Stryd fawr Machynlleth yn gosod goleuadau Nadolig wedi'r cwbl

MachynllethFfynhonnell y llun, Cyngor Tref Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Cyngor Tref Machynlleth ddydd Llun fod y goleuadau Nadolig wedi cael eu gosod wedi'r cwbl

GanMari Grug
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae stryd fawr Machynlleth wedi cael ei goleuo i ddathlu'r Nadolig wedi'r cwbl, diolch i gyllid gan gronfa'r Maer a rhodd gan aelod dienw o'r cyhoedd.

Roedd Clwb Rotari Machynlleth, sydd wedi bod yn gyfrifol am osod y goleuadau ers blynyddoedd lawer, wedi dweud yn wreiddiol bod y gost o'u gosod a'u tynnu i lawr yn rhy uchel i wneud hynny eleni.

Fe ddywedodd y clwb fod cost gosod y goleuadau gan Gyngor Powys "bedair gwaith uwch" na'r blynyddoedd blaenorol a'u bod wedi penderfynu peidio â'u gosod.

Roedd hynny er i Gyngor Powys ddweud nad oedd y clwb rotari wedi bod mewn cyswllt am ddyfynbris ar gyfer gosod addurniadau Nadolig eleni.

Ond fe gyhoeddodd Cyngor Tref Machynlleth ddydd Llun fod y goleuadau Nadolig yn cael eu gosod wedi'r cwbl, ar ôl cynnal seremoni i oleuo'r goeden dros y penwythnos.

Llun o goeden Nadolig mawr o flaen cloc mawr Machynlleth sydd ar ben tŵr.Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd coeden Nadolig y dref ei goleuo mewn seremoni nos Sadwrn

Yn ôl Maer Machynlleth, Jeremy Paige, fe lwyddon nhw i logi cwmni preifat i osod y goleuadau "ar fyr rybudd neithiwr" diolch i rodd a dderbyniwyd gan aelod dienw o'r cyhoedd, a gafodd ei ychwanegu wedyn at arian o gronfa'r maer.

Dywedodd: "Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd dienw. Rwy'n gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn, a gwneud y goleuadau yn well, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Doedd y Nadolig erioed wedi ei ganslo yma.

"Beth mae'r dref hon yn adnabyddus am, os unrhyw beth yw ei gwydnwch, ac rydym yn ddatryswyr problemau felly rwy'n hapus iawn bod y mater hwn wedi'i ddatrys.

"Mae modd defnyddio cronfa'r maer ar gyfer unrhyw beth a allai fod o fudd i'r dref a thrwy ddefnyddio cwmni arall, a roddodd ddyfynbris mwy cymedrol o'i gymharu â'r un gan Gyngor Powys, roeddem yn gallu eu gosod wedi'r cyfan."

Mae Cyngor Powys wedi cael cais am ymateb.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Trending Now