Teyrnged i 'dad balch' a fu farw mewn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Bu farw David Rogers yn yr ysbyty ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i "dad balch" a fu farw yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd David Rogers, 26 ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i Ffordd Felindre, Pen-coed, ar 28 Chwefror - ond bu farw yn yr ysbyty ddydd Llun.
Fe ymddangosodd Liam Walters, 26, o Ben-coed, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, a chafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae Liam Walters yn parhau yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau.
Mae ditectifs sy'n ymchwilio'r llofruddiaeth yn parhau eu hapêl ac yn annog unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Felindre rhwng 12:30 a 4:30 fore Sadwrn, 28 Chwefror, i gysylltu â nhw.
'Ei garu gan bawb'
Wrth roi teyrnged i David Rogers, dywedodd ei deulu: "Roedd David yn dad balch i'n pedwar mab, Aaron, Cory, Kane a Saul.
"Roedd yn frawd triw i'w chwaer, Bethan, yn ewythr i'w nith a'i nai Lewis a Leah, ac yn fab cariadus i'w fam, Judy.
"Roedd yn gyn-bartner cariadus i fam ei blant, Michelle.
"Roedd teulu yn golygu popeth iddo. Roedd wrth ei fodd yn mynd ar anturiaethau tramor, yn chwarae golff yn y Vale Resort, ac roedd yn cael ei adnabod fel 'Disco Dave'."
Fe wnaeth ei bartner, Abbie, hefyd roi teyrnged iddo, gan ddweud iddo gael ei "garu gan bawb oedd yn ei adnabod. Fy mherson, fy am byth, fy ffrind gorau".
"Fel teulu, does dim syniad gyda ni sut i symud ymlaen hebddo," meddai.
"Ni allai'r plant fod wedi gofyn am lys-tad gwell, ac roedd e bob amser yn mynd y cam ychwanegol hwnnw.
"Fel teulu, rydym yn gwybod bod twll yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.