Pum munud gyda'r gyflwynwraig Cadi Gwyn Edwards

- Cyhoeddwyd
Mae Cadi Gwyn Edwards o Lanrwst yn cyflwyno'r bwletinau rhanbarthol ar ITV Cymru ac felly'n wyneb cyfarwydd i gynulleidfa Good Morning Britain yng Nghymru.
Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig ac yn gantores ac mi enillodd Cân i Gymru yn 2017.
Mae Cadi, sy'n 26 oed, yn disgrifio ei hun fel 'rhywun sy'n caru bywyd, yn caru gweithio'n galed, ac yn trio gwneud y gorau o bob cyfle' a bu'n trafod ei gwaith a'i bywyd gyda Cymru Fyw.
Rwyt ti'n cyflwyno a gohebu dros dro ar raglenni bore a chanol dydd ITV Cymru – sut mae'n mynd?
Mae wedi bod yn dipyn o 'ddysgu ar y job', ond dwi wedi syrthio mewn cariad â'r gwaith.
Dwi wedi bod yn night owl yn y gorffennol ac mae 'nghorff i'n primed i aros yn effro tan un o'r gloch y bore! Ond dwi wedi gorfod newid rwtin a dilyn yn olion troed fy nghariad sy'n deffro yn gynnar.
Dwi'n codi am 4.30 y bore a dwi wedi meistroli cael fy hun yn barod mewn pum munud. Mae wedi bod yn sioc i'r system.
Dwi'n hoffi gwisgo dillad neis a cholur ond dydi rhoi nhw ymlaen am bump y bore ddim mor glam a be 'sa chi'n feddwl!

Rwyt ti'n cyfansoddi ac yn canu dy ganeuon gwreiddiol ar y cyfryngau cymdeithasol – beth sy'n ysbrydoli dy gerddoriaeth?
Mi wnes i ddechrau cyfansoddi caneuon yn 10 oed. Doedd Mam a Dad ddim yn or-gerddorol ond dyma ni'n dechrau cystadlu mewn eisteddfodau a chael gwersi piano.
Dwi wastad wedi hoffi darllen ac ysgrifennu felly yn plethu dau gariad drwy gyfansoddi – y geiriau efo'r alaw.
Roedd ennill Cân i Gymru yn 17 oed efo fy nghân fy hun a pherfformio fo – dyna oedd y freuddwyd ers mod i'n 12 oed.
Oedd o'n andros o brofiad ac fe arweiniodd ataf yn dechrau ysgrifennu colofn fisol i'r Cymro pan o'n i'n 18. Ers hynny, mae darn newydd wedi ymddangos bob mis—felly mae modd olrhain fy mywyd bron drwy'r erthyglau hynny, sy'n eithaf doniol wrth edrych yn ôl!
Erbyn hyn dwi'n hoffi sgwennu ballads a'n mwynhau ysgrifennu geiriau a chaneuon lle mae'r geiriau eitha' poetic. Dwi wrth fy modd efo'r cariad felly yn hoffi ysgrifennu caneuon serch.

Cadi a'i chariad George Hobbs
Rwyt ti'n angerddol am gadw'n heini – sut mae hyn yn dy helpu o ran hunan hyder a iechyd meddwl?
Cyn mynd mewn i'r swydd yma o'n i ar bach o mission i wneud i fy hun deimlo'n iach a gwneud mwy o ymarfer corff fel bod fi'n gallu delio efo'r oriau newydd. Mi fues i ar bach o siwrne ynglŷn a disgyn yn ôl mewn cariad efo fi'n hun eto ar ôl teimlo ychydig bach ar goll.
Fel llawer o ferched ifanc, dwi wedi profi problemau diffyg hunan hyder, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig i fi siarad yn agored amdano.
O'n i isio trio gwneud fy hun yn fwy resiliant i bethau a ffocysu ar yr ymarfer corff. Os dwi mewn rwtin da o ymarfer corff mae'n ymarfer da i'r meddwl. Dwi'n trio cyfarfod pobl newydd mwy a fforshio fy hun i beidio poeni beth mae pobl yn ddweud.
Mae'r newid yn sut dwi'n teimlo am fy hun ac am fy nghorff wedi gwella am y gorau.
Mae wedi gwneud i fi deimlo lot cryfach yn mynd mewn i'r profiad anhygoel yma gyda ITV.

