Y Gwasanaeth Iechyd yn bwnc dadleuol yn ystod dadl arweinwyr

Bu arweinwyr y chwe phrif blaid wleidyddol yng Nghymru yn rhan o ddadl ar y teledu
- Cyhoeddwyd
Wrth i arweinwyr y chwe phrif blaid wleidyddol yng Nghymru fynd benben ar deledu byw am y tro cyntaf, bu cryn ddadlau am y gwasanaeth iechyd.
Yn ystod y ddadl fyw yn y Senedd ar ITV Cymru, dywedodd Eluned Morgan o'r Blaid Lafur fod y GIG wedi gweithio i'r mwyafrif helaeth o bobl ond cyfaddefodd fod "angen gwneud mwy".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, nad oedd unrhyw un yn credu yr hyn a oedd gan y Blaid Lafur i'w ddweud ar y GIG bellach a dywedodd Dan Thomas o'r Blaid Reform fod Plaid a Llafur mewn "sioe Punch and Judy ffug".
Yn ôl y Ceidwadwr, Darren Millar, mae'r GIG mewn "argyfwng" a galwodd y Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds, am fwy o arian gofal cymdeithasol, tra dywedodd Anthony Slaughter o'r Blaid Werdd y dylai San Steffan ddarparu mwy o arian parod.
Y GIG yn thema amlwg
Mae penderfynu beth i'w wneud am y GIG sydd o dan bwysau wedi bod yn un o themâu mawr yr etholiad yma ac roedd y pwnc yn amlwg wrth i arweinwyr y chwe phlaid wynebu ei gilydd.
Mae Llafur Cymru wedi bod yn wynebu brwydr anodd i leihau rhestrau aros yn y cyfnod cyn yr ymgyrch hon ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cyfanswm y cleifion sy'n aros am driniaeth wedi gostwng wyth mis yn olynol.
Ond, maen nhw'n parhau i fod yn uchel gyda 713,048 o lwybrau cleifion - y camau o atgyfeirio i driniaeth - ar restrau aros ym mis Ionawr. Roedd hynny bron 28,000 yn llai na'r mis cynt.
Nododd arweinydd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, fod mwy na 50% o gyfanswm cyllideb llywodraeth Cymru - ychydig dros £27biliwn - wedi'i wario ar y gwasanaeth iechyd.
Etholiad 2026: Pa un yw fy etholaeth i a phwy yw'r ymgeiswyr?
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cwis: Etholiad y Senedd 2026
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dywedodd Ms Morgan, sydd wedi gwasanaethu fel y gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd, nad oedd hi'n ymddiheuro am y gwariant hwnnw.
Amddiffynnodd hi ei safbwynt trwy ddweud bod 2.75m o apwyntiadau GIG yng Nghymru bob mis, allan o boblogaeth o 3 miliwn o bobl.
Dywedodd fod meddygon teulu yn gweld "cyfwerth ag 1.6 miliwn o bobl" bob mis:
"Mae hwn yn waith enfawr.
"Mae'n gweithio i'r mwyafrif helaeth o bobl, ond dwi'n cydnabod bod angen gwneud mwy a dyna pam y byddwn ni'n adeiladu ysbytai newydd.
"£4biliwn ar ysbytai newydd, un yng Nghaerdydd, trawsnewid yr un yn Wrecsam ac un yng ngorllewin Cymru."
'Neb yn credu Llafur'
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, feirniadu y record gan ddweud nad oes "unrhyw un yn credu Llafur bellach ar iechyd ac wrth gwrs, mae Eluned Morgan wedi bod yn gymeriad canolog yng nghwymp y GIG yng Nghymru".
"Mae'n rhaid i ni ganfod ffordd o'i roi ar sail gynaliadwy a dyna beth mae polisïau Plaid Cymru yn ei addo."
Dywedodd y byddai llywodraeth o dan ei arweiniad yn rhoi £100m ychwanegol i'r GIG yn y flwyddyn gyntaf.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Nigel Farage, arweinydd Reform UK, eisiau system gofal iechyd a fyddai'n "seiliedig ar yswiriant" gan ddweud y byddai hyn yn preifateiddio'r GIG.
