Dal i fysgio ar ôl 36 o flynyddoedd

Carwyn TywynFfynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
GanArwel Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn gyn-newyddiadurwr, academydd a nawr yn gweithio gydag elusen iechyd meddwl, mae un peth wedi aros yn gyson yn ystod bywyd Carwyn Tywyn – yr awydd angerddol i fysgio.

Eleni ar ôl cychwyn yn fachgen 15 oed yn Aberystwyth fe fydd Carwyn yn dathlu 36 mlynedd o fysgio ar strydoedd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Gan symud o'i ddyddiau cynnar ar y gitâr i'r delyn Geltaidd, mae'n parhau i neilltuo rhan o'i wyliau blynyddol i deithio i wahanol drefi i gyflwyno'r delyn i gynulleidfaoedd newydd.

Dechrau bysgio yn Aberystwyth

Dechreuodd y cyfan ar ôl i'r teulu symud o Gaerlŷr i'r Borth, ger Aberystwyth.

"Symud i Aber yn 10 oed a dysgu Cymraeg i bob pwrpas, rhyw flwyddyn a hanner yn ysgol gynradd yn y Borth a symud i ffrwd Gymraeg Penweddig ac yn y ffrwd dod yn rhugl yn y Gymraeg."

"Dw i'n cofio tua 13-14 oed mynd i ymhel â bocs o gasetiau a bwrw ati i wrando ar dapiau Dafydd Iwan ac Ar Log ac mi wnaeth rhywbeth jest cydio ynddo i. Dod â gitâr mas o'r cwtch dan stâr a mynd ati i ddysgu stwff Dafydd Iwan."

Dwy flynedd yn ddiweddarach trodd at y delyn Geltaidd ar ôl iddo dderbyn honno fel anrheg pen-blwydd gan ei rieni.

Y dyddiau cynnar. Carwyn yn 18 oed ac yn dechrau canolbwyntio ei ddoniau ar y delyn Geltaidd Ffynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Y dyddiau cynnar. Carwyn yn 18 oed ac yn dechrau canolbwyntio ei ddoniau ar y delyn Geltaidd

Erbyn hyn drwy deithio ar drên neu gar mae wedi ymweld â dwsinau o bentrefi, trefi a dinasoedd yn canu alawon Cymreig.

Dywedodd iddo ddechrau bysgio ar y gitâr 'ar top y dre yn Aberystwyth' – ond newidiodd pethau ar ôl iddo symud i brifysgol Strathclyde yn Glasgow.

Roedd am berfformio ar un o brif strydoedd bysgwyr yn y ddinas.

"Wedyn yn Glasgow, meddyliais falle bod pobl Suchiehall Street ddim mo'yn clywed caneuon Dafydd Iwan felly dyma fi yn gwneud y transition i fynd â'r delyn mas a chwarae yn offerynnol - alawon gwerin Cymru ac ambell i un Albanaidd."

Wrth astudio ar gyfer gradd uwch yn rhan amser yng Nghaerdydd dechreuodd y teithio go iawn.

Roedd y dyddiau cynnar yn golygu teithiau bws a thren er mwyn bysgio yn nifer o drefi cymoedd y de.Ffynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyddiau cynnar yn golygu teithiau bws a thrên er mwyn bysgio yn nifer o drefi cymoedd y de

"Cofio mynd lawr ar y Trawscambria i Gaerdydd gyda dau fag a'r delyn fach a dechrau yn llythrennol mynd o amgylch y trefi i fysgio – Castell-nedd, Caerffili, Merthyr ar y trên... wedyn nes ymlaen mynd ar y bws i lefydd fel Tredegar a Glyn Ebwy.

"Ar ôl rhyw flwyddyn o PhD, 'nes i benderfynu well mynd i explorio tipyn bach; Caerloyw, Caerwrangon, Cheltenham, Caerfaddon, nes bo' fi'n cael car wedyn ar ôl y PhD - dechrau mynd dipyn bach pellach i Wells, Salisbury a Winchester.

"Roedd yna elfen o gadw golwg mas am y tywydd a bras amcan am y penwythnos i ddod, llenwi'r bocsys fel petai. So, falle diwrnod marchnad yn Y Fenni ar y dydd Mercher neu Treorci ar ddydd Iau.

