Crufts: Cythraul canu neu gythraul cyfarth?

Nia Huws (siaced binc) gyda'i chŵn mewn sioe yn Blackpool yn 2025
- Cyhoeddwyd
Ddydd Iau nesaf bydd Sioe Gŵn fwya'r byd yn cychwyn yn Birmingham... sioe enwog Crufts.
Er bod cŵn o Gymru wedi cael peth llwyddiant dros y blynyddoedd, does yr un ci o Gymru wedi ennill y brif wobr - 'Best in Show' - ers i ddaeargi Cymreig ennill yn 1959.
Un sy'n gobeithio newid hynny yw Nia Huws o Dregarth ger Bangor.
Fe fydd hi'n cychwyn am Birmingham gyda'r ddwy ast - Haf a Razz - gan anelu at gael teitl y cyfeirgi (Red Setter) gorau yn y sioe.

Razz gyda'i thystysgrif am ddod yn ail yn ei brîd yn Crufts y llynedd a Nia wrth ei bodd
Gyda dros 20,000 o gŵn yn cystadlu yn Crufts, mae'n dipyn o dasg, ond nid yn un amhosib.
Nid yw Crufts yn sioe agored - mae'n rhaid cymhwyso i gyrraedd yno drwy orffen yn gyntaf, ail neu drydydd mewn unrhyw sioe gŵn awdurdodedig gan y Kennel Club.
Daeth Razz - gast bedair oed - yn ail ymhlith y cyfeirgwn yn Crufts y llynedd gyda Haf yn gorffen yn bedwerydd, ac mae'r ddwy ast wedi ennill gwobrau eraill mewn sioeau gydol y flwyddyn aeth heibio.
Mae Haf bellach yn wyth oed ac felly'n cystadlu fel ci profedig (veteran), ond bydd Razz yn rhoi cynnig arall ar fod y gorau yn ei brîd.
Bu Nia'n sgwrsio gyda Cymru Fyw i sôn am sut mae paratoi at sioe mor fawr.

Mae'n bwysig 'cyflwyno' ci neu ast gerbron y beirniaid mewn sioe fawr fel Crufts
"Fel ar gyfer bob sioe, mae'n rhaid trimio blew y cŵn fel eu bod nhw ar eu gorau - ddim rhy gynnar fel bod y blew yn tyfu'n ôl, ond ddim rhy hwyr chwaith - ac fe fyddan nhw'n gwisgo cot arbennig i deithio o'r maes parcio i'r sioe ei hun er mwyn eu cadw'n drwsiadus.
"Mi fydda' i wedi cael amserlen, ffurflenni a rhif cystadlu o flaen llaw ac fe fyddwn ni'n cael ein galw i'r cylch.
"Rhan bwysig o'r beirniadu yw 'stacio' y ci - gafael yn y ci mewn ffordd arbennig i'w gyflwyno i'r beirniad - ac yna cerdded o amgylch y cylch wrth i'r beirniad benderfynu.

Razz a Haf ar ôl gorffen yn 2il a 4ydd ymhlith y cyfeirgwn (red setters) yn Crufts 2025
"Rydan ni'n gwybod fisoedd o flaen llaw pwy ydi'r beirniaid i bob adran a brîd, ac mae bob beirniad yn chwilio am bethau gwahanol weithiau.
"Dwi'n gwybod fod rhaid aros i weld pwy ydi'r beirniaid cyn penderfynnu os fyddan nhw'n cystadlu neu beidio - mae'n debyg i steddfod mewn ffordd ac mae yna beth 'cythraul canu' yn digwydd mewn ffordd!
"Mae dau feirniad gwahanol yn dewis y ci a'r ast gorau ymhob brîd, ac yna mae'r ddau yn cyfarfod i drafod y gorau o'r ddau enillydd yna i fynd ymlaen i'r cam nesaf."

Mae beirniaid Crufts yn cadw llygad barcud ar y cŵn wrth iddyn nhw redeg o amgylch y cylch
Wedi i enillwyr bob brîd unigol gael eu dewis, maen nhw wedyn yn mynd ymlaen i gystadlu i fod y gorau yn y grŵp, ac mae yna saith o'r rheini - Gundog, Hound, Pastoral, Terrier, Toy, Utility a Working.
Gundogs yw Razz a Haf, a dyna'r grŵp mwyaf llwyddiannus yn hanes Crufts, ond hefyd yr un gyda'r nifer fwyaf yn cystadlu.
Mae 250 o gyfeirgwn yn y sioe eleni, ond 600 o adargwn melyn (retrievers)!
Mae'r odds o'ch plaid dipyn gwell os oes gennych gi Komondor - math o gi defaid o Hwngari - gan mai ond tri o'r rheini fydd yn Crufts yr wythnos nesaf.

Milgi bach (whippet) o'r Eidal - Miuccia - oedd enillydd y brif wobr yn Crufts y llynedd
Mae un peth yn sicr, nid mynd i Crufts am wobr ariannol anferth mae unrhyw un sy'n mynd yno.
Mae'r gwobrau'n syfrdanol o isel, gydag enillydd 'Best in Show' ond yn derbyn gwobr ariannol o £200.
Ar y llaw arall, mae'r statws ac anrhydedd o ennill sioe gŵn fwya'r byd yn rhywbeth na all arian ei brynu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Chwefror

- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2025
