Rhybuddio cwmnïau am arddangos logo'r llywodraeth heb ganiatâd

Logo Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi wedi dod i'r amlwg bod logo Llywodraeth Cymru wedi bod yn cael ei ddefnyddio heb ganiatâd ar ddiplomâu ffug

  • Cyhoeddwyd

Roedd cwmni sy'n gwerthu diplomâu ffug er mwyn i bobl dylino (massage) ceffylau yn un o chwe chwmni sydd wedi cael eu dal gan Lywodraeth Cymru yn defnyddio eu logo heb ganiatâd.

Cafodd y bobl a dderbyniodd y tystysgrifau twyllodrus gan y "gwasanaeth tylino ceffylau" gyfarwyddyd i'w dinistrio, ac anfonodd swyddogion y llywodraeth lythyrau cyfreithiol at berchnogion y cwmni yn eu rhybuddio i roi'r gorau i ddefnyddio'r logo.

Mae'r llywodraeth wedi canfod 10 achos o'u logo yn cael ei ddefnyddio heb ganiatâd ers 2020, fe gafodd y BBC wybod gan ddefnyddio cais rhyddid gwybodaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn cymryd uniondeb ei brand "o ddifrif" ac yn cymryd "camau cadarn yn erbyn unrhyw ddefnydd amhriodol".

Y logo yn gefndir i gyhoeddiadau gan y Prif Weinidog Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r logo yn aml yn gefndir i gyhoeddiadau gan y Prif Weinidog Eluned Morgan

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dweud wrth y BBC enwau'r chwe chwmni yr anfonwyd llythyrau cyfreithiol atyn nhw yn eu rhybuddio i roi'r gorau i ddefnyddio'r logo.

Mae hefyd wedi gwrthod dweud a wnaethon nhw gysylltu â'r heddlu.

Cafodd y llywodraeth wybod bod y cwmni oedd yn addysgu pobl i roi therapi i geffylau yn cyhoeddi diplomâu twyllodrus yn arddangos y logo yn 2022.

Anfonwyd llythyr cyfreithiol at y cwmni gan y llywodraeth, codwyd y mater gyda'r cwmni gan y corff dyfarnu dilys ar gyfer therapi tylino ceffylau, a rhoddwyd cyfarwyddyd i bob dysgwr i ddinistrio eu tystysgrifau.

Ar wahân, cafodd tri chwmni eu canfod yn gwerthu diplomâu ffug yn arddangos y logo yn 2020, a sefydlwyd tri chyfrif ffug ar Instagram yn cario'r logo yn 2022 - a gafodd eu dileu gan Instagram ar ôl i'r llywodraeth gysylltu â nhw.

Yr un flwyddyn, roedd ymgeisydd am swydd gyda chwmni arlwyo wedi cyflwyno tystysgrif ffug oedd yn arddangos y logo, ond gorchmynnwyd iddo ei dinistrio gan y corff dyfarnu ar ôl i'r llywodraeth gysylltu â nhw.

Y logo tu allan i bencadlys llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r logo wedi'i arddangos y tu allan i bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd

Yn 2023 defnyddiwyd y logo heb ganiatâd gan gwmni oedd yn cynnig gwasanaethau effeithlonrwydd ynni mewn hysbysebion Facebook.

Yn 2024 anfonwyd llythyr cyfreithiol at gwmni arall oedd yn gwerthu diplomâu ffug, ac fe gafodd eu gwefan ei dynnu i lawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig y gall dinasyddion ymddiried mewn gwybodaeth a ddarperir gan y llywodraeth o dan ei brand.

"Rydym yn monitro hyn yn barhaus a, lle bo angen, rydym yn cymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw ddefnydd amhriodol."

'Balch o'n brand'

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'w logo, a grëwyd ym mis Mai 2011, gael ei ddefnyddio ar gyhoeddiadau a deunyddiau lle mae'n gyfrannwr sylweddol at gynlluniau.

Mae eu canllawiau, dolen allanol yn dweud: "Mae ein llwyddiannau yn bwysig i ni, ac rydym yn falch o roi ein brand ar yr holl brosiectau rydym yn ymwneud â nhw, p'un a yw hynny'n golygu gwella canolfan gymunedol, adeiladu ysgol newydd, adeiladu adran newydd mewn ysbyty, gwella ffyrdd neu wella gorsafoedd rheilffordd."

Mae'r canllawiau hefyd yn egluro bod yr elfennau yn y logo "mewn perthynas sefydlog â'i gilydd, na ddylid ei newid mewn unrhyw ffordd".

"Mae ein logo yn ddraig gyda theitl dwyieithog, wedi'i gwahanu gan linell lorweddol.

"Mae lliw ein logo yn ddu neu wyn. Ni chaniateir lliw arall."

Bu wyth achos o'r logo yn cael ei ddefnyddio heb ganiatâd dros y pum mlynedd flaenorol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now