Dathlu 50 mlynedd o bapur bro Y Gadlas

Y GadlasFfynhonnell y llun, Y Gadlas
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Er fod yr ardal yn eang iawn yn ddaearyddol mae 'na deimlad o berthyn yn bodoli diolch i'r papur."

Dyna eiriau Cadeirydd Papur Bro'r Gadlas, Meryl Pierce wrth i'r papur ddathlu 50 mlynedd eleni ers ei sefydlu yn 1976.

Mae'r papur yn cysylltu pentrefi yn Sir Conwy draw o Rhyd-y-foel, Betws-yn-Rhos, Gwytherin, Pandy Tudur, Llangernyw, Llansannan ac mae'n mynd draw i Lannefydd a phentrefi yn Sir Ddinbych fel Henllan, Peniel, Prion a Saron.

Dros y penwythnos bydd cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal i ddathlu'r 50 ymysg pobl a thalentau'r Fro.

Rhiannon ParryFfynhonnell y llun, Hywel Evans
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Rhiannon Parry oedd mor allweddol yn sefydlu'r papur 50 mlynedd yn ôl

Sefydlwyd y papur gan y diweddar Rhiannon Parry yn 1976.

Pwysleisiodd Meryl ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ei bod hi'n gwbwl allweddol yn y sefydliad o'r papur ei hun ac wedi rhoi arweiniad cadarn i'r criw.

"Mae rhywun yn edrych nol i'r dechre a diolch i'r bobl yna nath osod y sylfaeni cadarn nôl yn 1976 a gosod pethe mewn trefn er mwyn sicrhau fod gyno ni bapur bro gwerth chweil yn cyrraedd cymaint o gartrefi a wedi neud hynny dros yr hanner can mlynedd.

"Rhiannon Parry nath weithio mor ddiwyd yn 1976 gyda'i byddin o wirfoddolwyr i sefydlu'r papur.

"Roedd hi'n sôn am y brwdfrydedd a'r cenedlaetholwyr yn dod at eu gilydd i danio'r Cymreictod yn ein broedd ni a nhwythau'n dod at eu gilydd o'r gwahanol ardaloedd i sefydlu'r papur," meddai.

Y GadlasFfynhonnell y llun, Meryl Pierce
Disgrifiad o’r llun,

Tudalen flaen gyntaf y papur yn 1976

Roedd Meryl hefyd yn cydnabod gwaith di-flino Hywel Ifans, sydd yn tynnu lluniau ac yn gosod Y Gadlas.

"Mae o'n cyrraedd pob digwyddiad cymunedol ac mae hwnna yn rhan o apêl ein papur ni," meddai.

Bydd noson o ddathlu yn cael ei chynnal dros y penwythnos yn neuadd Llansannan gyda phob tocyn wedi'i werthu.

Roedd y pwyllgor yn awyddus i ddathlu talentau lleol ac ymysg y rhai fydd yn perfformio fydd Côr Meibion Bro Aled, Ynyr Llwyd, Arwel Gildas a Tew Tew Tenau.

Roedd Meryl hefyd yn sôn am y gwaith caled sy'n cael ei ymroi i sicrhau fod y papur yn barod pob mis ac yn cael ei ddosbarthu i'r holl bentrefi.

"Mae o'n sicr yn lot o waith ac mae'n parhau i fod yn lot o waith rwan ond rydan ni mor ffodus fod na dîm o bobl yn y pentrefi ma i gyd sy'n barod i roi eu hamser pob mis i gyfrannu hanes eu hardal nhw er mwyn dod a phawb at eu gilydd.

"Wedyn mae gynnoch chi'r broses o olygu ac argraffu'r papur a'i ddosbarthu, a mewn gwirionedd ma hwn i gyd yn digwydd yn wirfoddol, ond rydan ni wedi gallu dal gafael ar rhywbeth sydd yr un mor bwysig heddiw ag oedd o hanner can mlynedd yn ôl," meddai.

Meryl a HywelFfynhonnell y llun, Hywel Evans
Disgrifiad o’r llun,

Meryl Pierce (chwith) yw Cadeirydd y Papur ac mae cyfraniad Hywel Evans fel photograffydd yn cael ei werthfawrogi hefyd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now