Crempog, cramwyth, ffroes neu bancos?

Crempogau ar blatFfynhonnell y llun, Getty Images
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud!

Ond nid crempog fydd yn cael ei weini ymhob cartref yng Nghymru. Bydd rhai'n gwledda ar bancos, cramwyth neu ffroes.

Yr ieithydd Dr Iwan Rees fuodd yn olrhain tarddiad geiriau Cymraeg am grempog ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru.

Crempog

Mae'n siŵr mai'r gair sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf gan ogleddwyr yw crempog.

Mae crempog yn cael ei gofnodi am y tro cyntaf gan William Salesbury, awdur y Testament Newydd yn yr 16eg.

Mae'n cofnodi hwnnw yn y llysieulyfr meddyginiaethol. Byddech chi ddim yn disgwyl darllen am grempog fel rhywbeth meddyginiaethol. Ond mewn cymhariaeth mae William Salesbury yn ei ddefnyddio. Dywed fod 'codi dail yn gyrchion maldaswrn fel pentwr o grempogau wedi ymblannu yn ei gilydd'.

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru ychydig yn betrus ond yn awgrymu fod crempog yn perthyn i'r gair Saesneg crumpet.

Ciwio am gymysgedd crempog Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Ciwio am gymysgedd crempog

Pancos

Yn y de orllewin mae pancos yn gyffredin a bydd sawl ffurf ohono. Mae pancosen, pancog a phancogen yn cael ei ddefnyddio. A bydd mwy nac un pancos yn cael ei alw'n pancoge, pancogod a hyd yn oed pancocs!

Ond mae cofnod bod gogleddwyr yn dweud pancos hefyd. Mewn campwaith o'r enw Welsh Vocabulary of Bangor District mae'r awdur yn cofnodi ponco, a dyma'r diffiniad; flour mixed with bacon fat and then fried sometimes eaten with bacon.

Yn ardal Y Bala mae'n dueddiad i ddweud ponca, sydd hefyd yn gyfeiriad at rywun gwirion; 'yr hen bonca gwirion i ti'!

Cramwyth

Mae cramwyth yn air arall am grempog sydd gyda sawl ffurf. Bydd rhai'n dweud cramoth, cremoth neu crymoth ac mae'n gyfarwydd yn ne Sir Gaerfyrddin.

Mae'n hen air Cymraeg ac yr unig air am grempog sydd ddim wedi dod o iaith arall.

Mae gwreiddiau Celtaidd i'r gair yma achos mae'n perthyn i'r gair krampouezenn mewn Llydaweg.

crempogFfynhonnell y llun, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,

Crempog ar Ddydd Gŵyl Dewi slawer dydd

Ffroes

Mae ffroes yn air arall sy'n perthyn i'r de ond yn bellach i'r dwyrain. Yn yr hen sir Forgannwg bydd pobl yn dweud ffroesen am un, neu ffroesod am bentwr.

Mae ffrwys wedi ei gofnodi yng ngeiriadur John Walters 1773 hefyd. Ac mae ffreis a ffreisen yn codi yng Nghwm Tawe yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now