Cneifiwr o Gymru ar y brig yn Seland Newydd am y tro cyntaf mewn degawd

Cneifio yn ffeinal cneifio agored TaihapeFfynhonnell y llun, Gethin Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cneifio yn ffeinal cneifio agored Taihape

GanAnna George
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro wedi dod i'r brig mewn pencampwriaeth gneifio agored yn Seland Newydd am y tro cyntaf ers degawd.

Daeth Gethin Lewis o Raeadr Gwy i'r brig yn ffeinal cneifio agored Taihape ar fferm hanesyddol Erewhon Station ar 24 Ionawr.

Daeth yn fuddugol gyda 1.8435 o bwyntiau'n fwy na Rowland Smith o Maraekakaho a ddaeth yn ail, ac sydd wedi ennill y bencampwriaeth yma 10 o weithiau.

Dywedodd Gethin, sydd wedi gweithio fel cneifiwr yn Seland Newydd ers blynyddoedd, ei fod yn "ddiwrnod da iawn i Gymru ac i fi".

"Oedd e'n gystadleuaeth galed, roedd i gyd o'r top boys yn Seland Newydd yn cystadlu", meddai ar raglen Dros Frecwast.

'Cymru sydd wedi dod mas ar y top'

Y bencampwriaeth yma oedd cyfle olaf cneifwyr Seland Newydd i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Cneifio'r Byd.

Eglurodd Gethin: "Oedd e'n ddiwrnod mawr i'r bois yna a boi o Raeadr, Cymru sydd wedi dod mas ar y top.

"Roedden nhw i gyd yn hapus iawn i mi a ro'n i dros y lleuad, diwrnod arbennig."

Gethin yn cneifioFfynhonnell y llun, Ruth Rees Photography
Disgrifiad o’r llun,

Y cneifiwr cyflym o Raeadr wrth ei waith

Er ei fuddugoliaeth, doedd dim cenfigen yn ôl Gethin:

"Fi wedi bod yn ffrindiau gyda bois o Seland Newydd ers rhai blynyddoedd nawr. Roedden nhw mor hapus achos oedd e'r sioe gyntaf o'n i wedi ennill yn yr open sydd yn top grade."

Er mai dyma'r tro cyntaf iddo ennill y Taihape Open Shears, fe dorrodd Gethin a Llyr Evans record Prydain yn y gystadleuaeth gneifio wyth awr yn ystod haf 2025.

Fe lwyddon nhw i gneifio 1,364 o ddefaid.

cneifioFfynhonnell y llun, Gethin Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gethin yn edrych ymlaen at Bencampwriaeth Cneifio'r Byd ym mis Mawrth

Felly beth sydd nesaf i'r cneifiwr o Raeadr Gwy?

"Bydd y Golden Shears World Champs rhwng 6-8 Mawrth fydd yn wicend mawr iawn."

"Mae bois Cymru wedi cael lot o lwyddiant yn y rhai diwethaf... felly gobeithio bydd buddugoliaeth i Gymru unwaith eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now