"Be' sy'n od am bysgio dros y blynyddoedd yw pa mor gyson ma' wedi bod. Chi'n gallu dewis, 'reit dydd Llun glawiog dw i'n mynd i aros adre does dim pwynt' neu 'dwi'n mynd dan do i Port Talbot neu Gwmbrân'."

Mae’r perfformio yn digwydd drwy’r flwyddyn gyda Carwyn yn bysgio ar strydoedd Castell-nedd yn nghyfnod y Nadolig.Ffynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perfformio yn digwydd drwy'r flwyddyn gyda Carwyn yn bysgio ar strydoedd Castell-nedd yng nghyfnod y Nadolig

Croeso dros y ffin

"Mae'r gwaith y caniatáu i mi deithio rhywfaint. Prosiect sydd gennyf yw rhoi'r delyn yn y bŵt a dywed fod gennyf ryw awr a hanner dros ginio yn rhywle yn y dydd a mynd i rywle nad wyf wedi bod o'r blaen."

Mae Carwyn, sydd hefyd wedi cyfansoddi nifer o alawon, yn gweld gwahanol ymateb i'w berfformiadau dros y ffin.

"Yng Nghymru mae mwy o bobl yn rhoi ond bosib bod yna fwy o arian mân yn yr het.

"Chi'n troi lan yn Nhonypandy a chi'n chwarae a rhywun yn dweud 'Oh there's a boy with a harp' fel tase fo'r peth mwy naturiol yn y byd!

"A chi'n mynd draw i Loegr a chi'n cael falle llai o bobl yn cymryd diddordeb ond rhai sydd yn stopio am sgwrs.

"Ma' nhw'n hel achau teulu nôl yng Nghymru a ma' punt, dwy bunt, pum punt yn dod mewn.

"Iddyn nhw mae'n rhywbeth gwahanol, rhywbeth od. Mae pobl yn Lloegr wrth eu bodd yn gweld y delyn ac un rheswm pam rwy'n mynd yno ac i siarad am Gymru."

Yn ystod o daith o 36 mlynedd hyn mae’r telynor wedi cyhoeddi tri CD – ‘Alawon o’r Stryd’, ‘Awen ac Aber’ a ‘Tanddwr’Ffynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod ei daith o 36 mlynedd mae'r telynor wedi cyhoeddi tri CD – Alawon o'r Stryd, Awen ac Aber a Tanddwr

Llefydd cofiadwy

Mae'r ymateb yn gallu amrywio, meddai Carwyn, wrth sôn am wahanol ymweliadau.

"Fi wedi cael ambell i un cas. Dwi'n cofio ym Mhen-y-bont o ni'n gwneud fy PhD ar y pryd... 'are you paying your taxes on that?' Mi ro' ni'n talu trethi. 'Ydw, actiwali dwi'n gwneud o'n gyflogedig ac yn astudio am ddoethuriaeth,' oedd yr ateb gafodd o. "

Ar ôl 36 o flynyddoedd o berfformio, un o'r digwyddiadau sy'n aros mwyaf yn y cof yw pan ddechreuodd berfformio gyntaf.

"Yr un dw i wastad yn mynd yn ôl ato yw'r un yn ôl i'r dyddiau cynnar yn Aberystwyth, top y dre, a fi a'r gitâr a phensiynwyr yn gwrando a heddwas ifanc yn dod lan ata i a ddim cweit yn siŵr beth i wneud.

"A'r pensiwynwyr yn dweud 'o gad iddo chware!'. Y ddêl cawson ni oedd 'wel fe gei di chwarae ond dim ond os ti'n chwarae mewn tiwn'."

O ran hoff lefydd dywed Carwyn, sy'n byw ym Mhorth Tywyn, mai un ateb syml yw 'y lle nesa fydda i'n ymweld ag ef'. Ond mae yna ffefrynnau...

"Aberystwyth yw fy Mecca, dyna'r lle lle 'nes i ddechrau bysgio ac mae fy nghalon i yno.

"O ran y lle mwyaf deniadol, yng Nghaerfaddon rhwng yr hen faddonau a'r eglwys gadeiriol, mae yna sgwâr lle alli di gymryd dy dro yn perfformio am ryw hanner awr, mae hwnnw yn lle hyfryd i chwarae."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now