Trychineb y Sea Empress mewn rhifau

Huw EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae 15 Chwefror 1996, yn ddyddiad sy'n aros yn y cof i nifer o Gymry, yn enwedig i bobl sy'n byw yn ardal Sir Benfro.

Ar y nos Iau yno fe wyrodd llong enfawr, y Sea Empress, oddi ar ei chwrs a tharo yn erbyn y creigiau ger Aberdaugleddau, ac roedd y difrod amgylcheddol yn hunllefus.

Dyma 'chydig o ystadegau syfrdanol yn dilyn y digwyddiad.

Maint y llong

Roedd y Sea Empress tua maint tri chae pêl-droed, yn 274.3m mewn hyd, a 43.2m mewn lled.

Y criw

Roedd 27 o forwyr ar y llong pan ddigwyddodd y ddamwain - pob un ohonynt yn ddinasyddion Rwsia. Ond peilot lleol oedd yn gyfrifol am lywio'r llong i'r harbwr, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tywydd yn stormus tu hwnt, ac felly yn heriol iawn i'r awdurdodau gael gafael ar y sefyllfa

20:07

Roedd hi ychydig wedi wyth o'r gloch yn y nos pan aeth y llong oddi ar ei thrywydd a tharo'r creigiau dan wyneb y dŵr.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y llong ar ei hochr yn dilyn y gwrthdrawiad

Olew ar y llong

Pan ddigwyddodd y ddamwain roedd tua 147,000 o dunelli o olew crai yn rhan o gargo'r llong.

Olew aeth i'r môr

Aeth 72,000 tunnell i'r môr yn dilyn y ddamwain, gan gynnwys 480 tunnell o olew trwm. Roedd maint yr olew gafodd ei ollwng yn ddigon i lenwi 32 pwll nofio Olympaidd.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 72,000 tunnell o olew eu gollwng i'r môr

Arfordir gafodd ei effeithio

Adroddir bod tua 120 milltir o arfordir yn ne-orllewin Cymru wedi ei effeithio gan y trychineb.

Yr olygfa torcalonnus a oedd yn wynebu'r timau glanhauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa dorcalonnus a oedd yn wynebu'r timau glanhau

Effaith ar natur

Roedd y goblygiadau ar fywyd natur yn aruthrol, ac mae hi'n cael ei hamcangyfrif bod o leia' 25,000 o adar wedi eu lladd yn dilyn y drychineb.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r miloedd o adar oedd ag olew drosto

Cemegion

Cafodd 445 tunnell o gemegau ei ddefnyddio gan awyrennau a hofrenyddion mewn ymgais i dorri rhywfaint o drwch yr olew yn y môr.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, PA WIREFOTO

Gwirfoddolwyr

Roedd ymhell dros 1,000 o bobl yn gweithio i lanhau'r traethau, a oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol.

gwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwirfoddolwyr a oedd yn helpu gyda'r glanhau

7 diwrnod

Roedd y Sea Empress yn llonydd ar y môr am saith diwrnod, ac yn parhau i ollwng olew.

Yn dilyn tair wythnos ym mhorthladd Aberdaugleddau cafodd y llong ei symud i Belfast i gael ei thrwsio.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, PRESS ASSOCIATION
Disgrifiad o’r llun,

Y Sea Empress ar 17 Chwefror, dau ddiwrnod wedi'r ddamwain

Tynnu i'r lan

Roedd 12 cwch bach (tugboats) yn rhan o'r ymdrech i dynnu'r Sea Empress a'i sythu er mwyn ei symud o'r ardal.

Sea Empress Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r awyr, sy'n rhoi syniad o'r effaith ofnadwy o'r olew'n gollwng i'r môr

Costau

Fe gostiodd hi £60m i lanhau'r traethau a'r moroedd yn syth wedi'r digwyddiad, ond mae'n debyg fod y wir gost dipyn yn fwy.

Roedd y gost i'r ardal yn economaidd yn fwy na £116m, £10m arall o effaith i'r diwydiant pysgota, ac roedd £46m o niwed i'r economi dwristiaeth yn lleol.

Diryw

Cafodd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ddirwy o £4m yn dilyn y drychineb, ond fe gafodd ei ostwng y flwyddyn ganlynol.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, PA WIREFOTO
Disgrifiad o’r llun,

Y Sea Empress yn cael ei thrwsio yn Belfast

Ail-enwi'r llong

Wedi i'r llong gael ei hatgyweiro cafodd ei ail-frandio a'i hail-enwi. Dros y blynyddoedd mae wedi dwyn yr enwau Sea Spirit, Front Spirit, Ocean Opal, Welwind a Wind 3.

2012

Yn 2012 daeth bywyd y llong (Wind 3 ar y pryd) i ben, yn dilyn digwyddiad ble darodd yn erbyn llong arall. Cafodd y llong ei datgymalu yn Chittagong, Bangladesh.

Sea EmpressFfynhonnell y llun, Getty Images

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now