Angen sicrhau gwaddol gwyliau mawr i gadw'r Gymraeg yn fyw - pwyllgor

Arwydd EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Byddai sicrhau bod effaith gwyliau fel yr Eisteddfod yn ehangu yn helpu'r iaith mewn rhai ardaloedd, meddai'r pwyllgor

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau dyfodol y Gymraeg fel "iaith fyw, nid dim ond iaith dysg", meddai grŵp o wleidyddion.

Mae Pwyllgor y Gymraeg y Senedd yn dweud bod angen cymryd camau cryfach os ydy'r llywodraeth am gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, a sicrhau bod y siaradwyr yna'n defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.

Un argymhelliad yw sicrhau bod gwyliau mawr y Gymraeg, fel yr Eisteddfod, yn gadael effaith barhaol drwy gydol y flwyddyn ar y cymunedau sy'n eu cynnal.

Mae'r pwyllgor hefyd yn pwysleisio'r angen am greu mwy o gyfleoedd anffurfiol i bobl ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "wedi ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan gymryd camau mewn nifer o feysydd i gyrraedd y nod, gan gynnwys gwella presenoldeb y Gymraeg ar lwyfannau digidol a thrwy ddeallusrwydd artiffisial".

850 mlynedd ers yr Eisteddfod Genedlaethol cyntaf bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Sir Benfro eleni.

Bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sir rhwng cyfrifiad 2011 a 2021., dolen allanol

Ond, yn ôl Rhidian Evans o Fenter Iaith Sir Benfro, mae'r niferoedd sy'n dysgu'r iaith i weld yn uchel.

"Ni yn sicr wedi gweld tŵf addysg Gymraeg ar draws y sir, yn enwedig yn rhai o'r ardaloedd llai Cymreig yn y de gan sicrhau bod mwy yn siarad yr iaith," meddai.

"Ond mae yna ddiffyg cyfleoedd i rai ddefnyddio'r Gymraeg oherwydd er enghraifft mewn rhai o'r trefi ble mae dwysedd is o siaradwyr Cymraeg dydyn nhw ddim yn cael cyfle i siarad yr iaith wrth fynd i'r siop neu'r dafarn ac yn y blaen."

Llun Rhidian EvansFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhidian Evans yn dweud bod angen mwy o arian i sefydliadau fel Menter Iaith Sir Benfro gynnal mwy o ddigwyddiadau i hybu'r Gymraeg

Mae Mr Evans a'i dîm yn cynnal digwyddiadau fel boreau coffi, sy'n rhoi'r cyfle i bobl siarad Cymraeg.

"Mae rhai gwirioneddol 'mond yn dysgu a ddim yn cael cyfle i siarad yr iaith tu allan i ffin yr ysgol.

"Mae'n bwysig bod pobl yn cymdeithasu er mwyn gweld budd i ddysgu'r iaith.

"Dyna sut bydd e'n tyfu."

Hoffai wneud mwy i gyrraedd pob cymuned, ond byddai angen "tipyn o fuddsoddiad ariannol", yn ôl Mr Evans.

Hawdd dysgu, anoddach defnyddio

Mae diffyg cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd yn un o'r heriau sy'n wynebu'r iaith, yn ôl Pwyllgor y Gymraeg.

Maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i hybu'r iaith a chreu cyfleoedd i bobl ei defnyddio yn eu cymunedau.

Mae hynny'n cynnwys galw am gronfa gwaddol pwrpasol i gefnogi'r mentrau iaith a phartneriaid lleol i gyflwyno rhaglenni ar ôl gwyliau, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg.

Mae Kevin Davies, sy'n 62 oed ac yn byw yn Sir Benfro, wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.

Dechreuodd Mr Davies ddysgu'r iaith bedair blynedd yn ôl, ac o'i brofiad mae "llwyth o gyfleoedd i ddysgu'r iaith ond dim digon o gyfleoedd i'w defnyddio tu allan i'r dosbarth".

Llun Kevin DaviesFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Kevin Davies ddysgu Cymraeg bedair blynedd yn ôl

"Dwi'n hynod rhwystredig gyda'r sefyllfa", meddai.

