Awyrgylch deuluol yn nghartref 'Mam Cymru'

Eirian Jones a'i theulu sy'n byw ac yn ffermio ym Merain erbyn hyn
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos bydd teuluoedd o Gymru yn nodi Sul y Mamau.
A hithau'n fam i bedwar o blant, un fydd yn siwr o ddathlu'r diwrnod fydd Eirian Jones o Ferain.
Mae Eirian yn byw yn nhŷ gwreiddiol Catrin o Ferain sy'n cael ei galw'n Fam Cymru.
Sut beth felly ydi cael byw mewn tŷ sydd â chysylltiad mor bwysig gydag un o ffigyrau hanesyddol mwyaf Cymru?
'Pry cop du'
Mae Berain yn ardal Llannefydd ac yn parhau i fod yn fferm weithredol hyd heddiw.
Wrth gamu dros y rhiniog mae'r hyn sydd yn eich wynebu yn gyfuniad o'r byd modern a gwaith adeiladu sy'n dyddio'n ôl dros 500 mlynedd.
Ganwyd Catrin o Ferain yn 1535 yn etifeddes i diroedd eang Sir Ddinbych ac Ynys Môn.
Roedd hi'n amlwg iawn mewn cofnodion o'r cyfnod a hynny gan ei bod hi'n fenyw mor gyfoethog.
Petai ganddi frawd, ni fyddai wedi etifeddu'r tir, ond hi oedd yr unig blentyn a gafodd y cwbl.
Roedd hynny yn ei gwneud yn ddeniadol iawn ar gyfer gwŷr, a dyna pan oedd llawer eisiau ei phriodi.
Roedd y ffaith iddi briodi cymaint o ddynion wedi arwain at y syniad ei bod fel rhyw bry cop du oedd yn lladd ei gwŷr cyn symud ymlaen at y nesaf.
Gadawodd chwech o blant, tua 16 o lysblant, tua 32 o wyrion ac wyresau ac ugeiniau o ddisgynyddion eraill.
O ganlyniad fe'i galwyd yn Fam Cymru.

Rhosod o gyfnod y Tuduriaid i'w gweld yn glîr ar waith pren o fewn y tŷ
Y Fam sy'n byw ym Merain erbyn hyn yw Eirian ac mae hi wrth ei bodd yno ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y safle mewn cyd destun hanesyddol fel y soniodd wrth Aled Hughes ar ei raglen ar BBC Radio Cymru:
"Dwi'n sylweddoli pa mor lwcus yda ni'n cael byw a'r fraint o gael byw yma dweud y gwir.
"Falle bod y gŵr yn teimlo 'na lle i roi dy ben i lawr gyda'r nos neu gael swper ydy'r tŷ, ond yn bendant dwi'n teimlo bod hi'n fraint cael byw yma.
"Dwi'n gwybod bod y fam yng nghyfraith o' mlaen i hefyd yn debyg - ei bod hi'n dotio at y lle hefyd ac wrth ei bodd yn croesawu pobl yma," meddai.
Un sydd yn dotio mynd draw i'r cartref yw Helen Williams-Ellis.
Mae Helen wedi ymchwilio'n fanwl i hanes Catrin o Ferain ac wedi ysgrifennu cyfrol amdani o'r un enw.
Yn ôl Helen, mae'r sibrydion fod Catrin wedi lladd ei gwŷr cyn symud ymlaen at y nesaf yn "nonsens llwyr".
"Mae'r straeon 'ma am Catrin yn priodi dro ar ôl tro, does 'na ddim sail o gwbl ei bod wedi bod yn rhoi plwm poeth yn nghlustiau ei gŷr ac yn eu gwenwyno nhw, nonsens ydi hynny," meddai.

Mae Helen Williams-Ellis wedi ysgrifennu llyfr am Catrin o Ferain
Mae rhai o nodweddion hanesyddol y cyfnod yn parhau i gael eu gweld yn y cartref hyd heddiw.
Ar un o'r drysau mae posib gweld y rhosyn wedi'i naddu i'r pren.
Arwydd o gyfnod y Tuduriaid a'r cysylltiad clos rhwng Berain a Phen Mynydd ar Ynys Môn sy'n leoliad pwysig o ran hanes Harri Tudur.
Roedd cofnodion y cyfnod yn datgan y cariad oedd gan Catrin tuag at ei chartref ym Merain ac mae'r un peth i'w weld heddiw gyda theulu Eirian Jones yn teimlo'n warchodol iawn o'r safle 500 mlynedd a mwy yn diweddarach.
"Rydan ni yma i edrych ar ôl y lle am gyfnod a gobeithio pasio'r lle ymlaen i'r cenedlaethau nesa.
"Ifan y mab falle sydd yn gobeithio ffermio yma ar ôl ar ein hole ni, ac yn gwerthfawrogi'r hanes sydd tu ôl i'r lle hefyd," meddai.
Hefyd o ddiddordeb:
Ynys bwysicaf America wedi'i henwi ar ôl Cymro
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2025
Hanes Catrin o Ferain - Mam Cymru
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.