Jack Evans o'r Bala, un o arwyr cynnar pêl-droed Cymru a Chaerdydd

Jack EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd John Hugh 'Jack' Evans o'r Bala'n bêl-droediwr arbennig a wnaeth enw i'w hun yn yr 1910au a'r 1920au.

Ond er iddo chwarae dros sawl tîm yn y gogledd, yng Nghaerdydd y daeth i enwogrwydd.

Cafodd ei eni yn Y Bala yn 1889, ac yn ei arddegau roedd yn brentis gyda'r argraffwyr lleol. Roedd gan y swyddfa argraffu yn Y Bala ei dîm pêl-droed ei hun, ac roedd Evans yn chwarae drostynt, cyn chwarae i Bala Wanderers, clwb sydd bellach ddim yn bodoli.

Chwaraeodd dros y Trallwng cyn arwyddo dros Wrecsam ar gyfer tymor 1908-09. Tra'n chwarae i Wrecsam gafodd anaf difrifol i'w ysgwydd, gyda'r meddyg yn dweud wrtho fod ei yrfa bêl-droed drosodd.

Arwyddo i Gaerdydd

Ond fe barhaodd Evans i chwarae, ac yn 1909 fe symudodd i'r de er mwyn parhau i weithio fel argraffydd yn y cymoedd. Tra roedd yn gweithio fel argraffydd ac yn aros i'w ysgwydd gryfhau fe chwaraeodd dros Glwb Pêl-droed Cwmparc ger Aberdâr, ac yn y cyfnod yma creodd o argraff ar yr Adar Gleision.

Yn 1910, Jack Evans oedd y chwaraewr cyntaf i Glwb Pêl-droed Dinas Gaerdydd brynu erioed, gydag ysgrifennydd ac un o sylfaenwyr y clwb, Bartley Wilson, yn talu chwe swllt am ei lofnod.

Chwaraeodd Evans yn y gêm gyntaf erioed ar Barc Ninian ar 1 Medi 1910, ac ef oedd y sgoriwr cyntaf erioed ar y maes.

Ffaith arall ddiddorol oedd bod Evans wedi helpu i adeiladu'r stadiwm gyda'i ddwylo ei hun yn 1910-11.

CaerdyddFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun o gêm ar Barc Ninian yn 1911, a rhaglen o'r gêm gyntaf erioed yn y stadiwm yn erbyn Aston Villa ar 1 Medi, 1910

'The Bala Bang'

Chwaraewr asgell chwith oedd Evans ac roedd yn enwog am ei ergyd nerthol tu hwnt. Mae adroddiadau iddo dorri garddwrn un gôl-geidwad ac fe adawodd golwr Manchester City yn anwybodol wrth i ergyd ei daro ar ei ben. Gyda'r enwogrwydd 'ma daeth y llysenw 'The Bala Bang'.

Yn 1912 cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru gan gymryd lle Ted Vizard ar gyfer gêm yn erbyn Iwerddon. Drwy wneud hyn, Evans oedd y chwaraewr cyntaf erioed o Glwb Dinas Caerdydd i wisgo crys coch Cymru.

Yn ôl y sôn fe gymerodd Billy Meredith, un o arwyr mwyaf Manchester United a Manchester City, Jack dan ei adain tra roedd y ddau'n chwarae dros Gymru.

Parc NinianFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Parc Ninian, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd o 1910 i 2009

Y Rhyfel Byd Cyntaf a Chwpan yr FA

Wedi dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 bu rhaid i Jack Evans fynd i ymladd, ynghyd ag wyth o chwaraewyr eraill o Glwb Dinas Caerdydd, a chwe chyn-chwaraewr.

Lladdwyd un o'i gyd-chwaraewyr, Tom Witts, ddeuddydd yn unig cyn y cadoediad.

Yn 1925 fe gyrhaeddodd Caerdydd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, dan gapteniaeth un arall o fawrion y clwb, Fred Keenor. Ond Sheffield United oedd yn fuddugol, 1-0.

Yn 1927 roedd Caerdydd unwaith eto yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Ond y tro hwn fe enillodd Caerdydd, gan guro Arsenal mewn gêm sy'n cael ei ystyried gan gefnogwyr y clwb fel eu buddugoliaeth enwocaf. Yn anffodus fe ddaeth y fuddugoliaeth y tymor wedi i Evans adael y clwb.

Roedd Evans gyda Chaerdydd o 1910 i 1926, ac er i'w gyfnod yn y rhyfel darfu ar ei yrfa bêl-droed, fe chwaraeodd yn agos i 400 o gemau dros yr Adar Gleision ac yn ffigwr allweddol wrth iddynt ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Lloegr.

Chwaraeodd ei ddwy flynedd olaf o bêl-droed gyda Bristol City cyn ymddeol yn 1928, yn 39 oed.

Caerdydd 1925Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd yn camu ar y cae i wynebu Sheffield United yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, 25 Ebrill 1925

Roedd crefydd yn elfen bwysig o fywyd Jack Evans, ac roedd yn ddiacon yng Nghapel Ebeneser, Caerdydd.

Yn ôl y sôn roedd yn ddyn diymhongar tu hwnt, yn ymweld â'r Bala'n aml ac yn falch iawn o'i Gymreictod a bro ei febyd.

Mae plac arbennig uwchben drws y tŷ ble roedd Evans yn byw yn Y Bala, yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn Gymro, yn Gristion ac yn bêl-droediwr.

Plac yn Y Bala
Disgrifiad o’r llun,

Y plac uwchben y tŷ yn Y Bala ble yr oedd Evans yn byw

Bu farw Jack Evans yng Nghaerdydd yn 1971, wedi iddo gael ei daro'n wael tra'n eistedd yn sedd fawr y Capel.

Enillodd wyth o gapiau dros Gymru rhwng 1912 ac 1923, gyda'r Rhyfel Mawr yn debygol o fod yn ffactor yn cyfyngu ar y niferoedd.

Heddiw, mae crys a medal Evans o rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, a'i gap cyntaf dros Gymru, i'w gweld yn yr ystafell fwrdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn ystod ei yrfa fe ddaeth y gŵr o Feirionnydd yn arwr i'r Adar Gleision, ac felly hefyd i dref Y Bala, ac mae'r 'Bala Bang' yn cael ei gofio hyd heddiw gan gefnogwyr Caerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now