Dynes o Fôn wedi marw o anafiadau niferus ar ôl gwrthdrawiad A55

Cafodd Jennifer Anne Brown ei disgrifio gan ei chydweithwyr fel person caredig a gofalgar
- Cyhoeddwyd
Bu farw dynes o Ynys Môn o anafiadau niferus yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Conwy, mae cwest wedi clywed.
Cafodd y cwest i farwolaeth Jennifer Anne Brown, 44 oed o Niwbwrch, ei agor ddydd Llun.
Ar ôl y gwrthdrawiad, cafodd Ms Brown ei disgrifio gan gydweithwyr fel person caredig a gofalgar, oedd yn "fwy nag aelod o staff, roedd hi'n deulu".
Mae dyn 57 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Gwrthdrawiad car a lori
Roedd Ms Brown yn teithio mewn Ford Fiesta gwyn ar 29 Ionawr pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad hefo lori ger Twnnel Conwy.
Cafodd tri o bobl eraill oedd yn y cerbyd eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond mi gafodd Ms Brown ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Ddydd Llun, cafodd y cwest i'w marwolaeth ei agor a'i ohirio yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
Clywodd y gwrandawiad byr bod Ms Brown wedi bod yn teithio yn sedd gefn y Ford Fiesta.
Yn dilyn archwiliad post mortem roedd patholegydd wedi casglu ei bod wedi marw o anafiadau niferus.
Yn gweithio mewn cartref gofal ym Mrynsiencyn, cafodd Ms Brown, oedd yn nain, ei disgrifio gan ei chydweithwyr fel person caredig a gofalgar oedd "â gwen i oleuo unrhyw ystafell".
Yn dilyn y digwyddiad fe gafodd dyn 57 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.
Cafodd ei ryddhau a'r fechnïaeth yn ddiweddarach.
Mae'r cwest wedi ei ohirio tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror

- Cyhoeddwyd30 Ionawr
