'Diolch am driniaeth' tra gallai 80,000 fynd yn ddall

Anita Butler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anita Butler yn canmol ei thriniaeth wrth i adroddiad nodi y gallai nifer golli eu golwg yn sgil diffyg triniaeth

GanDavid Grundy
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd bod 80,000 o bobl mewn peryg o golli eu golwg yn barhaol oherwydd rhestrau aros hir, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Iechyd y Senedd.

Mae'r corff sy'n cynrychioli offthalmolegwyr yng Nghymru'n rhybuddio y gallai'r union nifer sydd mewn peryg o fynd yn ddall fod yn llawer uwch.

Offthalmoleg ydy'r arbenigedd prysuraf, ac mae un o bob wyth claf sydd ar restr aros y GIG yn disgwyl am driniaeth gyda'r adran honno.

Mae'r pwyllgor yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys a chael cynllun buddsoddi er mwyn atal pobl rhag colli eu golwg yn ddiangen.

'Hen ac anniogel'

Dim ond 1.97 o offthalmolegwyr ymgynghorol sydd i bob 100,000 o'r boblogaeth, sy'n llawer is na'r tri sy'n cael ei argymell.

Mae'r pwyllgor yn dweud bod llawer o gyfleusterau gofal llygaid yn hen ac yn anniogel, a bod offer sydd wedi torri yn achosi oedi mewn triniaeth hefyd.

Yn ystod eu hymchwiliad, fe ddaeth i'r amlwg fod system electronig o gofnodi ac atgyfeirio cleifion yn bodoli, ond nid pob bwrdd iechyd sydd wedi'i chyflwyno.

Mae 'na angen am fuddsoddiad cynaliadwy mewn staffio ac adeiladau ar gyfer gofal llygaid arbenigol, yn ôl yr adroddiad.

Mabon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid gweld arweiniad gan y llywodraeth a pharodrwydd gan y byrddau iechyd i gydweithio, medd Mabon ap Gwynfor

"Mae 'na strategaeth offthalmoleg gan Lywodraeth Cymru," meddai Mabon ap Gwynfor AS, sy'n aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Ond hyd yma 'dan ni ddim wedi cael ein hargyhoeddi bod o'n weithredol."

Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i weithredu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol a gafodd ei chyhoeddi yn 2024.

"Mae'n rhaid i ni weld arweiniad gan y llywodraeth a pharodrwydd gan y byrddau iechyd i gydweithio fel bod pawb yn cael y driniaeth angenrheidiol i'w llygaid," meddai.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan gleifion am effaith oedi ar eu bywydau, gan gynnwys un a gollodd ei swydd gan na allai roi amserlen glir i'w chyflogwyr.

Michael ac anita butler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael, gŵr Anita Butler, yn dal i ddisgwyl i gael triniaeth ar ei lygaid

"Dwi'n hapus iawn efo'r driniaeth ges i. Doeddwn i ddim yn gallu darllen o'r blaen heb sbectol," meddai Anita Butler, 79, o Lanfairfechan.

Fe gafodd hi driniaeth ar un llygad mewn clinig preifat dros y ffin yn Sir Caer, ond Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dalodd am y driniaeth.

"Rŵan dwi'n gallu cerdded o gwmpas y tŷ, dwi'n gallu cerdded i'r pentre' heb y sbectol a dwi ddim mor ddibynnol ar y sbectol ag yr oeddwn i," meddai.

"Roedd y driniaeth ges i, a'r bump ddynes arall oedd ar y minibus o 'Sbyty Gwynedd yn wych."

Mae gŵr Anita, Michael, angen tynnu dau gataract hefyd, ond disgwyl y mae o am apwyntiad gydag arbenigwr.

'Triniaeth breifat ddim yn ateb'

Clywodd y pwyllgor fod rhai byrddau iechyd wedi cwtogi rhestrau aros drwy anfon cleifion i Loegr i gael llawdriniaethau cataract gan y sector preifat.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio nad ydy hynny'n mynd at wraidd y broblem o ran recriwtio a chynnig gofal yn agos at gartrefi cleifion.

Mae disgwyl i'r galw am wasanaethau offthalmoleg ar gyfer cataractau a macwlar gynyddu 40% dros yr 20 mlynedd nesaf.

Dydy Cymru ddim yn llwyddo i ateb y gofyn am y gwasanaethau oherwydd "pobl, lleoedd ac arian" yn ôl Rhianon Reynolds sy'n offthalmolegydd ymgynghorol ac yn Llywydd ar Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru.

"30 mlynedd yn ôl, roedd y maes yn un gymharol fach," meddai.

"Roedd yr opsiynau am driniaethau'n gyfyngedig iawn ond ers hynny mae 'na dwf sylweddol wedi bod yn y ffordd i drin afiechydon o'r llygaid, ac mae llawer llai o bobl yn colli'u golwg.

"Ond mae hynny'n golygu bod y ffyrdd o weithio a'r cyfleusterau sydd ganddyn nhw dal yn cael eu cyfyngu gan yr hyn oedd yn digwydd 30 mlynedd yn ôl."

Mae Dr Reynolds yn dweud bod y twf yn nifer y cleifion y mae modd eu helpu ddim wedi ei adlewyrchu yn nhwf y gweithlu na'r diffygion mewn cyfleusterau ar draws y wlad.

Clywodd ymchwiliad y panel bod rhai unedau yn cael problemau cyson gyda thoiledau yn gollwng dŵr uwchben ardaloedd clinigol, ac roedd eiddew yn tyfu trwy waliau uned arall.

"Dwi ddim yn meddwl bod yna'r un uned llygaid yng Nghymru sydd yn addas," meddai Dr Reynolds.

Mae hi'n meddwl bod y gwahanol heriau ar fyrddau iechyd wedi arwain at oedi "rhwystredig" o ran cydweithio rhanbarthol.

Ychwanegodd bod y ffigwr o 80,000 sy'n cael ei gyfeirio ato yn adroddiad y pwyllgor yn bell o'r gwir, gan nad ydy'r data yn cynnwys cleifion sydd yn y system yn barod.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn ystyried eu hargymhellion. Byddwn yn ymateb maes o law."

'Pobl yn colli golwg heb wybod'

Dywedodd Ffion Lewis o elusen yr RNIB fod yr amser y mae pobl yn disgwyl am driniaeth yn "gallu cael effaith fawr".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Gall pobl golli golwg heb fod yn ymwybodol o fe, gall pobl fod yn ymwybodol bod nhw'n colli golwg.

"Ni wedi clywed gan bobl sydd wedi bod yn pryderu am y post yn cyrraedd a phoeni fod apwyntiad nhw am gael ei ganslo eto gan fod nhw'n colli mwy a mwy o olwg bob dydd.

"Dyna'r sefyllfa ar draws Cymru yn anffodus."

Dywedodd fod yr RNIB yn cefnogi llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad ond bod angen buddsoddiad gan y llywodraeth.

"'Dan ni dal rili heb weld lot o wahaniaeth, yn enwedig ar gyfer cleifion, felly mae'n rili bwysig bod y llywodraeth yn buddsoddi yn y strategaeth yma i wneud yn siŵr bod y newidiadau yma'n digwydd a bod ymrwymiad gan y byrddau iechyd, eu bod nhw'n gallu chwarae eu rhan nhw mewn gwella pethau yn lleol ar gyfer cleifion."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now