Pwy fydd ar y gyfres newydd o Amour & Mynydd?

Amour a MynyddFfynhonnell y llun, S4C
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd y gyfres realaeth boblogaidd Amour & Mynydd yn dychwelyd i S4C ar 10 Chwefror.

Ond pwy fydd yr wyth o unigolion sengl sy'n gobeithio dod o hyd i gariad ar lethrau'r Alpau Ffrengig? Dyma nhw.

A fydd yr wyth yma'n poethi'r chalet?

AlawFfynhonnell y llun, S4C

Alaw, 23 oed o Bwllheli. Dawnswraig:

"Dwi definitely efo type – dwi'n definitely yn ffeindio rygby players yn fit!"

RhysFfynhonnell y llun, S4C

Rhys, 28 oed o Abertawe'n wreiddiol ond yn byw ac yn athro yn Abu Dhabi:

"Pam fi'n sengl? Anlwcus? Fi'n gwbod bo' fi'n waith caled, ond dyna jest y math o gymeriad 'i fi.

"Dwi'n out there, ty'm bach o extrovert, so mae pobl yn clywed fi cyn bo' nhw'n gweld fi, a falle bo' hynna ty'm bach yn annoying i rai pobl."

JasmineFfynhonnell y llun, S4C

Jasmine, 29 o Lanfrothen. Artist:

"Dwi wrth fy modd efo glamour, fur, sequins, diamonds, you name it. Obviously maen nhw i gyd yn faux – fedrai'm fforddio i brynu'r peth go wir.

"Dwi isio rhywun sy'n onest a bod nhw'm yn cymryd eu hunain yn rhy serious."

EvieFfynhonnell y llun, S4C

Evie, 27 oed o Drefriw, Dyffryn Conwy. Nyrs Milfeddygol:

"Dwi'n gobeithio ffeindio the love of my life – rhywun dwi ishio priodi. Rhywun dwi ishio treulio rest o bywyd fi efo, a rhywun i gael hwyl efo.

Dwi'n teimlo bod hwn yn opportunity da i gyfarfod rhywun yn syth – i fynd yn syth i'r deep end a dwi jest yn gallu dod i nabod nhw achos mod i'n byw efo nhw. Dwi ddim efo syniad be i ddisgwyl."

ConnorFfynhonnell y llun, S4C

Connor, 28 oed o Fanceinion. Swyddog Marchnata Digidol:

"Dwi'n teip o foi siwr o fod sy'n dod 'nôl i gwrdd â'ch Mam a bydd Mam yn hapus gobeithio. Dwi'n berson positif, ond dwi jest eisiau dangos pwy ydw i i'r byd – ac i'r chalet 'ma!"

RowanFfynhonnell y llun, S4C

Rowan, 27 oed o Eglwysbach. Arbenigwr Technoleg Amaethyddol:

"Sw'n i'm yn deud bo' fi'n llawer o Prince Charming, ond mae 'na bob siawns i mi allu disgyn mewn cariad efo rhywun yn Ffrainc – mae'n dibynnu pwy sy' 'na. Bring it on. Base hwn yn gallu newid bywyd fi!"

GwernFfynhonnell y llun, S4C

Gwern, 26 oed o Landysul. Gweithiwr Elusennol:

"Newydd ddod nôl o Awstralia ydw i, so 'di merched Cymru heb gael siawns eto!

"Wi'n chwilio am berson eitha hyderus a galluog – dwi'n credu bod hwnna'n bwysig iawn."

ManonFfynhonnell y llun, S4C

Manon, 26 oed o Lanelli. Gwas Sifil:

"Bydde ffrindie fi'n deud bo' fi'n falle cael lot o sylw gan fechgyn a bo' fi bach o fflyrt…wrth gwrs bo' fi'n catch.

"Ma' 'da fi criteria itha strict pan mae'n dod i fechgyn – rhywun sy'n dal, chwarae lot o chwaraeon, gwallt neis a dannedd neis.

"Ma' lot o fechgyn di deud bo' fi'n intimidating, ond sai'n gwbod pam!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now