Cofio clwy'r traed a'r genau: 'Doedd yna neb i rannu'r baich hefo fo'

Mae Sian Evans yn dweud ei bod yn dal i feddwl am ei chyfnod yn gweithio yn Cumbria hyd heddiw
- Cyhoeddwyd
Chwarter canrif ers dechrau'r argyfwng clwy'r traed a'r genau mae milfeddyg o Ynys Môn yn cofio ffermwr yn ei ffonio yn ystod oriau mân y bore yn beichio crio.
Roedd Sian Evans o ardal Llangefni newydd gymhwyso fel milfeddyg ac yn gweithio yn Cumbria – yr ardal a gafodd ei tharo gwaethaf yn 2001.
"Dwi'n cofio cymryd galwad ffôn tua 02:00 gan yr ail fferm yn Cumbria i fynd lawr - er nad oeddwn i'n gwybod hynny ar y pryd - ac roedd dyn yn beichio crio ac yn methu rhoi ei enw na chyfeiriad i mi," meddai Sian wrth siarad ar raglen Ffermio ar S4C.
"Ro'n i ar y ffôn am tua hanner awr... Yn y diwedd ges i'r enw a chyfeiriad a cheisio ffonio MAFF (Ministry of Agriculture Fisheries and Food) yn Carlisle ond doedd 'na neb i rannu'r baich na rhannu gwybodaeth hefo fo."
'Pwysig rhoi clwy'r traed a'r genau yn ei gyd-destun'
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021
Traed a'r genau'n dychwelyd yn 'bryder parhaus'
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2021
'Pan ddechreuon nhw saethu roedd hynny'n ddigon i fi'
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021
Rhwng Chwefror a Medi 2001 cafodd dros 2,000 o achosion o'r clwy eu cadarnhau ar draws gwledydd Prydain - a bron i 900 o'r rheiny yn Cumbria.
Cafodd 6,000,000 o anifeiliaid eu difa a chost y cyfan yn £8 biliwn.
Yng Nghymru, er bod amaethyddiaeth wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol doedd y cyfrifoldeb am y clwy ddim.
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y gweinidog oedd yn gyfrifol am amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar y pryd.
"Gaethon ni gytundeb gyda MAFF ar y pryd er mwyn sicrhau bod 'na staff i ddelio gyda'r clwy," meddai.
"Be sy'n rhaid i chi gofio ydi doedd 'da MAFF ddim staff yng Nghymru dim ond milfeddygon - a nifer bach iawn o'r rheiny. Felly roedd rhaid gwneud cytundeb achos doedd y pwerau ddim gyda ni.
"Yn ymarferol mi weithiodd y trefniant y rhan fwyaf o'r amser."

Mae Llywodraeth Cymru mewn lle gwell lle i allu ymateb i sefyllfa debyg heddiw, meddai Carwyn Jones
Yn dilyn argyfwng 2001 fe gafodd y cyfrifoldeb am y clwy ei ddatganoli.
"Heb os nac oni bai mae'r sefyllfa wedi newid nawr achos y ffaith bod y pwerau i gyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n meddwl bod 'na ddim sgôp nawr ar gyfer unrhyw gamddealltwriaeth rhwng Llundain a Chaerdydd," meddai Carwyn Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bum mlynedd ar hugain ar ôl yr achosion yn 2001, mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau cadarn ar waith i ymateb yn gyflym i unrhyw achos o glwy'r traed a'r genau.
"Y gwahaniaeth mwyaf o 2001 yw gwell gallu i weithredu'n gyflym ac ar y cyd, ledled Prydain Fawr, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer brechu mewn rhai amgylchiadau."
'Wedi paratoi fi ar gyfer bod yn brif weinidog'
Mae Sian Evans yn dal i weithio fel milfeddyg ac yn ei hôl ar Ynys Môn erbyn hyn - ond mae hi'n dal i feddwl am ei chyfnod yn Cumbria yn achlysurol.
"Dwi ddim yn meddwl amdano fo llawer o ddydd i ddydd ond pan dwi yn dechrau meddwl fedra i ddim stopio am ychydig ddiwrnodau," ychwanegodd.
Mae Carwyn Jones o'r farn bod cyfnod y clwy wedi ei baratoi ar gyfer bod yn brif weinidog.
"Wrth edrych nôl oedd na risg wrth gwrs. Tasa pethau wedi mynd ar eu gwaethaf a phobl yn meddwl s'da ni ddim ffydd yn y gweinidog hyn, bydde hynny wedi lladd unrhyw yrfa yn y byd gwleidyddol," meddai.
"Oedd e wedi paratoi fi ar gyfer bod yn brif weinidog. Oedd e'n rhoi'r profiad i chi ddelio ag argyfyngau – delio â phobl ag ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o gyfathrebu gyda phobl er mwyn ennill ffydd pobl.
"Oedd hi'n wers – ond ddim yn wers y byddwn ni na'r byd ffermio wedi dewis ei chymryd ond fel 'na oedd hi," ychwanegodd.
Mae modd i chi wylio ail ddarllediad Ffermio ar S4C ddydd Sul am 13.25 neu ar alw ar BBC Iplayer
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.