Anrhydeddu Cymro a dorrodd record byd ganrif yn ddiweddarach

Mae'n 100 mlynedd ers i Parry-Thomas dorri'r record tra'n gyrru Babs
- Cyhoeddwyd
Canrif ers torri record cyflymder byd mewn car, mae gyrrwr rasio o Gymru wedi ei anrhydeddu ar y traeth ble gyflawnodd y gamp.
Fe wnaeth J.G. Parry-Thomas gyrraedd cyflymder cyfartalog o 170.624mya yn ei gar, sy'n cael ei alw'n Babs, ar draeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin yn 1926.
Roedd hynny'n gyflymach na recordiau blaenorol gan Malcolm Campbell ym Mhentywyn yn 1925 a Henry Segrave yn Southport ym mis Mawrth 1926.
Ddydd Llun daeth dros 2,000 o bobl i weld Babs yn dychwelyd i'r traeth lle'r oedd yn llwyddiannus, gan gynnwys sawl aelod o deulu Parry-Thomas.
Mae Parry-Thomas bellach wedi ei gynnwyr ar Restr Anrhydedd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, i nodi ei gamp.

Ym mis Ebrill 1926, Parry-Thomas oedd y person cyntaf i yrru'n gyflymach na 170mya
Dywedodd un o'i ddisgynyddion, Liz Lewis, ei bod yn "hen bryd" cydnabod camp J.G. Parry-Thomas.
"Mae'n emosiynol gweld y car heddiw a meddwl iddo wneud hyn 100 mlynedd yn ôl, a cholli ei fywyd yn ei ail ymgais flwyddyn yn ddiweddarach."
Ychwanegodd ei or-nith, Emma Parry Clements: "Mae sefyll yma ar y traeth gan wybod ei fod yma 100 mlynedd yn ôl yn anhygoel.
"Does neb yn ei gofio yn Lloegr lle rydyn ni'n byw felly mae'n anhygoel gweld cymaint o bobl yn dod allan i'w gofio a'i anrhydeddu fel hyn.
"Roedd yn ddigwyddiad hanesyddol ond rwy'n teimlo'n rhan ohono heddiw yn sefyll yma."

Roedd Liz Lewis a'i brawd, David Thomas, ym Mhentywyn ddydd Llun
Yn y 1920au roedd Traeth Pentywyn yn ganolbwynt i ymdrechion gyrwyr i deithio ar y cyflymder uchaf erioed.
Yn ymestyn saith milltir ar hyd Bae Caerfyrddin, roedd yn un o'r unig lefydd ble roedd modd cyrraedd cyflymder ddigon uchel i dorri record, ac ym mis Ebrill 1926 dyna'n union wnaeth Parry-Thomas.
Cyrhaeddodd gyflymderau o 169.30mya a 171.02mya yn ei gar, Babs.
Torrwyd y record eto flwyddyn yn ddiweddarach gan Malcolm Campbell ym Mhentywyn, wrth iddo gyrraedd cyflymder o ychydig o dan 175mya ym mis Ionawr 1927.
Ceisiodd Parry Thomas adennill y record ym Mawrth 1927, ond pan roliodd Babs ar gyflymder uchel bu farw'r gyrrwr o Gymro.

Cyflwynwyd gwobr i deulu J.G. Parry-Thomas wrth iddo gael ei dderbyn i Restr Anrhydedd Oriel yr Anfarwolion
Ar ôl y ddamwain claddwyd y car yn y twyni, ble arhosodd am 42 mlynedd cyn cael ei adfer yn ofalus dros gyfnod o 16 mlynedd.
Owen Wyn Owen oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio yn ei garej yng Nghapel Curig, ac mae Babs wedi cael ei arddangos yn Amgueddfa Pentywyn ers hynny.
Heddiw gyrrodd mab Owen, Geraint, Babs ar ddau lap o'r traeth
"Syniad yn unig oedd bod rhaid iddo geisio atgyweirio'r car oherwydd nad oedd ganddo'r un gydnabyddiaeth â Malcolm Campbell ac roedd fy nhad eisiau newid hynny.
"Roedd yn meddwl pe bai rhyw ran o'r car mewn amgueddfa neu rywbeth, y byddai rhyw record oherwydd bod ei holl geir wedi diflannu i raddau helaeth, felly nid oedd Thomas ar y map.
"Felly'r unig nod oedd gan dad oedd dathlu dyn o Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.