Ymchwiliad i dân mawr y mae'r heddlu'n credu oedd yn fwriadol

Adeilad ar danFfynhonnell y llun, Dolly Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw ychydig cyn 03:00 fore dydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad yn dilyn tân mawr mewn adeilad ym Mhen-y-bont ar Ogwr y maen nhw'n credu gafodd ei gynnau ar bwrpas.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wybod am y digwyddiad ar gornel Ffordd Tremains a Stryd Llyfni ychydig cyn 03:00 bore dydd Sul 15 Mawrth.

Fe gafodd pum criw o ddiffoddwyr eu hanfon i'r ardal ac fe ddywedon nhw eu bod wedi llwyddo i gael y tân dan reolaeth erbyn 05:41 a chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn credu bod y tân wedi cael ei gynnau ar bwrpas ac mae'r ffordd ar gau tra bod eu hymchwiliad yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now