'Cywilydd' bod llwybr llesol newydd yn anaddas i gadair olwyn neu feic

Mae grisiau a chamfeydd yn creu anawsterau i ddefnyddwyr y llwybr
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn ne Sir Ddinbych yn dweud eu bod yn rhwystredig nad ydy pawb yn medru defnyddio llwybr teithio llesol newydd yn yr ardal.
Mae'r llwybr troed a cheffylau wedi'i ailddatblygu i gysylltu cymunedau Corwen a Chynwyd.
Ond mae beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn ymhlith y rhai sy'n dweud na allan nhw ei gyrraedd.
Mae Cyngor Sir Dinbych yn dweud eu bod wedi gorffen cam cyntaf y prosiect, sydd am gostio £1m, ac maen nhw'n gweithio ar y camau nesaf.

Mae'n "gywilydd" bod pobl anabl yn gorfod "paffio" am fynediad, meddai Morgan Jones
Dechreuodd y gwaith i drosi'r hen linell reilffordd yn llwybr teithio llesol yn 2024 gyda chyllid o gronfa ehangach o £3.8m o gynllun Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.
Mae wyneb tarmac newydd bellach wedi ei osod ar lawer o'r llwybr, ond yng Nghynwyd, mae'n rhaid dringo 15 o risiau cerrig i'w gyrraedd.
Mae hynny wedi codi gwrychyn Morgan Jones, sy'n defnyddio cadair olwyn.
"Dwi'n methu deall pam fod y cyngor heb roi ramp yna. Dwi'n teimlo bod pobl anabl mewn cadair olwyn yn second thought.
"Dwi'n eithaf rhwystredig a dweud y gwir. Mae hi'n 2026. Mae hi'n gywilydd bo' fi'n gorfod paffio am accessibility."

Mae 'na lawer o bobl leol yn anhapus gyda'r llwybr
Ym mhen Corwen, mae'r llwybr glaswellt yn rhedeg trwy ddarnau preifat o dir sydd wedi'u marcio gyda ffensys a chamfeydd y mae angen i deithwyr allu dringo drostynt.
Mae Cyngor Tref Corwen yn dweud eu bod wedi bod yn pwyso am ddatrysiad gan ddweud bod y cymunedau'n crefu am fynediad addas.
"Mae 'na nifer o lythyron wedi bod yn mynd yn ôl a 'mlaen", meddai Daf Morris o'r cyngor tref.
"Mae ein cadeirydd wedi bod yn mynd ar ôl Cyngor Sir Ddinbych, ond 'den ni dal yn yr un lle yn anffodus.
"Dyna pam bod ni mor rhwystredig. 'Den ni'n tynnu sylw at hyn yn gobeithio wneith y sir a'r tirfeddianwyr ddod at ei gilydd i sortio'r broblem allan."

Mae Daf Morris yn gobeithio am ddatrysiad gan y cyngor
Yn ddiweddar, mae hysbysiad wedi ei osod gan un o'r perchnogion tir ar un o'r camfeydd sy'n croesi'r llwybr yng Nghorwen.
Mae'n dweud: "Hyd y gwn i, nid oes unrhyw gynsail cyfreithiol ar gyfer Llwybr Teithio Egnïol yn cael ei adeiladu trwy ardd breifat.
"Ac a fyddech chi eisiau llwybr tarmac trwy eich gardd? Mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig? Rwy'n amau hynny."
Mae'r hysbysiad yn dweud bod y cyngor yn ymwybodol o'r deddfau sy'n ymwneud ag addasu gatiau a gwella mynediad, ond mae'n dweud na roddwyd sylw i hyn "tan yn ddiweddar iawn".
Dywed fod cyfarfod rhwng y cyngor a thirfeddianwyr wedi digwydd ddiwedd mis Mawrth i "drafod y posibilrwydd o wella mynediad" a bod y "broses yn parhau".
'Cam cyntaf y gwaith'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych fod cam cyntaf y gwaith wedi'i gwblhau'n ddiweddar lle gwnaed "gwelliannau i'r grisiau presennol" yng Nghynwyd a gosod wyneb tarmac newydd.
Maen nhw hefyd yn dweud bod arian wedi ei sicrhau ar gyfer creu ramp i'r llwybr yng Nghynwyd.
"Rydym yn deall bod y llwybr presennol yn boblogaidd gyda'r trigolion lleol a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cam adeiladu cyntaf tra bod y llwybr ar gau.
"Cysylltodd swyddogion â thirfeddianwyr y tir ar ochr Corwen/A5 y llwybr yn gyntaf yn 2024 i'w hysbysu am y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer y prosiect, cyn cysylltu â nhw eto yn ystod y misoedd diwethaf yn dilyn cwblhau'r cam cyntaf i'w hysbysu am gamau nesaf y prosiect.
"Mae'r cyngor wedi llwyddo i wneud cais am ragor o gyllid i gyflwyno ramp ym mhen Cynwyd y llwybr i wella hygyrchedd i gadeiriau gwthio a defnyddwyr cadeiriau olwyn a fydd wedi'i gwblhau erbyn gwanwyn 2027.
"Rydym hefyd wrthi'n datblygu gwaith i wella hygyrchedd y llwybr ym mhen Corwen/yr A5."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.