Chwe Gwlad: Dim un newid i dîm Cymru

Rhys CarreFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae prif hyfforddwr Cymru wedi cyhoeddi tîm Cymru i wynebu'r Eidal yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn a does dim un newid.

Yr unig wahaniaeth o gymharu â'r 23 gafodd eu henwi i herio Iwerddon yr wythnos diwethaf yw bod Blair Murray ar y fainc yn lle Louie Hennessey.

Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm yn y bencampwriaeth ers curo'r Eidal yn ôl yn 2023 ac er y perfformiad gwell yn erbyn Iwerddon maen nhw nawr wedi colli 15 gêm chwe gwlad yn olynol.

Mae'n annhebygol iawn nawr y bydd Cymru'n osgoi'r llwy bren eleni ond mi fyddan nhw'n ysu am fuddugoliaeth.

Mi fydd y gêm yn dechrau am 16:40 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, ond mae'r Eidalwyr yn hyderus ar ôl buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Lloegr yr wythnos diwethaf.

Mi fydd yr Eidalwyr yn gobeithio ennill eu trydedd gêm eleni - os nawn nhw lwyddo dyna fydd eu record orau erioed yn y bencampwriaeth.

'Angen codi lefel'

Mi fydd yr asgellwr Josh Adams yn ennill cap rhif 70 ddydd Sadwrn wrth iddo baratoi i chwarae ym mhob gêm yn y bencampwriaeth eleni.

Roedd rhai cefnogwyr yn cwestiynu ei le yn y tîm cyn y gystadleuaeth ond mae wedi sgorio yn erbyn Lloegr a'r Alban.

Mae Alex Mann wedi cael ei ddewis unwaith eto yn y rheng ôl ar ôl perfformiadau cryf. Fe gyflawnodd 33 o daclau yn erbyn Iwerddon - sy'n record yn y Chwe Gwlad.

Yn ôl Steve Tandy mae dewis yr un tîm yn dangos "cydlyniad a chysondeb" o fewn y garfan. Ond mae'n herio'r garfan i "godi lefel" yr wythnos hon.

"Rydyn ni wedi cael rhai perfformiadau da iawn," meddai.

"Roedd yna rannau da yn erbyn Ffrainc, yna wnaethon ni ddod i mewn i'r gêm yn erbyn yr Alban lle o'n i'n meddwl ein bod ni'n dda iawn.

"Ac yn erbyn Iwerddon fe gymeron ni gam ymlaen yn gorfforol."

Nawr mae angen "rhoi popeth at ei gilydd a chreu ein perfformiad gorau'r penwythnos hwn".

Dewi Lake - Cymru, Sione Tuipulotu - yr Alban, Jamie George - Lloegr, Antoine Dupont - Ffrainc, Caelan Doris - Iwerddon, Michele Lamaro - yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd enillydd y Chwe Gwlad ac yn cael ei benderfynu ddydd Sadwrn gyda Ffrainc a'r Alban ar yr un pwyntiau cyn y penwythnos olaf

Tîm Cymru:

Rees-Zammit; Mee, James, Hawkins, Adams; Edwards, Williams; Carre, Lake, Francis, Jenkins, Carter, Mann, Wainwright, Botham

Eilyddion: Elias, Smith, Griffin, Beard, Cracknell, Hardy, Evans, Murray.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now