Corff gwarchod wedi cael gwybod ar ôl i'r heddlu saethu gwn yn Sir Benfro

Ystad taiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y digwyddiad yn Bunkers Hill ar ddydd Sadwrn 28 Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddog heddlu wedi saethu gwn yn Sir Benfro ar ôl cael ei alw i ddigwyddiad mewn ystad tai ble mae adroddiadau'n dweud bod dyn yno gyda chyllell.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyfeirio eu hunain at gorff gwarchod yr heddlu yn dilyn y digwyddiad yn Bunkers Hill, Aberdaugleddau nos Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y gwn wedi ei bwyntio at unigolyn ac nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu pan gafodd y gwn ei saethu unwaith.

Cafodd swyddogion, gan gynnwys uned arfau tanio, eu galw i'r eiddo tua 17:45. Cafodd y gwn ei danio am 18:32 meddai'r heddlu.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Gary Phillips, fod ymchwiliad wedi cael ei lansio i mewn i'r "amgylchiadau arweiniodd at danio'r gwn" a bod y llu wedi cyfeirio eu hunain at y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu.

"Byddwn yn gweithio gyda nhw wrth inni barhau i sefydlu'r amgylchiadau," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now