Dyn yn pledio'n euog ar ôl gyrru cerbyd JCB mewn i dafarn

Tafarn y New Inn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrod i du blaen tafarn y New Inn yn Rhigos yn amlwg wedi'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi pledio'n euog i yrru cerbyd JCB mewn i dafarn yn Y Rhigos.

Plediodd Daniel Morgan, 35, o'r Rhigos, yn Rhondda Cynon Taf, yn euog i'r holl gyhuddiadau gan gynnwys gyrru'n beryglus, difrod troseddol, dwyn cerbyd a difrodi eiddo.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig ar ôl 20:45 ar 4 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau bod cerbyd JCB wedi gyrru dros gar gwag oedd wedi parcio ar y stryd cyn taro mewn i dafarn y New Inn gan ddinistrio blaen y dafarn.

Roedd y dafarn ar agor ar y pryd ond ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.

Bydd Morgan yn cael ei ddedfrydu ar 20fed Ebrill a dywedwyd wrtho am ddisgwyl dedfryd o garchar.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now