Her gyfreithiol llygredd afonydd yn galw am filiynau o iawndal

Mae Afon Gwy wedi dod yn symbol o drafferthion afonydd ledled y DU yn ddiweddar
- Cyhoeddwyd
Bydd gwrandawiad cyntaf achos cyfreithiol arwyddocaol am lygredd yn afonydd Gwy, Llugwy ac Wysg yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys ddydd Llun.
Mae dros 4,500 o bobl bellach yn dwyn achos ar y cyd yn erbyn cwmnïau ieir a thyrcwn mawr a Dŵr Cymru, gan eu cyhuddo o ddifetha cyflwr yr afonydd a galw am "gannoedd o filiynau o bunnau" mewn iawndal.
Mae'r achos llygredd amgylcheddol wedi'i ddisgrifio fel y mwyaf o'i fath erioed yn y Deyrnas Unedig.
Gwrthod yr honiadau mae cwmnïau Avara Foods Limited, Freemans of Newent Limited a Dŵr Cymru.
Bron i 4,000 yn dwyn achos 'mwyaf o'i fath' dros lygredd afon
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2025
Dwy lywodraeth yn rhoi £1m i ymchwilio i lygredd afon
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2025
Dynodi rhan o Afon Gwy yn ddŵr ymdrochi wedi ymgyrch
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
Mae'r rhai sydd wedi ymuno â'r achos yn byw neu weithio yn ymyl yr afonydd, neu yn eu defnyddio nhw'n rheolaidd ar gyfer gweithgareddau fel nofio a chanŵio.
Maen nhw'n dadlau bod dirywiad yng nghyflwr yr afonydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddifrifol ar fusnesau lleol, gwerth eiddo a mwynhad pobl o'r ardal.
Cyfuniad o dail ieir a charthffosiaeth sy'n cael y bai am niweidio ansawdd dŵr ac arwain at ordyfiant algâu a lladd bywyd gwyllt.
Mae Afon Gwy yn benodol wedi bod yn symbol o bryderon ehangach am afonydd y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae cymaint â 23 miliwn o ieir - chwarter cynhyrchiant y DU o ddofednod - yn cael eu magu yn nalgylch afonydd.

Mae Afon Gwy wedi'i gwarchod oherwydd ei phwysigrwydd i ystod eang o rywogaethau prin o fywyd gwyllt a phlanhigion
Dywedodd Celine O'Donovan o gwmni cyfreithiol Leigh Day ei bod yn credu y gallai'r achos "fod werth cannoedd o filiynau o bunnau mewn iawndal i'r gymuned".
Ond "y peth pwysicaf ry'n ni wastad yn ei glywed gan ein cleientiaid yw eu bod am gael eu hafonydd yn ôl," meddai.
"Felly'r peth cyntaf mae'r gymuned yn gofyn amdano yw gorchymyn [gan y llys ar i'r cwmnïau] adfer yr afonydd."
Byddai'r achos yn adrodd stori o "system o afonydd aml-ddefnydd sydd wedi'u heffeithio'n faterol ac yn anghymesur gan weithgareddau corfforedig" y diffynyddion, esboniodd.
'Cwmnïau mawr, mawr sy'n rheoli'r gadwyn gyflenwi'
Roedd gollyngiadau dŵr gwastraff a defnydd gwrtaith biosolid - sydd wedi'i greu o garthion - yn un rhan o'r darlun, honnodd Ms O'Donovan.
Tra bod "gwaith i gynhyrchu dofednod ar raddfa ddiwydiannol" yn yr ardal er mwyn darparu "cyw iâr rhad" wedi arwain at lefelau digyffelyb o dail yn cael eu gwasgaru ar dir, oedd wedyn yn cael ei olchi i'r afonydd.
Wrth gael ei holi pam fod y cwmni'n herio cynhyrchwyr dofednod mawr yn hytrach na ffermwyr unigol am wasgaru tail ieir, dywedodd y byddai'r hawlwyr yn dadlau bod y cwmnïau yma wedi "gwybod beth fyddai canlyniad" ehangu eu gweithrediadau yn yr ardal.
"Mae'r achos yn honni nad yw'r gwir gyfrifoldeb yn eiddo i ffermwyr unigol, ond yn hytrach i'r cwmnïau mawr, mawr yma, sy'n rheoli'r gadwyn gyflenwi," meddai.

