Ail-greu'r byd o nofelau Jane Austen yng Nghymru - Paul 'Bach' Davies

Paul DaviesFfynhonnell y llun, Creative Wales
Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies, neu 'Paul Bach' o Felinfach yw rheolwr lleoliadau y gyfres

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro "wrth ei fodd" ei fod wedi llwyddo ail-greu'r byd o nofelau enwog Jane Austen yng Nghymru gan ddewis lleoliadau yn y de yn bennaf ar gyfer cyfres deledu newydd.

Mae 'The Other Bennet Sister' yn seiliedig ar gymeriadau o'r nofelau, Pride and Prejudice ac mae'n dilyn hanes Mary Bennet - y chwaer fwy tawel a swil.

Dywedodd y rheolwr lleoliadau, Paul Davies fod rhai'n credu y byddai'n amhosib "ffeindio lleoliadau o'r fath" yng Nghymru - gan fod yr hanes yn digwydd yn ardal y Llynnoedd a Llundain.

"Reit, ni mynd i 'neud rhywbeth am biti hyn," meddai a "dyna pryd nes i ddechrau 'neud ymchwil i ba fath o dai o'dd o gwmpas".

Fe lwyddon nhw ffilmio'r gyfres gyfan yng Nghymru.

Golygfa o'r gyfresFfynhonnell y llun, BBC/Bad Wolf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres yn seiliedig ar nofel Janice Hadlow, sy'n dilyn hanes un o'r chwiorydd sydd yn cael llai o sylw yn nofelau gwreiddiol Jane Austen, Mary Bennet

Ymhlith rhai o'r lleoliadau sy'n ymddangos yn y gyfres mae Gerddi Dyffryn, ym Mro Morgannwg a Sain Ffagan, yng Nghaerdydd ond mae rhai llai cyfarwydd hefyd.

Un ohonyn nhw ydy Penpont ger Aberhonddu a dyma oedd hoff leoliad Paul.

Mae fe'n ffantastig," meddai Paul wrth siarad ar raglen BBC Radio Cymru, Dros Frecwast.

Esboniodd y dyn o Geredigion, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Paul Bach o Felinfach, ei fod yn gyrru adref rhyw 20 mlynedd yn ôl trwy Aberhonddu a phenderfynodd alw mewn.

"A ges i sioc, o'n i 'di anghofio pa mor dda o'dd e a pha mor lliwgar yw e.

"So natho' ni droi hwnna i fod yn bentref Meryton" - sef y pentref sydd yng nghanol y stori ac i fod i gyfleu pentref yn Sir Hertford.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Clawr y gyfres, Mi fydd y gyfres yn cael ei darlledu ar y BBC nos Sul, 15 Mawrth

Mae Paul yn byw yn Aberarth, Ceredigion erbyn hyn ond wedi gweithio ym myd teledu ers dros 30 o flynyddoedd.

"Dwi wrth fy modd...mae'n hyfryd o swydd."

Y tro yma, pan ddechreuodd ei ymchwil fe ddaeth ambell le yn syth i'w feddwl meddai.

"Yn ne Cymru yn bennaf....mae cwpl o dai yn y fro falle sy'n addas," meddyliodd.

"Cwpl o lefydd yng Nghasnewydd falle bydde'n gweithio fel strydoedd yn Llundain."

Ond esboniodd yr her o gyfleu ardal y Llynnoedd - ac roedd yn pendroni am wythnosau gan fod hi'n anodd curo llyn Windermere fel lleoliad.

"Ac yna penderfynon ni fynd am hen weithfeydd glofaol Tairgwaith ym Mrynaman. Byddwch chi'n edrych ar hwnna a meddwl 'oh maen nhw 'di mynd i Lake Windermere'.

"So mae hwnna'n blu yn fy het," meddai.

Paul DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n mynd ati gydag agwedd eitha' positif," meddai Paul

Mae'r gyfres yn seiliedig ar nofel Janice Hadlow, sy'n dilyn hanes un o'r chwiorydd sydd yn cael llai o sylw yn nofelau gwreiddiol Jane Austen, Mary Bennet.

Mae'n dilyn taith Mary i fod yn ferch annibynnol.

Fe wnaeth Paul gyfaddef nad oedd yn gyfarwydd iawn â'r gwaith cyn y prosiect yma gan esbonio nad oedd wedi astudio Jane Austen yn yr ysgol ond "fi nawr yn ffan enfawr," meddai.

"Mae'r teimlad, mae'r gwisgoedd, mae'r colur a'r lleoliadau obviously yn edrych yn grêt."

Mae Paul yn falch iawn ei fod wedi llwyddo profi pobl yn anghywir a ffilmio'r gyfres gyfan yng Nghymru.

"Dwi'n mynd ati gydag agwedd eitha' positif," meddai.

Mae'n cerdded yn syth i "dai pobl, tai enfawr yma a gofyn 'oes modd i ni ffilmo yn eich tŷ? Falle bydda i'n dod gyda ffrind, neu 150 o ffrindiau'," meddai cyn pwysleisio "os chi'n dweud yr enw Jane Austen, ma' hwnna'n mynd yn bell hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now