Gweithiwr iechyd heb gymwysterau wedi twyllo'r GIG gyda dogfen ffug

Oluwabunmu Adeleiyi tu allan i Lys y Goron Caerdydd dydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Oluwabunmu Adeleiyi y tu allan i Lys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a dwyllodd y GIG trwy weithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd gan ddefnyddio dogfen adnabod ffug, er nad oedd ganddi unrhyw gymwysterau meddygol, wedi osgoi dedfryd o garchar.

Roedd Oluwabunmu Adeleiyi, 30, o Nigeria yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Nhreganna, Caerdydd ar fisa myfyriwr, yn gweithio yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac yng Nghlinig Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe wnaeth Adeleiyi bledio'n euog i bedwar cyhuddiad o dwyll drwy gamgynrychiolaeth - dau yn ymwneud â'r ysbyty ym Mhort Talbot a dau yn yr uned iechyd meddwl ym Mhen-y-bont.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei bod hi a dau berson arall wedi defnyddio'r un dogfennau adnabod i anfon bil at y GIG o tua £16,000 y mis, drwy wahanol asiantaethau cyflogaeth.

Ymddygiad 'rhyfedd'

Daeth y twyll i'r amlwg wedi i Adeleiyi orffen shifft nos yng Nghlinig Caswell.

Sylwodd derbynnydd fod llun pasbort wedi'i roi ar y cerdyn adnabod, a oedd yn cael ei gadw mewn waled blastig.

Pan gafodd ei chwestiynu gan y derbynnydd, gwrthododd Adeleiyi drosglwyddo dogfennau'r shifft.

Cafodd y mater ei gyfeirio at uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, wnaeth ddatgan "digwyddiad critigol".

Fe wnaeth ymchwiliad y bwrdd iechyd ganfod bod staff wedi sylwi ar ymddygiad "rhyfedd" yn ystod ei sifftiau, gan gynnwys cloi ei hun mewn ystafell ar ward.

Roedd Adeleiyi hefyd yn cloi drysau mewn coridorau ddylai aros ar agor rhag ofn bod tân neu os fyddai angen staff i helpu delio gyda chleifion treisgar.

'Rhoi staff a chleifion mewn perygl'

Roedd gan Adeleiyi fynediad at nodiadau cyfrinachol cleifion, ac roedd hi'n ychwanegu ei nodiadau arsylwi ei hun.

Clywodd y llys fod penaethiaid iechyd wedi dweud y gallai'r peryglon posibl fod "yn drychinebus".

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod perchennog gwreiddiol y ddogfen adnabod, a oedd yn weithiwr cymorth gofal iechyd cofrestredig, wedi ffoi o'r DU i Nigeria gan ddefnyddio pasbort ffug.

Dywedodd y barnwr, y cofiadur Mark Powell wrth Adeleiyi ei bod wedi rhoi staff a chleifion mewn perygl.

Cafodd Adeleiyi ddedfryd o 10 mis o garchar am bob un o'r pedwar cyhuddiad (40 mis i gyd ond i gyd-redeg) wedi'u gohirio am ddwy flynedd.

Bydd yn rhaid iddi hefyd gyflawni 100 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl.

Dywedodd Neil Jones, arbenigwr gwrth-dwyll gyda Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, nad oedd Adeleiyi wedi cael llawer o gyswllt gyda chleifion.

"Fe wnaeth adolygiad gan y bwrdd iechyd benderfynu nad oedd unrhyw gleifion wedi cael eu niweidio," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now