Mae'r parafeddyg Philip Pearce o Drefynwy wedi ymuno â'r achos
Ymysg y rhai sydd wedi ymuno â'r achos mae'r parafeddyg Philip Pearce o Drefynwy.
Roedd yn arfer mwynhau nofio a phadlfyrddio yn Afon Gwy, ond yn dweud ei fod bellach yn poeni y gallai beryglu ei iechyd.
"Dyw e just ddim yn saff - dwi wedi clywed am bobl a chŵn yn mynd yn sâl," meddai.
"Dyw'r dŵr ddim yn glir mwyach, yn aml mae 'na ffilm ar yr arwyneb a'r planhigyn arbennig - y ranunculus - oedd mor helaeth wedi diflannu.
"Dwi'n grac iawn ac yn drist bod pobl wedi caniatáu i'r afon gyrraedd y fath sefyllfa a dwi'n gobeithio bod 'na gyfle i'w achub hi."
'Pyllau o swigod ac ewyn gwyn annaturiol'
Mae Carys Glyn, sy'n athrawes yn Y Fenni, yn poeni hefyd am gyflwr Afon Wysg.
Er nad yw hi wedi ymuno â'r achos yn bersonol, mae'n dweud y bydd yn dilyn y newyddion amdano gyda diddordeb.
"Ni'n adnabyddus am fod yn ardal hardd, mae pobl yn dod fan hyn o bell i weld beth sydd ganddo ni i'w gynnig a mae'n anodd iawn dygymod â'r ffaith bod ni'n adnabyddus hefyd am gael yr afonydd mwyaf afiach - dydy'r ddau beth ddim yn mynd gyda'i gilydd," meddai.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd wedi rhoi cynnig ar nofio gwyllt ond sylwodd ar "byllau o swigod ac ewyn gwyn annaturiol" yn y dŵr, tra bod cerrig ar wely'r afon wedi'u gorchuddio â "gweddillion anghynnes" mewn mannau.
Trodd dymuniad i wneud gweithgaredd "iachus a bod yn agosach at natur" at bryder ei bod yn "rhoi fy hun mewn perygl".

Mae'r ymgyrchwyr yn herio Avara Foods a'r is-gwmni Freemans of Newent, yn ogystal â Dŵr Cymru
Bydd y gwrandawiad yn Llundain ddydd Llun yn gweld yr hawlwyr a'r diffynyddion yn ymddangos yn y llys am y tro cyntaf er mwyn trafod sut i reoli achos at y dyfodol a phenderfynu'r camau nesaf.
Bydd cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr yn dadlau y dylid rhoi mwy o amser i ragor o bobl gael ymuno â'r her gyfreithiol allai gymryd blynyddoedd i gyrraedd ei therfyn, yn ôl cwmni Leigh Day.
'Camddealltwriaeth'
Dywedodd Avara Foods Limited na fyddai'r gwrandawiad cyntaf yn ystyried honiadau'r ymgyrchwyr, oedd wedi'u selio ar "gamddealltwriaeth o'n busnes ac o'r ffactorau ehangach sy'n effeithio ar iechyd afon".
Mae'r cwmni'n ffyddiog nad oes sail wyddonol i'r her gyfreithiol, meddai llefarydd.
"Mae data Asiantaeth yr Amgylchedd wedi nodi bod tuedd ar i lawr wedi bod yn lefelau ffosfforws, sydd bellach yn cael eu hystyried fel rhai is nag y maent wedi bod ers dechrau'r 1990au.
"Yn fwy cyffredinol, mae ymchwil annibynnol yn ei gwneud yn glir bod iechyd afonydd yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau lluosog nad ydynt yn gysylltiedig â'n gweithrediadau.
"Rydym yn cyflogi miloedd o bobl ac yn partneru â channoedd o ffermwyr i helpu i fwydo miliynau ledled y DU bob wythnos.
"Mae tua naw o bob 10 o bobl yn y DU yn bwyta cyw iâr, ac mae dofednod Prydeinig yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiwallu'r galw hwnnw gyda bwyd fforddiadwy o ansawdd uchel a gynhyrchir yma yn y DU."

Mae Afon Wysg (uchod yng Nghasnewydd) yn un o dair afon y mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod wedi gwario £76m yn gwella ansawdd y dŵr rhwng 2020-25
Dywedodd Dŵr Cymru fod diogelu a gwella'r amgylchedd yn brif flaenoriaeth i'r cwmni, gan gynnwys ansawdd dŵr afonydd.
"Rhwng 2020-2025 fe wnaethom ni fuddsoddi dros £76m ar leihau lefelau maetholion i wella ansawdd dŵr yr afonydd Gwy, Llugwy a'r Wysg," meddai.
"Mae Ofwat wedi rhoi £87m pellach i ni fuddsoddi rhwng 2025-2030 i barhau â'r gwaith pwysig yma."
Ychwanegodd Dŵr Cymru fod yr "achos yma yn gamarweiniol ac mae'n peryglu amser ac adnoddau oddi wrth y nod cyffredin o wella ansawdd dŵr afonydd".
"Byddai unrhyw gosbau ariannol yn lleihau'r cyllid sydd ar gael i fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol yn uniongyrchol a chyflawni'r gwelliannau amgylcheddol y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.