Rhys Ifans i ymddangos mewn ffilm fer i ddathlu pen-blwydd CellB

Rhys IfansFfynhonnell y llun, Getty Images
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

I ddathlu degawd ers sefydlu sinema gymunedol CellB ym Mlaenau Ffestiniog, bydd ffilm yn cael ei rhyddhau gan bobl ifanc yr ardal fydd yn cynnwys ymddangosiad gan y seren Hollywood, Rhys Ifans.

Mae CellB wedi'i sefydlu yn hen orsaf Heddlu'r dref ac mae bellach wedi tyfu i fod yn ganolfan ddiwylliannol bwysig yn yr ardal.

Fel rhan o'r dathliadau eleni, bydd ffilmiau archif eiconig o'r sin roc Gymraeg o gyfnod 'Cool Cymru' yn cael eu dangos mewn gŵyl yn Llundain ym mis Mai.

Mae'r ffilm, Video Hud: Have You Seen Your Culture Baby, Standing in the Shadows? yn cynnwys archif o rai o fandiau mwyaf dylanwadol yr 1990au gan gynnwys Catatonia, Ffa Coffi Pawb a'r Super Furry Animals.

Un oedd yn aelod cynnar o'r Super Furry Animals oedd yr actor Rhys Ifans, ac mae wedi cytuno i wneud ymddangosiad cameo yn y ffilm hon.

Mae'r prosiect ffilm, dan arweiniad Gwenno Llwyd Till, Cian 'Clinc' Roberts, Yannick Hammer a Rhys Roberts, yn archwilio diwylliant ieuenctid Cymru trwy ffilm, cerddoriaeth a phrofiadau bywyd.

Criw CellBFfynhonnell y llun, CellB
Disgrifiad o’r llun,

Criw CellB - Cian Clinc, Yannick Hammer, Rhys Roberts a Gwenno Llwyd

Dywedodd Gwenno, sy'n gyfarwyddwr ffilm llawrydd, fod yr 18 ffilm fer am gerddoriaeth roc Gymraeg ar ddiwedd yr 20fed ganrif yn cynnwys ffilmiau wedi'u creu mewn ystod eang o fformatau.

Cafodd y ffilmiau eu saethu gan y cynhyrchydd recordiau arloesol Emyr Glyn Williams, oedd yn fwy adnabyddus fel Emyr Ankst i'w ffrindiau, a fu farw ym mis Ionawr 2024 yn 57 oed.

Dywedodd sylfaenydd CellB, Rhys Roberts, fod y gwahoddiad i gymryd rhan yng ngŵyl y British Film Institute yn Llundain yn garreg filltir bwysig i'r bobl greadigol ifanc ond hefyd i CellB.

"Mae hyn yn ymwneud â phobl ifanc o Flaenau yn mynd â'u diwylliant i lwyfan cenedlaethol, ar eu telerau nhw. Mae'r hyn a ddechreuodd yma ym mynyddoedd Cymru bellach yn rhan o brosiect ledled y DU.

"Mae'r rhaglen yn dal eiliad pan ail-luniwyd diwylliant ieuenctid Cymru mewn cerddoriaeth, ffilm a hunaniaeth - cyfnod sy'n cael ei gydnabod yn eang bellach fel Cool Cymru.

"Mae'n dwyn ynghyd ffilmiau archif a thrafodaeth fyw, a bydd Rhys Ifans - ffigwr diffiniol o'r cyfnod hwnnw - yn ymuno â'r panel i fyfyrio ar y foment ddiwylliannol a fu'n ffurfiannol i genhedlaeth," meddai.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Llundain ar 3 Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now