Pam bod arwyddion Cymraeg mewn maes awyr yn Alpau Ffrainc?
- Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

1 o 4
- Cyhoeddwyd
Mae teithiwr o Gymru wedi dod ar draws arwyddion Cymraeg mewn lle go anarferol - Maes Awyr Chambéry yn Ffrainc!
Fe wnaeth David Thomas rannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl sylwi bod rhai o arwyddion y maes awyr yn Ffrangeg, Saesneg ac yn Gymraeg.
Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Sut ar y ddaear ymddangosodd arwyddion Cymraeg ym Maes Awyr Chambéry? Dw i'n eu hoffi!"
Yn ôl cynrychiolydd o'r maes awyr, mae'r Gymraeg wedi'i hychwanegu at rai arwyddion ers mis Rhagfyr 2025:
"Mae hon yn ffordd o gyfarch y teithwyr o Gymru sy'n cyrraedd o neu'n dychwelyd i faes awyr Caerdydd yn ystod tymor y gaeaf, ac yn bennaf pobl o Loegr.
"Mae'r fenter hon hefyd yn cyd-fynd ag ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid VINCI Airports. Mae Maes Awyr Chambéry yn ddewis poblogaidd ymhlith teithwyr oherwydd ei leoliad - tua awr o daith mewn car o rai o gyrchfannau sgïo enwocaf Alpau Ffrainc."
Ydych chi wedi gweld arwyddion Cymraeg mewn llefydd annisgwyl? Cysylltwch â ni: cymrufyw@bbc.co.uk
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


