O Gaerdydd i Gatalunya: Marciau llawn i Ferched Plastaf ym Montserrat

- Cyhoeddwyd
Mae cynrychioli eich gwlad ar lwyfan ryngwladol yn un peth, ond mae gwneud hynny tra'n cael marciau llawn a dod yn ôl gyda'r brif wobr yn rhywbeth arall.
Dyna'n union y gwnaeth Côr Merched Plastaf y penwythnos hwn. Roedden nhw'n cystadlu yng ngŵyl gorawl fawreddog Golden Voices of Montserrat yng Nghatalunya. Nid yn unig y gwnaethon nhw ennill yn eu categori (Ensembles a Chorau Siambr); ond fe gipion nhw'r Grand Prix, sef y wobr am gôr orau'r ŵyl, y côr gyntaf o Gymru i erioed gwneud hynny.
Mae'r côr, sy'n gyfuniad o ddisgyblion benywaidd o'r tair ysgol uwchradd Gymraeg yn y brifddinas - Plasmawr, Glantaf a Bro Edern, wedi ennill enw da dros y blynyddoedd am eu sain unigryw a chyfoethog.
O dan gyfarwyddyd Caryl Ebenezer, fe arweiniodd yr holl waith caled hwnnw at benwythnos o fuddugoliaeth ysgubol o dan haul Sbaen.

Cymuned o Leisiau
Sefydlwyd y côr yn 2010, gan ddechrau fel rhan o adran Salem yng Nghaerdydd. Roedd cenhadaeth Caryl yn mynd tu hwnt i ganu'r nodau cywir; roedd hi eisau creu gofod i ferched ifanc allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Sefydlais i'r côr yn ôl yn 2010 fel rhan o adran Salem yng Nghaerdydd. Maen nhw'n ffantastig. Maen nhw'n gymuned Cymraeg.
"O'n i eisiau bo ni'n creu cymuned Gymraeg fel bod merched ifanc yr oedran yna'n gallu dod at ei gilydd i ganu yn y Gymraeg, i siarad Cymraeg ac i gael profiadau gwych.
"Mae lleisiau mor dda yn y côr. Y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael gwersi canu. Maen nhw'n wych."
Y Daith i'r Basilica
Dechreuodd y daith i Montserrat gydag anfon fideo o'r côr i mewn i'r trefnwyr, cyn iddynt gael eu derbyn i'r ŵyl ryngwladol. Wedi'i chynnal ar draws Lloret de Mar a basilica anhygoel Montserrat ger Barcelona, daeth y digwyddiad â chorau at ei gilydd o wledydd mor bell i ffwrdd â Lithuania, Canada, Twrci, a Kosovo.

Roedd yr ŵyl yn gyfle i'r merched ifanc gwrdd â phobl o ar draws y byd
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ei hun ddydd Gwener yn Eglwys Sant Roma, ac fe ddilynwyd hynny gan ddydd Sadwrn bythgofiadwy ym Masilica Montserrat - safle sydd â thraddodiadau corawl yn dyddio nôl i'r 14eg ganrif.
"Aethon ni ar y bws wedyn lan i Basilica Monsterrat. Eglwys yn y graig yw hi, eglwys enwog lle mae 'na gôr bechgyn enwog wedi cael ei sefydlu yna yn ôl yn y 14eg ganrif.
"Mae traddodiad corawl hynafol yn y basilica 'ma ym Montserrat. Mae fe lan yn y glogwyn, yn y graig, oedd e jysd yn brofiad anhygoel a phawb wrth eu boddau."
Cyrraedd perffeithrwydd
Er bod y penwythnos yn ddathliad o gerddoriaeth, roedd yr elfen gystadleuol yn frwd. Gyda thri beirniad rhyngwladol o fri yn cadw llygad, roedd y sgorio'n drylwyr iawn. Nos Sul, yn ystod cyngerdd gala mawr lle perfformiodd y côr dri darn o'u dewis, cyhoeddwyd y canlyniadau.

Y merched yn perfformio ym Masilica Montserrat, sydd â thraddodiad corawl hynafol yn perthyn iddi sy'n dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif
Yn gyntaf, fe glywson nhw fod Ensemble Plastaf o 16 o ferched wedi ennill y wobr gyntaf yn y categori i Ensembles a Chorau Siambr. Ond wedyn, daeth y newyddion anhygoel bod Côr Merched Plastaf wedi ennill y Grand Prix, sef y brif wobr Golden Voices of Montserrat am gôr orau'r ŵyl gyda sgôr berffaith o 100 allan o 100.
"Mae fe'n wahanol i'r Eisteddfod. Pwyntiau sy'n bwysig fan hyn. Gaethon ni 100 allan o 100. Dim ond corau sy'n cael 100 allan o 100 sy'n gallu ennill y Golden Voices of Montserrat - felly gaethon ni farciau llawn.
"Mi oedd hwnna'n newyddion ffantastig a phawb mor hapus. Mae 'da ti dri beirniad rhyngwladol sydd yn enwau mawr yn y byd corawl hefyd. Mae e'n dipyn o bluen yn het y merched i fod wedi ennill hwn."
Dathlu ac ymlaen i'r dyfodol
Dathlwyd y fuddugoliaeth mewn modd Cymreig iawn - gyda phryd o fwyd lle'r oedd y merched yn canu caneuon Cymraeg drwy'r nos, gan hyd yn oed gyd-ganu gyda'u halbwm newydd, Annwyl Faria (a gafodd ei recordio yn Eglwys Sant Awstin ym Mhenarth a'i rhyddhau ar label Sain y llynedd).
Cyn i'r merched ddychwelyd i Gaerdydd i wynebu eu harholiadau ysgol, fe gawson nhw ddiwrnod haeddiannol ar y traeth, gyda sawl un yn ddigon dewr i fynd i weld sut roedd dŵr y Môr Canoldir.
Ond nid yw'r amserlen yn arafu am yn hir; mae'r côr eisoes yn paratoi ar gyfer Gŵyl Gerdd Llandaf ym mis Gorffennaf a'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhreseli ym mis Awst.

Treuliodd y merched dydd Llun ar y traeth, cyn dychwelyd nôl i Gymru i gychwyn adolygu ar gyfer eu aroliadau
I'r cantorion ifanc hyn, mae'r tlysau'n fonws hyfryd, ond y wobr go iawn yw'r berthynas y maen nhw wedi'i meithrin ar draws y tair ysgol. Fel y dywed Caryl wrth edrych nôl ar benwythnos o sgoriau perffaith a chyfeillgarwch rhyngwladol:
"Cwrdd â pobl o wahanol wledydd. Mae 'di bod yn brofiad gwych iddyn nhw.
"Nawn nhw gofio hwn am byth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd23 Mawrth
