Oedd ysbyty yn Ysbyty Ifan?

Ysbyty IfanFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Ifan

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy, Ysbyty Ystwyth ger Aberystwyth, Ysbytty ym mhlwyf Waunfawr a ger Llanwddyn, Hafod Ysbyty ger Llan Ffestiniog, Dol Ysbyty ger Dolgellau, Ysbyty ger Llanelli, Ysbyty Cynfyn yng Ngheredigion a Sbyty ym mhlwyf Llanllawddog.

Mae yna nifer o enwau lleoedd yng Nghymru'n cynnwys y gair ysbyty, ac yn ôl Meirion Davies o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, mae degau'n rhagor na'r llond llaw uchod.

Lle sy'n darparu triniaeth yw ystyr ysbyty i ni heddiw, felly beth yw'r cysylltiad gydag enwau lleoedd?

"Mae llawer o enwau lleoedd sy'n cynnwys yr elfen 'ysbyty' yn hynafol ac yn dyddio o'r Canol Oesoedd. Daw'r gair ysbyty o'r gair Lladin hosptium (hosbis) sy'n golygu llety neu llety i bererinion yn aml," eglurai Meirion.

Ysbyty: llety i bererinion

Felly pwy sefydlodd yr ysbytai yma a oedd yn cynnig llety i bererinion mewn cymunedau ledled Cymru?

"Urdd Marchogion Sant Ioan, neu'r Ysbytwyr (Knights of St John/Hospitallers) sefydlodd llawer o'r ysbytai yma. Dechreuodd yr Urdd yn Jerwsalem yn yr 11g i amddiffyn pererinion a darparu lloches iddynt.

"Mynachod oedden nhw ond roedd ganddyn nhw hefyd bwrpas milwrol yn y Dwyrain Canol pan goncrwyd Jerwsalem a chreu gwladwriaeth newydd Gristnogol.

"Rhoddwyd tiroedd helaeth iddynt yng Nghymru gan dywysogion Cymraeg ac arglwyddi Eingl-normanaidd a phan ddaethant i Gymru roedd eu gwaith yn cynnwys sefydlu ysbytai fel lloches i bererinion."

Arwydd ffordd Ysbyty YstwythFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd ffordd Ysbyty Ystwyth

Felly a fyddai'r Ysbytwyr wedi sefydlu ysbyty neu hospitium ymhob lle sy'n cynnwys y gair ysbyty yng Nghymru?

"Dim o reidrwydd, ambell waith gallai'r enw hefyd gyfeirio at y ffaith mai Urdd Marchogion Sant Ioan oedd berchen ar y tir neu'r eiddo o gwmpas.

"Roedden nhw'n berchen ar yr eglwys a'r maenor mewn sawl lle fel ym Mryn yr Ysbyty ger Carno, Trefaldwyn."

Ailenwi Dolgynwal yn Ysbyty Ifan

Hyd at 1190 Dolgynwal oedd yr enw ar Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy.

Mae'r lechen ger drws yr eglwys yn nodi mai yma oedd safle 'Ysbyty ac Eglwys Urdd Marchogion Sant Ioan o Jerwsalem'.

Tua'r flwyddyn 1190 rhoddodd Ifan ap Rhys o Dre Brys diroedd i'r Marchogion i sefydlu ysbyty ac eglwys yn Nolgynwal. Ail-enwyd Dolgynwal yn Ysbyty Ifan.

Ac yn ôl gwefan y pentref, penderfynodd Urdd Marchogion Sant Ioan sefydlu ysbyty yn Ysbyty Ifan "gan fod yr ardal ar nifer o hen lwybrau'r pererinion, gan gynnwys Bangor Is-coed a Threffynnon yn y gogledd ddwyrain, ac i Ynys Enlli ym mhen draw Penrhyn Llŷn".

Rhai o drigolion Ysbyty Ifan, tua'r flwyddyn 1875Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o drigolion Ysbyty Ifan, tua'r flwyddyn 1875

Dylanwad Urdd Marchogion Sant Ioan ar Gymru heddiw

Felly oni bai am yr holl enwau lleoedd sy'n cynnwys yr elfen ysbyty, beth arall yw gwaddol Urdd Marchogion Sant Ioan ar Gymru?

Eglurai Meurig: "Fe barodd Urdd Marchogion Sant Ioan yng Nghymru tan deyrnasiad Harri VIII. Pan ddiddymodd Harri VIII y mynachlogydd fe ddiddymwyd tiroedd Urdd Sant Ioan hefyd a dyna oedd cychwyn llawer o stadau mawr Cymru.

"Ac nid ar enwau lleoedd fel Ysbyty Ifan a Ysbyty Ystwyth mae eu dylanwad yn parhau'n unig.

"Meddyliwch am elusen Ambiwlans Sant Ioan Cymru sydd wedi cefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru ers 1880. Roedden nhw'n bodoli cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac mae'n debyg mai Urdd Marchnogion Sant Ioan a'u cysylltiad gyda'r ysbytai fyddai wedi dylanwadu'r enw.

"Gallwch weld olion o bresenoldeb Urdd Marchogion Sant Ioan ar Gymru wrth sylwi ar enwau eglwysi. Mae eglwys Ysbyty Cynfyn, Ysbyty Ystwyth ac Ysbyty Ifan wedi eu cysegru i Sant Ioan y bedyddiwr."

Eglwys Sant Ioan yn Ysbyty CynfynFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Sant Ioan yn Ysbyty Cynfyn

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now