Dros 20,000 yn dysgu Cymraeg y llynedd wrth i niferoedd dyfu eto

Dysgwyr mewn dosbarth gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg GenedlaetholFfynhonnell y llun, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 35,000 o weithgareddau dysgu eu cynnal gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2024/25 - cynnydd o 12% ar y flwyddyn gynt

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu o 12% mewn blwyddyn a bellach wedi pasio'r trothwy o 20,000, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Fe wnaeth data'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y llynedd ddangos unwaith eto bod mwy nag erioed wedi cwblhau cwrs dysgu Cymraeg.

Mae'r ffigwr hwnnw wedi codi bron pob blwyddyn ers i'r Ganolfan ddechrau cyhoeddi data yn 2017/18 – ond ddim yn cynnwys niferoedd sy'n dysgu'r iaith drwy ddulliau eraill, gan gynnwys apiau fel Duolingo.

Mae bron i 40% o'r rheiny sydd ar y cyrsiau bellach yn dysgu drwy'r gweithle, tra bod cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y dysgwyr ifanc ac o leiafrifoedd ethnig.

Dywedodd un tiwtor Cymraeg bod hyn yn dangos bod dull strategol y ganolfan yn gweithio wrth i'r prif weithredwr, Dona Lewis, ddweud fod hyn "yn ddiwrnod pwysig iawn i'r sector".

Dosbarth dysgu Cymraeg gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg GenedlaetholFfynhonnell y llun, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 40% o ddysgwyr gwblhau eu cyrsiau wyneb-i-wyneb y llynedd, tra bod 34% wedi gwneud yn rhithiol, ac 20% wedi gwneud cyfuniad o'r ddau

Yn 2024/25 fe wnaeth 20,445 o bobl gwblhau cyrsiau gyda'r Ganolfan, gyda 61% o'r rheiny yn gwneud cwrs Mynediad a Chyn-Mynediad.

Mae'r Ganolfan, sy'n cael ei arolygu gan Estyn, hefyd yn cynnig cyrsiau ar lefelau Sylfaen, Canolradd, Uwch, a Gloywi.

Ychydig dros 18,000 wnaeth gwblhau cyrsiau yn 2023/24, tra bod y nifer y llynedd yn gynnydd o 61% ar y 12,500 fu'n dysgu Cymraeg yn 2017/18.

Roedd bron i hanner y dysgwyr yn gwneud hynny drwy ddosbarthiadau wyneb-yn-wyneb a rhithiol yn y gymuned, gyda 39% yn dysgu drwy'r gwaith, a 5% yn defnyddio cynllun penodol i deuluoedd.

Meilyr ap IfanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meilyr ap Ifan yn gweithio fel Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Cerdydd

Dywedodd Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, Meilyr ap Ifan, fod y data'n galonogol iawn ac yn adlewyrchu blynyddoedd o waith caled gan y ganolfan.

Ychwanegodd fod hyn yn "adlewyrchu bod dull strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio.

"Mae'r cyrsiau mor hyblyg, mae modd dysgu pa bynnag ffordd chi isie ac mae hwnna'n gweithio".

Pwysleisiodd hefyd mai "un o'r pethau sy'n grêt i weld wrth ddysgu mewn sefydliadau yw'r gymuned sy'n cael ei chreu.

"Mae pobl yn cwrdd â phobl fasen nhw byth wedi cwrdd tase nhw ddim yn dysgu'r Gymraeg."

Mae Meilyr hefyd yn arwain Côr Dysgwyr Caerdydd ac yn credu bod dysgu'r Gymraeg yn cynnig llawer i "bobl o bob oedran".

Emma WinterFfynhonnell y llun, Will Mason Jones Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Winter yn dweud bod ei gwersi hi yn hygyrch ac yn llawn hwyl

Dywedodd Emma Winter sy'n gantores ac yn athrawes gynradd o Droed-y-rhiw, Merthyr Tydfil ei bod wedi "gweld newid mawr mewn agwedd pobl ifanc yn ddiweddar".

Mae Emma wedi bod yn dysgu Cymraeg am ddwy flynedd ac yn dilyn ei llwyddiant ar raglen S4C, Y Llais, mae nawr yn gweithio'n rhan-amser er mwyn canolbwyntio ar ei cherddoriaeth.

Ond mae hefyd wedi dechrau mynd i wersi gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg ac yn dweud eu bod nhw'n hygyrch ac yn llawn hwyl.

"O'n i'n meddwl byddai'r gwersi'n llawn athrawon ond mae pobl iau na fi a hŷn na fi, ac o bob math o gefndiroedd gwahanol," meddai.

"Mae dysgu'n anodd fel oedolyn ond i fi mae wedi rhoi cyfle i ddilyn cerddoriaeth a bydde fi ddim wedi heb y Gymraeg."

Mae'r gwersi, sy'n cael eu trefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn "hollol hygyrch" gan fod gwersi ar-lein yn ei siwtio hi'n well, meddai.

"Fi just mo'yn cario ymlaen nawr a dangos i eraill bod nhw'n gallu neud e hefyd."

Dona Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dona Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "'Dyn ni'n arbennig o falch o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy'n cwblhau ein cyrsiau"

Erbyn hyn mae dros 4,000 o ddysgwyr Cymraeg rhwng 16-24 oed, cynnydd o 56% ar y flwyddyn gynt, a nifer sydd bron i chwe gwaith yn uwch nag oedd o yn 2018/19.

Dywedodd y ganolfan fod bron i dri chwarter y dysgwyr hefyd wedi nodi eu hethnigrwydd, gyda 5% yn cofnodi 'ethnigrwydd amrywiol', a 95% yn cofnodi 'ethnigrwydd gwyn'.

Yn ôl adroddiad y llynedd, dim ond 1% oedd wedi nodi 'ethnigrwydd amrywiol' bryd hynny.

"'Dyn ni'n falch iawn o'r ffigyrau diweddaraf hyn, sy'n dangos twf cyson a chadarn yn niferoedd y bobl sy'n dysgu Cymraeg," meddai Dona Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"'Dyn ni'n arbennig o falch o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy'n cwblhau ein cyrsiau.

Esboniodd eu bod yn mynd â'r "cynnig dysgu Cymraeg i ble mae pobl ifanc ac yn sicrhau ein bod yn ei gyflwyno mewn ffordd sydd o ddiddordeb iddyn nhw".

Ychwanegodd eu bod yn "gwybod bod y targed o filiwn yn uchelgeisiol," ond bod y data yma yn "sail gadarn i barhau gyda'r momentwm ni'n ei weld yn ein sector ni".

Trending Now