Rhybudd am sgamio yn y Gymraeg cyn Dydd Santes Dwynwen

Llun person sydd wedi cael ei sgamioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros £11m ei golli i droseddau ariannol a sgamiau yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Wrth i gariadon ar draws Cymru baratoi i ddathlu Dydd Santes Dwynwen, mae yna rybudd i bobl fod yn wyliadwrus am sgamiau - hyd yn oed yn yr iaith Gymraeg.

Yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar 25 Ionawr, mae Dydd Santes Dwynwen yn gyfle i ddathlu cariad, a daw ychydig wythnosau cyn Gŵyl San Ffolant ar 14 Chwefror.

Ond er bod Dydd Santes Dwynwen yn llai adnabyddus ar draws y byd, mae Gwasanaeth Arian a Phensiynau Cymru yn dweud nad yw hynny'n ei eithrio rhag sgamiau.

Yn ôl Lawrence Davies, rheolwr partneriaethau Cymru o fewn y sefydliad, mae'n "anghywir ac yn beryglus" meddwl na allwch gael eich twyllo yn y Gymraeg.

Llun Lawrence DaviesFfynhonnell y llun, Elyse Marks
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lawrence Davies yn annog pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau yn yr iaith Gymraeg

Yn 2025 derbyniodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau adroddiadau am dros £11m oedd wedi'i golli i droseddau ariannol a sgamiau.

Cysylltodd 635 o bobl gyda'r sefydliad, gyda cholled gyfartalog o £17,785 y pen.

Yn ôl y sefydliad, mae'n bosib bod y ffigwr gwirioneddol yn llawer uwch os yn cynnwys y rheiny sydd heb adrodd colledion.

"Mae Dydd Santes Dwynwen yn achlysur arbennig i bawb yng Nghymru ddod at ei gilydd fel cymuned a dathlu traddodiad sy'n unigryw i'n cenedl," meddai Mr Davies.

"Ond nid yw hynny'n golygu na fydd sgamwyr yn defnyddio Dydd Santes Dwynwen i dargedu pobl.

"Rwy'n annog pobl yng Nghymru i fod yn wyliadwrus."

Llun goleudi Ynys Llanddwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn yn cael ei gysylltu gyda chwedl Dwynwen

Yn ôl y Gwasanaeth Arian a Phensiynau mae un ym mhob tri oedolyn o Gymru yn dweud y bydden nhw'n teimlo embaras, yn wirion neu'n ffôl wrth gyfaddef i ffrindiau eu bod wedi cael eu twyllo.

Ond mae Mr Davies yn annog pobl i beidio â theimlo felly ac i chwilio am gymorth cyn gynted â phosibl.

"Os ydych chi wedi colli arian i sgam, does dim angen teimlo embaras neu gywilydd.

"Rydych chi wedi cael eich targedu gan droseddwyr, ac nid ydych chi ar fai.

"Chi'n gallu siarad ag arbenigwr o HelpwrArian am gymorth cyfrinachol am ddim, heb feirniadaeth."

Mae HelpwrArian, dolen allanol yn sefydliad sydd wedi'i gefnogi gan Lywodraeth y DU.

Maen nhw'n cynnig cymorth diduedd am ddim ar sawl mater ariannol gwahanol.

Ychwanegodd Mr Davies: "Y cam cyntaf yw rhoi gwybod am y sgam, a gall hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.

Dywedodd y dylai pobl hefyd roi gwybod am y drosedd i Report Fraud.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now