Seren The Traitors i gael gwersi i ailgydio yn y Gymraeg

Fiona HughesFfynhonnell y llun, BBC/Studio Lambert
  • Cyhoeddwyd

Bydd seren The Traitors, Fiona Hughes, yn derbyn gwersi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ailgydio yn y Gymraeg.

Yn siarad gyda BBC Cymru Fyw yn ddiweddar dywedodd ei bod yn gobeithio dod yn rhugl ar ôl ymddeol.

Bydd Fiona, sy'n wreiddiol o Dreforys yn Abertawe, yn gweithio gyda thiwtor arbenigol drwy gynllun Codi Hyder i helpu i feithrin hyder wrth ddefnyddio'r iaith.

Dywedodd Fiona ei bod wedi mynychu ysgol gynradd Gymraeg ond bod ei defnydd o'r iaith wedi lleihau ar ôl symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.

Disgrifiad,

Seren Traitors eisiau dod yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl ymddeol

Dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis, ei bod yn croesawu'r cyfle i gefnogi rhywun sydd am ailafael yn yr iaith.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Gwnaeth Fiona argraff fawr ar gynulleidfaoedd The Traitors, a 'dyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at ei chefnogi gyda'i Chymraeg."

Mae'r ganolfan yn dweud bod mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg, gyda chynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n cwblhau cyrsiau ledled Cymru.

Dywedodd Fiona: "Dwi'n caru The Traitors ac roedd ymddangos ar y sioe yn fraint.

"Ro'n i mor hapus i gynrychioli Abertawe a Chymru, a dwi'n teimlo'n gyffrous iawn nawr am y cyfle i gryfhau fy Nghymraeg, gyda help y Ganolfan."

Pynciau cysylltiedig

Trending Now