Hyfforddwr yn ofni y byddai ci rhydd yn dychryn ei geffylau - achos llys

Evan Williams Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evan Williams wedi pledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad yn dilyn digwyddiad ar ei dir ddiwedd 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr ceffylau ras y Grand National sy'n gwadu curo pensiynwr gyda ffon hoci wedi dweud wrth lys bod "rhaid gwarchod ceffylau rasio gyda'ch bywyd".

Mae Evan Williams, 54, wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i Martin Dandridge, 72, yn Llancarfan, Bro Morgannwg fis Rhagfyr 2024.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad arall o achosi niwed corfforol difrifol.

Yn ei dystiolaeth i Lys y Goron Caerdydd, dywedodd bod angen trin ceffylau rasio yn ofalus rhag bod "o fewn dim i drychineb os ydynt yn cynhyrfu".

Dywedodd ei fod wedi rhedeg fferm laeth ei rieni ers yn 18 oed, cyn symud i'r maes hyfforddi ceffylau rasio a sefydlu cwmni yn 2003.

Erbyn adeg yr ymosodiad honedig roedd ganddo 120 o geffylau mewn dau leoliad.

Ar y noson dan sylw, fe gafodd alwad ffôn gan ei ferch, sy'n byw gyda'i dyweddi mewn eiddo arall ar dir y fferm, yn dweud bod goleuadau ymlaen yn yr ardal garlamu.

Neidiodd Mr Williams i'w gerbyd a chodi cymar ei ferch cyn siarad gyda swyddogion heddlu oedd yn ymchwilio i droseddau cefn gwlad lleol ac yn chwilio am botswyr.

Dywedodd wrth y plismyn: "Maen nhw'n fan hyn, Dilynwch fi".

Ofni 'dychryn y ceffylau'

Parciodd Mr Williams yn ardal badogau'r safle a gweld dyn oedd â golau llachar a chi.

"Ro'n i'n gweiddi [arno] i ddiffodd y golau - fyddai e wedi dychryn y ceffylau.

"Fyddai'r golau wedi fflachio yn y stablau a gall hynny gynhyrfu ceffylau."

Dan emosiwn wedyn, dywedodd: "Yr unig beth rwy'n becso yn ei gylch yw fy ngheffylau a fy nheulu.

"Gall ci rhydd wneud llawer o niwed a dyna oedd fy mhrif bryder."

Roedd gan Mr Williams raff am ei ganol ar gyfer ei defnyddio ar ei geffylau, rhag ofn bod angen ffrwyno ci.

Dywedodd ei fod "yn dda gydag anifeiliaid" ac yn ffyddiog y gallai ddelio â'r ci, gan geisio cael gafael ar ei dennyn.

"Roedd y ci'n tynnu'r dyn tua'r tywod yn y gallops ac wrth nesáu fe glywais i e'n syrthio i ffos.

"Roedd e'n gwichian ac yn gwneud lot o ffwdan. Dries i ei helpu o'r ffos ac roedd yn gafael arna'i ac yn ceisio fy nefnyddio fel ysgol i ddod mas."

Llys y Goron Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd

'Ro'n i am iddo fod yn ddiogel'

Dywedodd Mr Williams fod yr heddlu wedi cyrraedd a dal Mr Dandridge ar y llawr.

Gofynnodd David Elias KC: "A wnaethoch chi ddefnyddio eich rhaff tennyn i'w daro?"

"Na," atebodd.

Holodd y diffynnydd wedyn a yw'n berchen ar ffon hoci.

"Na," atebodd eto, ond fe gyfaddefodd ei fod "wedi rhegi'n ofnadwy".

"Mae diogelwch yn hollbwysig i mi ac roedd e ar fy nhir ac wedi'i anafu felly ro'n i am iddo fod yn ddiogel," ychwanegodd.

Clywodd y llys fod Mr Williams a'r heddlu wedi mynd â Mr Dandridge yn ôl i'r bwthyn ble roedd yn aros a bod Mr Williams yn ymddiheuro am ei fod wedi cael anaf ar ei dir.

"Rwy'n dal yn meddwl ei fod dan ddylanwad, o'r ffordd yr oedd yn ymddwyn a siarad," meddai Mr Williams.

Gofynnodd Mr Elias: "A oeddach chi am frifo unrhyw un y noson honno?"

"Gan y cant, na," atebodd y diffynnydd.

Dyna ei ateb hefyd pan ofynnwyd eto: "A wnaethoch chi daro Mr Dandridge?"

Mae Mr Williams yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now