Byth yn teimlo'n gwbl saff na pherthyn ar ôl fy mabwysiadu - Sioned Webb

Llun Sioned Webb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Webb yn cyflwyno Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd

"Er fy mod i wedi cael magwraeth arbennig iawn doeddwn i byth yn teimlo'n gwbl saff neu fel fy mod yn perthyn."

Yn wyth diwrnod oed cafodd y cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb ei mabwysiadu gan deulu o Gymru.

Er i'w theulu ei chefnogi, roedd cwestiynau dros ei hunaniaeth yn parhau.

Wrth drafod albwm newydd mae Sioned yn rhyddhau ar y cyd gyda Siân James ar raglen Heledd Cynwal ar Radio Cymru, disgrifiodd effaith ei mabwysiadu arni, a'r cysur mae wedi profi trwy gyfansoddi cerddoriaeth.

'Methu perthyn i unrhyw le nag i unrhyw berson'

Symudodd Sioned i fyw ym Mhenygroes gyda'i theulu newydd.

Roedd ei thad yn weinidog capel yn y pentref, ac er i'r teulu ei chroesawu roedd gwybod ei bod wedi'i mabwysiadu yn chwarae ar ei meddwl.

"Roedden nhw [ei theulu] yn dweud fy mod i'n arbennig, mod i'n sbesial, mod i wedi cael fy newis," meddai Sioned, "tra ar y tu mewn o'n i'n trio gwneud synnwyr o bwy o'n i, ac yn teimlo ar goll yn aml".

"O'n i'n aml iawn yn cael y breuddwydion yma, lle roeddwn i'n rhuthro drwy'r gofod a methu glanio yn nunlle, a methu credu fy mod i'n arbennig o gwbl."

Wrth iddi fynd yn hŷn, roedd y teimlad o "beidio perthyn" yn "chwarae havoc" gyda'i hiechyd meddwl.

"Dwi'n siŵr bod yna blant allan yn fanna sydd wedi cael eu mabwysiadu ac wedi profi magwraeth arbennig iawn ac yn teimlo'n gwbl saff.

"Er mod i wedi cael magwraeth arbennig iawn, iawn, iawn... byth yn teimlo'n gwbl saff ac yn perthyn.

"Mae'n anodd iawn esbonio fo, methu perthyn i unrhyw le nag i unrhyw berson, nag i unrhyw ardal."

'Doeddwn i byth yn teimlo'n gwbl saff'

Gwrandewch ar Sionedd Webb ar raglen Heledd Cynwal

Roedd cerddoriaeth yn rhan fawr o blentyndod Sioned.

Yn wyth mlwydd oed enillodd ei gwobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth am chwarae'r piano.

Ers hynny mae cerddoriaeth wedi bod yn hollbwysig iddi, fel gyrfa, ond hefyd wrth brosesu a rhannu trafferthion ei phlentyndod.

"Dwi'n deall cerddoriaeth," meddai Sioned.

"Dwi'n gallu siarad pan dwi'n canu'r piano. Dwi ddim cweit yr un fath efo'r delyn, oherwydd ail offeryn ydy'r delyn, ond mi fedra i siarad a mynegi fy hun efo'r piano.

"Ac mae yna dal rhai darnau o gerddoriaeth sy'n fy symud i hyd at ddagrau.

"Dwi'n ffeindio fy hun yn byrstio allan i grio am ddim rheswm o gwbl, dim ond oherwydd bod yna rhywbeth anesboniadwy wedi digwydd.

"A dwi'n derbyn erbyn hyn yn fy chwedegau, dwi'n derbyn fod 'na ddim absoliwt sy'n bod, i fod yn hollol athronyddol... fod yna ddim esboniad i rai pethau."

'Blodeuo' yn Y Bala

Erbyn hyn mae Sioned wedi symud i fyw yn Y Bala gyda'i gŵr Arfon, sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn ei phroses o "drwsio".

"Ffeindiais i oddefgarwch a phartneriaeth falle am y tro cyntaf erioed efo Arfon.

"Dwi'n teimlo'n saff efo fo a dwi'n teimlo mod i'n gallu blodeuo drwy'r bartneriaeth."

Ychwanegodd: "Mae'r teimlad yma o ddod yn ôl i ardal Y Bala wedi helpu'r trwsio llawer.

"Roedd angen arna i i ddatblygu fel person ac fel cerddor hefyd, mae teimlad o heddwch a berthyn yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now