Ers cychwyn cyflwyno'r newyddion rwyt ti'n rhannu bwletinau newyddion Cymru ar Instagram. Sut ymateb wyt ti wedi ei gael?
Mwya' sydyn mae mwy o bobl wedi dechrau dilyn fi unwaith i fi gael y swydd. Mae'r nifer o ddilynwyr wedi tyfu lot yn yr wythnosau diwethaf 'ma.
Dydy lot o bobl ifanc ddim yn gwylio'r newyddion gymaint mwy – maen nhw'n dueddol o gael newyddion o'r cyfryngau cymdeithasol felly ers dechrau'r swydd dwi wedi bob yn postio'r bwletin i unrhyw berson sy' efo diddordeb ac mae wedi bod yn cael ymateb reit dda.
Mae 'nghariad i yn mwy o influencer efo 36,000 o ddilynwyr ar ei Instagram fel athro Saesneg, sef Mr Hobbs. Mae o'n siarad lot am fod yn athro ac yn teimlo'n angerddol am arwain bobl ifanc i fod yn fwy resilient, i gael integrity ac i fod yn barchus.
Beth yw dy farn am ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar hunan hyder merched?
Mae lot o ferched ifanc yn dioddef o ddiffyg hunan hyder a dwi yn y gorffennol wedi dioddef efo diffyg hunan hyder a hyder yn fy nghorff. Dwi wedi ysgrifennu yn fy ngholofn yn Y Cymro amdano a dwi ddim yn meddwl 'mod i ar ben fy hun yn teimlo fel hyn.
Mae 'na ddelweddau o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol sy' ar yr arwyneb yn edrych yn berffaith. Mewn gwirionedd, does 'na neb yn byw bywyd perffaith ond nid dyna sy'n cael ei ddehongli. Felly dwi'n meddwl mae'n rhywbeth sy' wedi chwarae rhan efo fi yn y gorffennol.
Dwi'n euog fy hun o bostio pethau ar-lein. Efallai 'da chi'n cael diwrnod drwg ond 'da chi dal yn rhoi lluniau o'ch hun yn gwenu.
Mae 'na dueddiad i boeni beth mae pobl eraill yn meddwl ohono chi. Mae 'nghariad i efo agwedd da iawn tuag at beidio poeni yn ormodol beth mae pobl yn meddwl ohono chi. Dyna pam 'nes i ddechrau ysgrifennu caneuon eto a postio nhw ar Instagram.
Mae bod ar teledu bob diwrnod a phostio pethau ar y cyfryngau cymdeithasol – 'da chi yn agor eich hunain fyny i farn pobl eraill ond mae anghofio am farn allanol wedi bod o fudd.
Beth yw dy gyngor i unrhyw un arall sy'n dioddef gyda diffyg hunan hyder?
Weithiau 'dan ni'n gallu bod ein worst critic – mae cymharu yn gallu bod yn beth anodd iawn i ddelio efo.
Y peth dwi'n trio dysgu ydy i werthfawrogi bob llwyddiant - mae mor hawdd mynd 'mlaen i'r peth nesa a'r peth nesaf. Mae llwyddiant pawb yn edrych yn wahanol. Rhai diwrnodau dwi wedi blino ac mae mynd am dro yn lwyddiant i'r diwrnod hwnnw.
Mae angen dathlu'r pethau bach 'da chi'n neud a ddim wastad rhedeg ar ôl y peth nesaf.
Mae'n rili bwysig gwerthfawrogi'r pethau bach.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
