Wrecsam yn y ras i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029

Daeth Wrecsam yn ddinas swyddogol ar 1 Medi 2022, a dyma'r unig ddinas yng Nghymru sy'n ymgeisio am y teitl yn 2029
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cyrraedd y rhestr hir i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029.
Ar y rhestr hir mae naw lleoliad, ac mi fydd pob un yn derbyn £60,000 i ddatblygu cais llawn.
Yr wyth lleoliad arall sydd wedi cyrraedd y rhestr ydy Blackpool, Inverness-Highland, Ipswich, Middlesbrough, Milton Keynes, Portsmouth, Sheffield a Swindon.
Bradford oedd enillydd y teitl llynedd.
Llywodraeth y DU sy'n cynnal y wobr, ac fe allai enillydd teitl 2029 sicrhau £10m.
Y bwriad ydy dathlu a chefnogi cymunedau, gan ddefnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer trawsnewid lleoliadau, yn ôl y llywodraeth, dolen allanol.

Dywedodd Morgan Thomas fod diwylliant yn "dod â phobl ynghyd, yn cryfhau cymunedau ac yn creu effaith economaidd"
Dywedodd cydlynydd cais Wrecsam, Morgan Thomas, fod y ddinas "wedi bod ar daith ddiwylliannol hynod gryf ers tua phum mlynedd - pêl-droed o'r radd flaenaf, rhaglenni teledu byd-eang, a sylw rhyngwladol".
"Mae cymaint o bethau diddorol yn digwydd yma: Tŷ Pawb, yr Eisteddfod, yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol.
"Mae'r gefnogaeth ddiwylliannol a chymunedol yn gref iawn.
"Rydyn ni'r unig ymgeisydd o Gymru ac nid yw'r rhaglen hon erioed wedi dod i Gymru na'r Alban o'r blaen."
Ychwanegodd fod hyn yn "rhoi cyfle euraidd i Wrecsam, ac rydym yn cael ein gweld fel un o'r ffefrynnau i ennill ar hyn o bryd".
"Mae'n wych gweld faint o gefnogaeth sydd gan fusnesau, gwleidyddion a'r gymuned leol."
'Dod â phobl ynghyd'
Dywedodd Mr Thomas fod yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd wedi profi "ein bod ni'n gallu cynnal digwyddiad gyda dros 100,000 o ymwelwyr - o ran seilwaith, trafnidiaeth a threfniadaeth".
Esboniodd eu bod eisiau cadw talent ifanc yng ngogledd Cymru, "yn lle iddyn nhw deimlo bod rhaid iddyn nhw symud i Gaerdydd neu Loegr".
"Mae Wrecsam yn gallu bod yn gartref i'w gyrfaoedd," meddai.
"Mae'n wych bod y llywodraeth wedi cynnig y £10m i'r enillydd - gall hyn newid bywydau pobl sy'n byw yn y sir ac mae'n gallu trawsnewid cymdeithas
"Mae manteision diwylliannol yn gysylltiedig yn glir ag iechyd a lles."
Ychwanegodd Morgan Thomas fod diwylliant yn "dod â phobl ynghyd, yn cryfhau cymunedau ac yn creu effaith economaidd".
Lena Mohammed: Croeso i Wrecsam
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, ei bod yn falch o weld Wrecsam "yn chwifio'r faner dros Gymru yn y gystadleuaeth hon".
"Mae gan y ddinas a'r ardal gymaint i'w gynnig o ran treftadaeth, diwylliant a chwaraeon - dwi'n dymuno pob llwyddiant i Wrecsam gyda'i chais."
Mae cystadleuaeth newydd i drefi yn cael ei chynnal eleni hefyd, sef 'Tref Diwylliant y DU', gyda channoedd wedi cofrestru.
Anogodd Ms Stevens i drefi Cymru wneud cais, "fel y gallwn rannu'r hyn sy'n gwneud ein cymunedau'n arbennig gyda chynifer o bobl â phosibl".
5 ffordd mae Wrecsam wedi elwa o ddyfodiad sêr Hollywood
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Lena Mohammed: Croeso i Wrecsam
- Cyhoeddwyd6 Awst 2025
Ardaloedd cyfagos i elwa o statws dinas Wrecsam?
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
Eisteddfod 'sbesial' Wrecsam yn rhoi 'egni' i gais Dinas Diwylliant
- Cyhoeddwyd11 Awst 2025
Mae'r Cynghorydd Hugh Jones, yr aelod o Gyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb dros y cais Dinas Diwylliant, wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud y gallai "ddechrau adeiladu'r achos dros wneud Wrecsam yn ganolbwynt diwylliannol y DU yn 2029".
"Mae gan Wrecsam gymaint i'w gynnig, a bydd y gystadleuaeth yn darparu llwyfan gwych i ni arddangos y fwrdeistref sirol."
Yn ôl Lisa Nandy, Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, mae'r lleoliadau ar y rhestr wedi cael eu hargymell "gan banel cynghori arbenigol annibynnol", a bod y gystadleuaeth yn "cydnabod y cyfraniadau enfawr sy'n cael eu gwneud gan gymunedau".
Beth nesaf?
Y cam nesaf i'r naw lleoliad fydd gweithio i gwblhau eu cynigion erbyn haf 2026.
Yn y cynnig, bydd yn rhaid i Wrecsam egluro ffyrdd o ddefnyddio diwylliant i greu cyfleoedd trawsnewidiol a bywydau gwell i bobl sy'n byw yn yr ardal leol.
Bydd angen dangos i banel o feirniaid sut mae'r gymuned gyfan yn cefnogi cais Wrecsam.
Yn dilyn y cyflwyniad, bydd rhestr fer o hyd at bedwar lle yn cael ei gyflwyno yn Hydref 2026.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.