'Cewch am brawf calon' - neges dau deulu wedi profiadau dirdynnol

Bydd profion calon am ddim yn cael eu cynnal yn Aberaeron ddydd Sul er cof am Glyn Rees
- Cyhoeddwyd
Mae teulu yng Ngheredigion yn gobeithio y gall diwrnod sgrinio calonnau am ddim i bobl ifanc yn Aberaeron godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwirio iechyd y galon.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sul, 8 Mawrth, ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 26 oed, er cof am y ffermwr lleol, Glyn Rees a oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Aberaeron.
Bu farw o drawiad ar y galon yn hydref 2025.
Yn ôl y British Heart Foundation Cymru mae clefydau'r galon yn gyfrifol am fwy nag un o bob pedair marwolaeth yng Nghymru – tua 9,600 o bobl bob blwyddyn, cyfartaledd o 26 y dydd.
'Roedd Dad-cu yn byw ac yn anadlu rygbi'
Glyn Rees oedd capten cyntaf tîm Clwb Rygbi Aberaeron ac roedd yn ffigwr amlwg yn y gymuned.
Yn ôl ei wyres, Alaw Rees, roedd rygbi a'r fferm deuluol yn ganolog i'w fywyd.
"Roedd Dad-cu yn berson oedd yn gweithio'n galed iawn – yn ffermwr balch oedd wrth ei fodd ar y tir adre," meddai.
"Ond roedd rygbi bron yr un mor bwysig iddo. Roedd e'n byw ac yn anadlu'r gêm. Roedd e wedi chwarae ei hun, wedyn ar y pwyllgor, ac roedd e'n un o'r bobl wnaeth helpu sefydlu Clwb Rygbi Aberaeron a dod yn gapten cyntaf y clwb.
"Roedd e'n hynod falch o weld ei feibion Hywel ac Euryl yn chwarae i'r clwb, ac erbyn hyn mae fy mrawd Steffan a'n cefnder Hefin yn gwisgo crys Aberaeron hefyd."

Dywedodd Alaw fod colli sawl aelod o'r teulu oherwydd problemau'r galon wedi gwneud y mater yn un pwysig iawn iddyn nhw
Dywedodd Alaw fod colli sawl aelod o'r teulu oherwydd problemau'r galon wedi gwneud y mater yn un pwysig iawn iddyn nhw.
"Fe gollon ni Dad-cu o drawiad ar y galon, ond doedd e ddim y person cyntaf. Fe gollon ni Anti Mair ac Wncwl Bleddyn hefyd. Dyna pam rydyn ni'n teimlo mor gryf am hyn – os gallwn ni helpu rhywun i ddarganfod problem cyn iddi fynd yn rhy hwyr, byddai hynny'n golygu popeth."
Dywedodd fod y teulu wedi penderfynu defnyddio'r arian a godwyd wedi ei farwolaeth i helpu'r gymuned.
"Roedden ni'n teimlo mai dyna fyddai e wedi'i eisiau – rhywbeth oedd yn helpu pobl ifanc yn y gymuned," ychwanegodd.
'Gall popeth newid mewn eiliad'
Ym mis Rhagfyr 2024 cafodd tad Millie Campden o Gaerdydd ataliad ar ei galon ar ôl mynd allan i gerdded y ci gyda'r nos.
Dywedodd Millie fod y digwyddiad wedi dod fel sioc enfawr i'r teulu.
"Ar ôl dod adref o ddiwrnod yn y gwaith a gwneud bwyd i bawb, aeth Dad allan gyda'n ci, Gwen, am dro," meddai.
"Ond ar ôl iddo fod allan am beth amser, daeth un o'n cymdogion at y drws i ddweud bod rhywbeth wedi digwydd i Dad.
"Aethom i lawr y stryd a gweld Dad yn gorwedd ar y llawr gyda'n cymdogion yn rhoi CPR iddo. Yna fe wnaeth Mam ymuno a dechrau rhoi CPR arno hefyd."

Millie a'i thad Mike Campden
Erbyn heddiw mae ei thad wedi gwella ac yn byw bywyd arferol unwaith eto. Ond dywedodd Millie fod y profiad wedi bod yn un brawychus iawn.
"Roedd yn brofiad ofnadwy iawn i ni i gyd fel teulu, oherwydd mae pethau fel hyn yn gallu bod yn fatal, nath e rili codi ofn ar bawb," meddai.
"Roedd Dad dim ond newydd gael ei 60 felly fe wnaeth y profiad wneud i ni sylweddoli pa mor fregus a gwerthfawr yw bywyd, a pha mor gyflym y gall popeth newid."
Sgrinio calonnau er cof am gapten clwb pêl-droed
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2025
Asesiad iechyd i bawb yng Nghrymych wedi marwolaeth chwaraewr
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2025
Dywedodd Millie fod y digwyddiad wedi gwneud iddi sylweddoli pa mor bwysig yw sgrinio'r galon.
"Mae pethau fel hyn yn gallu digwydd mor sydyn a heb rybudd o gwbl. Dyna pam rwy'n credu bod sgrinio'r galon mor bwysig – gall helpu i ddarganfod problemau cyn iddyn nhw droi'n argyfwng.
"Rydw i a fy mrawd, Tom, wedi mynychu sesiynau sgrinio Calon Hearts UK, ac rwy'n meddwl bod hi'n bwysig i eraill wneud hefyd – yn enwedig os oes hanes teuluol o broblemau'r galon.
"Hoffwn helpu i godi ymwybyddiaeth fel bod llai o bobl yn gorfod mynd drwy'r hyn a ddigwyddodd i fy nhad."
'Un sgan yn gallu achub bywyd'
Yn ôl British Heart Foundation Cymru, mae tua 340,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefydau'r galon.
Er bod y gyfradd farwolaeth wedi gostwng dros y degawdau, mae tua 2,700 o bobl o dan 75 oed yng Nghymru yn dal i farw o'r cyflyrau hyn bob blwyddyn.
Yn ôl Alaw Rees, mae llawer o bobl ifanc yn credu nad yw problemau'r galon yn effeithio arnyn nhw.
"Os gall rhywun ddod i gael eu calon nhw wedi sgrinio a darganfod rhywbeth mewn pryd – ma modd i un sgan allu achub bywyd.
"Rydyn ni fel teulu yn meddwl bod e'n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth a chefnogi achosion fel hyn.
"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn y gymuned yn cael y cyfle i sgrinio eu calon a gweld os oes unrhyw beth nad ydyn nhw'n ymwybodol ohono."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.