Corff menyw wedi'i ddarganfod mewn rhewgell wedi pryderon meddyg - cwest

Yr heddlu ym Mhorthcawl ym mis Chwefror 2026
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu ym Mhorthcawl ym mis Chwefror 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod yr heddlu wedi dod o hyd i gorff menyw 89 oed mewn rhewgell yn ei chartref ym Mhorthcawl ar ôl i'w meddyg ofyn i'r heddlu gynnal ymchwiliad.

Daeth swyddogion o hyd i weddillion Sylvia Phillips yn ei chartref ar Gilgant Poplar am 13:45 ar 17 Chwefror wedi pryderon gan ei meddyg teulu.

Nid yw'n glir eto sut na phryd y bu farw Mrs Phillips.

Mae Christopher Phillips, 60 oed o Borthcawl, wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o dwyll trwy ddweud anwiredd.

Mae wedi'i gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.

Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd fore Mercher bod archwiliad post-mortem wedi'i gynnal ar 2 Mawrth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Clywodd y gwrandawiad hefyd fod angen ymchwiliad pellach i achos marwolaeth Mrs Phillips.

Gofynnodd teulu Mrs Phillips am dystysgrif i amlosgi, a chaniatawyd y cais gan Uwch-grwner Canol De Cymru, Graeme Hughes.

Mae'r cwest wedi'i ohirio er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach, gyda'r crwner yn mynegi ei gydymdeimlad â theulu a ffrindiau Mrs Phillips.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now