"Dwi wedi ffeindio fy mod i'n dysgu llawr mwy tu allan i'r dosbarth nawr pan dwi'n cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith gyda phobl sy'n rhugl, ond does dim digon o'r cyfleoedd yma ar gael."

Mae Mr Davies wedi mwynhau sesiynau Menter Iaith y sir, ond mae'n dweud ei fod "wedi siomi" gyda'r niferoedd sydd yno yn aml.

"Mae gan Llywodraeth Cymru'r targed yma o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a dwi'n meddwl bod nhw'n gallu cyrraedd hynny, ond dwi ddim yn rhagweld miliwn o bobl wir yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd tu allan i'r dosbarth ac mae hynny'n siom.

"Mae angen newid meddylfryd pobl i gael nhw i siarad yr iaith ond sai'n siwr sut mae gwneud hynny."

cymraegFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud sawl argymhelliad i hybu'r Gymraeg a chefnogi'r nod o filiwn o siaradwyr.

Maen nhw'n cynnwys:

  • Creu fframwaith gwaddol cenedlaethol i sicrhau bod gwyliau mawr y Gymraeg yn gadael effaith barhaol ar y cymunedau sy'n eu cynnal.

  • Creu cronfa gwaddol bwrpasol i gefnogi'r mentrau iaith a phartneriaid lleol i gyflwyno rhaglenni ar ôl yr ŵyl, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg.

  • Sicrhau y gall teuluoedd sydd ar incwm isel gael mynediad i wyliau mawr am gost fechan, neu'n rhad ac am ddim.

  • Gwaith ymchwil cryfach i ddeall sut mae gwyliau yn meithrin hyder ac yn cynyddu defnydd o'r iaith Gymraeg bob dydd.

  • Gwella data agored a chael gwared ar rwystrau i rannu data i gefnogi datblygiad technoleg a deallusrwydd artiffisial yn y Gymraeg - law yn llaw â modelau ariannu aml-flwyddyn, a mwy o fuddsoddiad mewn sefydliadau fel Canolfan Bedwyr.

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, bod "gwyliau, grwpiau cymunedol, gweithleoedd a thechnolegau newydd i gyd yn chwarae rhan bwerus wrth roi bywyd i'r iaith".

Ond dywedodd bod perygl o golli momentwm heb gyllunio hirdymor a buddsoddiad priodol.

"Os ydym ni wir eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac i'r siaradwyr hynny ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd, yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn feiddgar, yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol.

"Rhaid i'r Gymraeg fod yn iaith fyw, nid dim ond iaith dysg."

Delyth Jewell
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn "iaith fyw" meddai Delyth Jewell

Mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor diolchodd Llywodraeth Cymru iddyn nhw am ei gwaith, gan ddweud:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac rydyn ni'n cymryd camau mewn nifer o feysydd i gyrraedd y nod, gan gynnwys gwella presenoldeb y Gymraeg ar lwyfannau digidol a thrwy ddeallusrwydd artiffisial.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a thrwy ariannu teuluoedd incwm isel i fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd - a bod hyn bellach yn rhan o gyllidebau craidd - rydym yn dileu rhwystrau i gymryd rhan fel y gall pawb fwynhau ein gwyliau cenedlaethol."

'Adroddiad yn llygad ei le'

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod nhw'n "cytuno gydag argymhelliad y pwyllgor bod angen mwy o ymchwil penodol i agweddau at y Gymraeg".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wrthi'n datblygu fframwaith gwaddol ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

"Bydd y fframwaith hwn yn cynnwys elfennau cenedlaethol a lleol, gan osod cyfeiriad strategol clir sy'n adlewyrchu nodau'r Brifwyl ac amcanion Cymraeg 2050.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i sicrhau bod teuluoedd ar incwm isel yn gallu mynychu'r Eisteddfod am ddim."

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod "teitl yr adroddiad yn llygad ei le yn codi amheuon am fynediad pobl Cymru i'r Gymraeg".

Ychwanegodd Owain Meirion o'r gymdeithas mai'r hyn sy'n "allweddol" yw bod "llywodraeth nesaf Cymru yn gweithredu o ddifrif ar yr argymhellion yma... gyda'r nod o gynyddu statws a defnydd yr iaith ym mhob agwedd ar fywyd ac ym mhob rhan o Gymru".

Trending Now