Pryderon am y pwysau ar dimau achub mynydd

Un o wirfoddolwyr tim achub mynydd yn darllen arwydd o flaen y llun a'r mynyddoedd yn y cefndir. Mae eira ar y mynyddoedd
Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd Tîm Achub Mynydd Llanberis 358 o alwadau 999 yn 2025

GanNia Cerys
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o dimau achub mynydd Cymru'n "poeni am y dyfodol" os bydd niferoedd y galwadau am gymorth yn parhau i godi.

Y llynedd oedd blwyddyn brysura' timau Llanberis a Dyffryn Ogwen, a'u gwirfoddolwyr dan bwysau mawr i gwrdd â'r galw.

Ond mae 'na gynlluniau ar droed i geisio lleddfu'r pwysau, a'r timau yn gofyn i'r cyhoedd eu helpu drwy gynllunio a pharatoi'n well cyn mentro i'r mynyddoedd.

Fel tim achub mynydd prysura' Prydain, fe dderbyniodd tîm Llanberis 358 o alwadau 999 yn 2025 - bron i un y dydd ar gyfartaledd. Roedd rhai yn achosion y gellid bod wedi'u hosgoi, a chydlynwyr y tîm wedi gallu delio â dros 30% o'r digwyddiadau yn uniongyrchol.

Mae Tom wedi gwisgo yn gynnes o flaen llyn a'r mynyddoedd yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Carrick yn aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis

Ond bu'n rhaid i dimau cyfan gael eu hanfon allan mewn 231 achos y llynedd, gan roi "baich sylweddol" ar y gwasanaeth gwirfoddol.

Un o'r lleoliadau prysura' o ran galwadau ydy Llwybr Llanberis ar Yr Wyddfa. Gan bod y llwybr mor agos at y pentre', dydy rhai ddim yn sylweddoli bod yr amodau'n gallu bod yn wahanol iawn i lawr yn y dyffryn o'i gymharu a'r copa.

Meddai Tom Carrick, aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis:

"Fel tim 'da ni'n mwynhau gallu gweld pawb yn mwynhau'r mynydd ond yn anffodus mae hynny wedi dod a lot mwy o bwysau arnon ni. Mae lot o bobl yn cael gwybodaeth o bethau fel social media - sy'n ffordd wych o gael gwybodaeth - ond 'da chi angen edrych am fwy o wybodaeth ar ben hynny.

"Mae'n reit aml yn dangos awyr las a diwrnodau rili neis a dim o hyd yn dangos be' sy'n gallu digwydd pan mae'r amodau'n newid pan 'da chi'n mynd fyny'r mynydd.

"Mae'n gallu golygu bod o'n gallu cymryd yn hirach i ni ddod allan, mae 'na cwpl o ddyddiau yn y flwyddyn lle 'da ni 'di cael saith neu wyth galwad y diwrnod. Dim ond rhyw 40-50 ohonan ni sydd yn y tim yn gyfan felly mae'r pwysau arnon ni'n gallu bod yn ofnadwy o uchel."

Llun o garreg sy'n arwydd o Lwybr Llanberis ar Yr Wyddfa.
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r lleoliadau prysura' o ran galwadau ydy Llwybr Llanberis ar Yr Wyddfa

Mae hi bron yr un mor brysur i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, sy'n nodi 60 mlynedd ers eu sefydlu. Fe gawson nhw hefyd eu cyfnod prysura' erioed yn 2025, gan ddelio a 186 o alwadau.

Yn ôl un o'u hymddiriedolwyr, Gareth Pritchard, mae'r patrwm diweddar yn achos pryder.

"Da ni'n poeni am y dyfodol efo'r cynnydd yma flwyddyn ar ôl blwyddyn," meddai.

"'Da ni 'di edrych ar sut i weithredu ac ailstrwythuro i ddelio efo'r cynnydd yma, a 'da ni'n gweud rhai argymhellion i'r committee i sut mae'r tîm yn gallu delio efo'r demands sy'n dod yn y dyfodol.

"'Da ni'n ceisio datblygu'r nifer o aelodau sydd ganddon ni'n y tîm, yr arweinyddiaeth, sut 'da ni'n cyfathrebu. Mae 'na nifer o bethau sy' dan ystyriaeth ar hyn o bryd."

Yn ffodus, does dim prinder o bobl sy'n barod i gefnogi'r timau a chodi arian - ond dydy cael gwirfoddolwyr ddim mor syml â hynny.

Ychwanegodd Tom Carrick: "Yn aml 'da ni'n rhoi galwad allan yn dweud bod ni 'di cael blwyddyn brysur eto, a 'da ni'n cael llwyth o bobl yn cynnig dod i wirfoddoli efo'r tîm.

"Ond yn anffodus 'da ni angen pobl sy'n byw yn lleol. Ma' cymuned Llanber yn eitha' bychan a 'does 'na ddim llawer yn byw yma. 'Da ni angen pobl sydd efo'r profiadau cywir a'r sgiliau i allu mynd allan ar y mynydd i helpu pobl."

Llun o Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych ar y camera. Mae hi wedi gwisgo'n gynnes mewn cot a het ac yn sefyllar y mynyddoedd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Jones yn gobeithio y gall busnesau lleol ledaenu'r negeseuon i gadw'n ddiogel ar y mynyddoedd

Gyda'r tywydd yn gymaint o ffactor yn y mynyddoedd, a rhai pobl yn fwy dibrofiad, mae addysg yn hollbwysig.

Mae prosiect newydd yn Eryri yn gofyn i fusnesau lleol helpu i ledaenu negeseuon diogelwch, fel yr esbonia Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

"'Da ni'n gofyn i fusnesau lleol ddod yn rhan o gynllun Pencampwyr Mentra'n Gall. Mae'n gyfle iddyn nhw ddysgu ganddon ni a'r timau achub mynydd, arbenigwyr yn yr ardal, am y negeseuon diogelwch cryno.

"Rhoi'r hyder iddyn nhw allu trafod efo'u cwsmeriaid am fynd allan i fentro yn Eryri. Er enghraifft, os ydyn nhw'n berchen ar le gwely a brecwast, a bod nhw'n cael cwestiwn yn y bore am sut ddylai rhywun baratoi at y daith heddiw - maen nhw'n gallu rhoi'r wybodaeth mwya' diweddar iddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now