Cwmnïau'n arddangos logo Llywodraeth Cymru heb ganiatâd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni a ddaliwyd yn gwerthu sticeri ceir gyda draig Llywodraeth Cymru arnynt yn un o wyth achos o'r logo yn cael ei ddefnyddio heb ganiatâd.
Roedd cwmni arall yn gwerthu delweddau wedi'u brodio o'r ddraig weinidogol.
Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru cyn bod sefydliad allanol yn gallu arddangos ei logo.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cymryd camau priodol" i sicrhau nad yw'r brand yn cael ei gyfaddawdu.
Yr achosion eraill lle defnyddiwyd y ddraig heb ganiatâd oedd:
cwmni diodydd yn arddangos draig Llywodraeth Cymru ar frand o ddŵr potel;
cwmni bwyd byrbryd yn ei arddangos ar stondinau marchnad;
darparwr hyfforddiant yn cynnwys y logo yn ei lofnodion e-bost;
cwmni yn gwerthu tanwydd yn arddangos y ddraig fel dyfrnod ar ei wefan;
cwmni nwyddau yn arddangos y logo ar ei wefan;
cwmni oedd yn rhoi microsglodion ar gŵn yn arddangos y logo ar ei wefan.
Cafodd y BBC y wybodaeth trwy gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Ychwanegodd y llefarydd: "Pe bai sefydliad yn parhau i arddangos y logo heb ganiatâd, byddem yn cyfeirio'r mater at gynghorwyr cyfreithiol".

Canllawiau Llywodraeth Cymru
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cymryd camddefnydd o'i logo o ddifrif ond nad yw'n cadw cofnod o'r achosion pan mae'r logo'n cael ei arddangos yn anghywir - er enghraifft, wedi ei ystumio neu ei ailfeintio'n anghymesur.
"Pan fydd yr achlysuron hyn yn codi, rydyn ni'n cynnig arweiniad i sicrhau bod y camgymeriad yn cael ei gywiro," meddai'r llefarydd.
Un o'r gofynion a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru yw bod "digon o le gwag o amgylch ein logo. Dylai gofod fod yr un faint â'r uchder o'r llinell lorweddol i waelod y logo".
Logo dwyieithog yw hwn, ac felly "ni ddylid dileu'r Gymraeg na'r Saesneg, waeth beth fo iaith y deunyddiau y mae'n ymddangos arnynt" medd y canllawiau.
Mae'r llywodraeth yn mynnu bod rhaid arddangos ei logo, a gafodd ei greu ym mis Mai 2011, ar gyhoeddiadau neu ddeunyddiau lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrannwr sylweddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019
