill

    Dywed Sami, un o griw Jomec fod 'na "ffocws mawr ar amaeth, cymunedau cefn gwlad ayyb. Dim lot am bobl sy'n byw yn y ddinas... yn enwedig pobl ifanc fel ni sy'n fyfyrwyr!"

  19. Angen datblygu economi cefn gwlad a Brexit 'wedi cael effaith mawr'wedi ei gyhoeddi 21:19 GMT+1 23 Ebrill

    Llafur Cymru

    Yn ôl prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan mae Brexit wedi cael effaith mawr ar amaeth.

    Ychwanegodd bod cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd yn bwysig i’r diwydiant a bod Llafur yn “gwrando”.

    Mae angen datblygu economi cefn gwlad yn gyffredinol, meddai, nid amaeth yn unig - er bod ffermio yn holl bwysig.

  20. Sylwadau eraill y gynulleidfa heno yn Yr Eginwedi ei gyhoeddi 21:17 GMT+1 23 Ebrill

    aelod o'r gynulleidfa
    aelod o'r gynulleidfa
Trending Now