Cafodd y cyhuddiad hwn ei wrthod gan arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas.
"Nawr efallai fod arweinydd ein plaid yn y DU wedi dweud pethau yn y gorffennol sydd wedi'u cymryd allan o gyd-destun.
"Fi'n egluro y bydd y GIG yn parhau i fod yn rhad ac am ddim yng Nghymru ac felly bydd presgripsiynau am ddim hefyd."
Dywedodd Mr Thomas hefyd fod Llafur a Phlaid Cymru mewn "sioe Punch and Judy ffug a fydd drosodd ar ôl mis Mai."
Ychwanegodd: "Mae'r ddau yma wedi bod yn gweithio mewn llywodraeth yn y gorffennol a byddant yn ceisio gwneud hynny ar ôl yr etholiad.
"Felly ni allwch ymddiried yn hynny."
'Argyfwng'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, fod y GIG mewn "argyfwng" na allai ond gael ei ddatrys drwy'r hyn a alwodd yn "argyfwng iechyd" yn cael ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru:
"Mae'r GIG yng Nghymru mewn sefyllfa argyfyngus. Nid oes digon o welyau. Byddem yn cynyddu nifer y gwelyau hynny fel nad oes rhaid gofalu am bobl mewn coridorau a chypyrddau.
"Yn ôl Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, bu farw dros 1,000 o bobl y llynedd yn unig oherwydd gofal mewn coridor, oherwydd eu bod yn aros am fwy na 12 awr yn ein hadran achosion brys.
"Felly mae angen i ni drwsio hynny a'r unig ffordd o wneud yw trwy gael ffocws uniongyrchol arno a datgan argyfwng iechyd."
'Gonest ac agored'
Polisi allweddol gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ydy'r posibilrwydd o gynyddu ceiniog ar y dreth incwm, i greu cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i gadw pobl allan o'r ysbyty, pwynt a gafodd ei danlinellu gan eu harweinydd.
Meddai Jane Dodds: "Mae gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn mynd gyda'i gilydd, ac os gallwch chi gadw pobl allan o ysbytai, ac os gallwch chi eu cael nhw allan o ysbytai yn gyflym, yna mewn gwirionedd bydd yn helpu ein gwasanaeth iechyd.
"Rydym yn bod yn onest ac yn agored iawn gyda phobl.
"Dydyn ni ddim am dorri trethi oherwydd ein bod ni'n meddwl bod angen i ni amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus.
"Mae angen arian ychwanegol arnom yn ein cyllideb ac os na allwn ni ei gael mewn unrhyw ffordd arall, byddwn ni'n codi ein trethi o geiniog," meddai Ms Dodds.
'Nid dogfen gyllideb yw maniffesto'r blaid'
Ar ran y Blaid Werdd yng Nghymru, cyfaddefodd Anthony Slaughter nad oedden nhw wedi bod yn glir ynglŷn â chyllid ar gyfer y GIG.
Dywedodd nad "dogfen gyllideb yw maniffesto'r blaid. Ein blaenoriaethau ni yn y cyfeiriad yr ydym yn teithio ynddi yw hi".
Yn ei ôl ef, byddai llunio cynllun gwariant ar gyfer pob adran o'r llywodraeth am y pedair blynedd nesaf yn "ffôl".
Ychwanegodd Mr Slaughter y byddai'n galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu arian ychwanegol i'r GIG.
Awgrymodd nad ydy Cymru wedi cael y pres sy'n haeddiannol ac "mae'n rhaid iddi gael yr arian sy'n ddyledus iddi".
Bydd Y Ddadl Fawr yn fyw o'r Egin am 20:00 ar 23 Ebrill, ar S4C, BBC Radio Cymru, BBC Sounds, BBC Cymru Fyw a YouTube S4C.
Mae Etholiad y Senedd 2026 yn cael ei gynnal ar 7 Mai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.