Ateb y Galw: Dewi Williams

Dewi WilliamsFfynhonnell y llun, Dewi Williams
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Hyfforddwr ffitrwydd personol o'r Canolbarth yw Dewi Williams. Mae ganddo hefyd ddiddordeb brwd mewn natur – sydd ddim yn syndod o ystyried mai ei dad yw'r naturiaethwr enwog Iolo Williams.

Roedd y ddau i'w gweld yn y gyfres Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia sydd dal ar gael ar iPlayer. Yn 2027 mi fydd Dewi yn cyflwyno cyfres o raglenni bywyd gwyllt i blant 8-12 oed o'r enw Anturiaethau Gwyllt Dewi.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud wrth iddo Ateb y Galw i Cymru Fyw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf ydy bwyta Weetabix efo Dad ar gownter yn y gegin.

Rydw i'n cofio bwyta'r Weetabix a gwylio'r byd natur tu allan i'r ffenest - sy'n dangos gallu Dad yn y gegin yn coginio! Dydy'r bwyd ddim wedi gwella rhyw lawer yn y 28 mlynedd diweddaf... yn ffodus mae Mam yn gogydd arbennig!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Rydw i wedi bod yn meddwl am yr ateb yma llawer achos mae o'n gwestiwn anodd... Dwi wedi bod yn ffodus iawn i weld llawer o lefydd ar draws Cymru a hefyd y byd.

Rydw i am fynd am gopa Tryfan yng Ngogledd Cymru. Rydw i wedi dringo'r mynydd sawl gwaith a dwi'n hoff iawn o'r olygfa a'r siawns i ddringo o ochr gogleddol Tryfan ac wedyn i fyny Crib Danheddog i ymuno efo'r Glyderau.

Dewi a'i ffrindiau yn mynyddaFfynhonnell y llun, Dewi Williams

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Mae'r cwestiwn yma yn arwain fi i Groatia yn 2022 pan es i ar fy ngwyliau ar ben fy hun a diweddu fyny ar barti ar gwch llawn cwrw.

Roedd yr haul allan a chwrddais i grŵp mawr o genod o Gymru a chawsom brynhawn a noson grêt.

Roedd yna lawer o glasuron yn cael ei chwarae fel Gimme! Gimme! Gimme! a deifio i mewn i'r môr a bwyta pizza rhad wedi meddwi.

Partîo ar gwch yn CroatiaFfynhonnell y llun, Dewi Williams
Disgrifiad o’r llun,

Partîo ar gwch yn Croatia

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Byswn i'n dweud ffyddlon, gwydn ac egnïol.

Dewi mewn ogofFfynhonnell y llun, Dewi WIlliams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi yn amlwg wedi etifeddu ysbryd anturus ei dad

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Y digwyddiad sy'n neud i fi wenu ydy atgofion o sledgio efo brawd a ffrindiau fi i lawr be' oedden ni'n galw Mario Kart Hill. Maen nhw'n atgofion cynnes iawn yn trio osgoi'r tractor oedd yn clirio'r lôn a rasio i lawr y rhiw tuag at geir a'r pentref.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Atgof syml ond llawn cywilydd oedd methu cic o'r smotyn i fy nhîm Trefaldwyn pan oeddwn i'n 10 oed i golli yn y rownd derfynol.

Rydw i'n cofio crio llawer a 'mrawd yn brolio bod e wedi sgorio 13 gôl ar yr un amser i dîm arall. Dwi dal yn teimlo cywilydd ar ôl 18 mlynedd basio!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

I fod yn onest dwi ddim yn crio llawer ond y tro diwethaf oedd ar ôl i Lerpwl ennill y bencampwriaeth yn 2025.

Lerpwl yn ennill r Uwch GynghrairFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe griodd Dewi wrth i Lerpwl ennill Uwch Gynghrair Lloegr y llynedd

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n anghofio glanhau'r ystafell ymolchi ar ôl i fi deio fy ngwallt a gadael ôl y bleach ar hyd y sinc ond mae cael gwallt sy'n edrych yn fresh lot fwy pwysig!

Dewi mewn campfaFfynhonnell y llun, Dewi Williams
Disgrifiad o’r llun,

Steil gwallt addas i naturiaethwr...

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Rydw i'n darllen pob dydd a darllen llawer o lyfrau ffuglen a sagas hanesyddol. Dwi'n meddwl mai'r llyfrau o'r gyfres Sigurd am Lychlynwyr yn teithio'r byd yw fy hoff gyfres.

Mae'r llyfrau'n grêt achos bod 'na gymaint o antur a hefyd brwydrau/cymeriadau oedd wedi cael eu seilio ar y gwir. Yn ogystal â bod yn lyfrau da, dwi wedi cael cwpwl o'r cymeriadau wedi eu gwneud i mewn i tattoos ar fy mraich trwy ddefnyddio disgrifiadau ac AI.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Byswn i'n hoffi cael diod efo Genghis Khan i glywed am hanesion y byd, tactegau milwrol ac i glywed am y byd o'r cyfnod yna.

Genghis KhanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Dewi drafod tactegau milwrol gyda'r brenin rhyfelgar o Fongolia, Genghis Khan

Dyweda rhywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Un ffaith does 'na ddim lot o bobl yn gwybod amdana i yw mai fi oedd y mentor ieuengaf yng Nghymru ar y pryd (2015) i blant oedd yn cael bywydau anodd.

Roeddwn i'n mynd a cwpwl o blant o gartrefi anodd allan i chwarae golf, pŵl, bowlio deg a gweithgareddau hwyl.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Dwi'n meddwl buaswn i'n treulio'r amser efo fy nheulu agos (Mam, Dad a Tomos fy mrawd) yn cael pryd o fwyd mawr yn sôn am ein hoff atgofion a thynnu coes ein gilydd tan fo ni'n cwympo allan!

Dewi a'i frawd Tomos pan yn blantFfynhonnell y llun, Dewi Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dewi a'i frawd Tomos pan yn blant

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Llun ohonof i a Tomos yng Nghanada ar ôl nofio yn llyn Minnewanka a dod allan o'r llyn yn crynu a trio edrych yn hamddenol ac aesthetic.

Dewi a'i frawd Tomos yn yn llyn Minnewanka, CanadaFfynhonnell y llun, Dewi Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dewi a'i frawd Tomos yn yn llyn Minnewanka, Canada

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Gavin Henson ar ôl curo Lloegr yn 2005. Byswn i'n hoffi cael y teimlad yna o gicio'r gic cosb a mynd allan efo'r gwallt a'r tan iconic yna!

Gavin HensonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Henson yn sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr, a'r bencampwriaeth, yn 2005

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb:

Trending Now