Enwi tri â chysylltiadau Cymreig sydd wedi'u hamau o ysbïo

Mae'r AS Llafur o'r Alban, Joani Reid, wedi dweud "nad oedd yn rhan" o weithgareddau busnes ei gŵr, David Taylor
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn sydd â chysylltiadau â Chymru, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China, wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae David Taylor, 39, yn gyn-gynghorydd i Swyddfa Cymru ac yn briod ag AS Llafur, Steve Jones, 68, yn gyn-gynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru a Matthew Aplin, 43, yn gyn-swyddog y wasg i'r Blaid Lafur.
Cafodd y tri eu harestio yng Nghymru a Llundain fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.
Mae Mr Taylor yn ŵr i'r AS Llafur o'r Alban, Joani Reid, a gyhoeddodd nos Iau ei bod wedi ildio chwip y Blaid Lafur yn wirfoddol tra bod y blaid yn cynnal "ymholiadau mewnol".
Gan ddisgrifio'r wythnos hon fel "wythnos waethaf fy mywyd", dywedodd Ms Reid fod "sioc y dyddiau diweddar wedi bod yn anodd i mi a fy nheulu".
Fe bwysleisiodd hefyd nad yw hithau'n destun ymchwiliad heddlu a "does dim cyhuddiadau yn fy erbyn i".
Mewn datganiad blaenorol ddydd Mercher dywedodd nad oedd erioed wedi gweld unrhyw beth a fyddai wedi gwneud iddi amau bod ei gŵr "wedi torri unrhyw gyfraith", gan ychwanegu nad oedd yn rhan o weithgareddau busnes ei gŵr.
Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur nos Iau bod Ms Read "wedi cytuno i gydweithio'n llawn" gyda'u hymchwiliad mewnol, a'i bod "hefyd wedi ei hatal o'r blaid yn ystod yr ymchwiliad".

Roedd Steve Jones yn ymgynghorydd gwleidyddol i gyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru ei bod yn ymwybodol fod y tri wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth.
Dywedodd Eluned Morgan: "Mae'r rhain yn honiadau difrifol ac mae'n hanfodol nad ydym yn rhwystro gwaith yr heddlu mewn unrhyw ffordd nac yn rhagfarnu unrhyw broses gyfreithiol yn y dyfodol."
Ychwanegodd, gan fod yr ymchwiliad yn parhau, y byddai'n "amhriodol" iddi wneud sylwadau pellach ar unrhyw agwedd o'r achos.

Roedd Matthew Aplin yn gyn-swyddog y wasg i'r Blaid Lafur
Oriau cyn datganiad Ms Reid ddydd Mawrth, fe wnaeth Heddlu'r Met ddweud bod dyn 39 oed wedi ei arestio yn Llundain.
Fe wnaeth y llu ychwanegu bod dyn 68 oed wedi ei arestio ym Mhowys, a dyn 43 oed wedi ei arestio ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd yr heddlu bod y tri wedi eu cyhuddo o gynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth dramor o dan adran tri y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, a gafodd ei chyflwyno yn 2023.
Yr heddlu yn archwilio cartref Matthew Aplin ym Mhont-y-clun
Dywedodd Heddlu'r Met eu bod wedi eu cefnogi gan heddlu gwrthderfysgaeth yng Nghymru ac yn Yr Alban.
Mae'r heddlu hefyd wedi cynnal archwiliad mewn cyfeiriad ym Mhont-y-clun sy'n gysylltiedig ag un o'r dynion a gafodd eu harestio.
Cafodd tri chyfeiriad arall eu chwilio hefyd - yn Llundain, East Kilbride a Chaerdydd.
Mae'r newyddiadurwr Martin Shipton wedi cadarnhau mai ei gartref ef oedd yr eiddo yng Nghaerdydd.
Mewn erthygl ar wefan Nation.Cymru, fe ddisgrifiodd cyn-olygydd gwleidyddol y Western Mail sut y chwalodd swyddogion ddrws blaen y tŷ'n agored cyn cyflwyno gwarant i archwilio'r adeilad.
Ni chafodd Mr Shipton ei arestio, ac mae'n gwadu gwneud unrhyw beth o'i le, gan ddisgrifio'r profiad fel "hunllef Kafkaesque".
Ychwanegodd ei fod yn gwneud popeth posib i helpu ymchwiliad yr heddlu.
Nid oedd llefarydd Heddlu'r Met am wneud sylw ynghylch archwilio cartref Mr Mr Shipton.
Yn gynharach dywedodd Helen Flanagan, pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain: "Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr achosion sy'n ymwneud â diogelwch cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda phartneriaid i helpu i gadw'r wlad yn ddiogel ac i gymryd camau i darfu ar weithgarwch maleisus os oes amheuaeth."
Ychwanegodd fod yr arestiadau yn "rhan o ymchwiliad rhagweithiol ac er bod y materion hyn yn ddifrifol, nid ydym yn credu bod unrhyw fygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.