Arwyddion Cymraeg wedi'u gweld mewn archfarchnad yng Nghernyw

Arwyddion Cymraeg mewn Tesco yn Helston
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tesco wedi ymddiheuro am y camgymeriad a thynnu'r arwyddion

  • Cyhoeddwyd

Mae arwyddion dwyieithog yng Nghernyw wedi denu sylw siopwyr gan mai nid y Gernyweg sy'n ymddangos law yn llaw â'r Saesneg, ond y Gymraeg.

Cafodd yr arwyddion sy'n dangos i siopwyr ble mae dod o hyd i 'Bwyd Môr', 'Talpiau Tatws' a 'Tatws Melys' eu gweld mewn archfarchnad Tesco yn ardal Helston, neu Hellys.

Dywedodd Tesco eu bod yn "ymddiheuro am y camgymeriad yma ac wedi tynnu'r arwyddion".

Dyma'r achos diweddaraf o arwyddion Cymraeg yn ymddangos mewn mannau annisgwyl wedi iddi ddod i'r amlwg fod rhai arwyddion ym Maes Awyr Chambéry yn Ffrainc hefyd yn cynnwys y Gymraeg.

Arwyddion Cymraeg mewn Tesco yn Helston
Disgrifiad o’r llun,

"Mae nifer o siaradwyr Cernyweg yn gallu deall ychydig o Gymraeg gan fod rhai o'r geiriau yn debyg," meddai Loveday Jenkins

Yn ddiweddar mae Llywodraeth y DU wedi argymell i'r Gernyweg gael statws rhan tri o dan Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

Byddai hynny'n golygu y byddai'r iaith yn cael ei hamddiffyn yn yr un modd ag y mae'r Gymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban yn cael eu diogelu.

Mae cynghorydd lleol wedi croesawu'r syniad o gael arwyddion dwyieithog mewn archfarchnadoedd, ond yn dweud mai'r Gernyweg ddylai gael ei gweld, nid y Gymraeg.

Yn ôl Loveday Jenkins fe allai arwyddion dwyieithog helpu normaleiddio'r defnydd o'r Gernyweg, ac fe allai'r digwyddiad yma arwain at ragor o ymgyrchu ar gyfer hynny.

Er mai'r bwriad yma mwy na thebyg oedd cefnogi dwyieithrwydd, meddai Ms Jenkins, mae wedi tynnu sylw at y ffaith bod mwy y gallai siopau o'r fath ei wneud i gefnogi'r Gernyweg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now