Cwest perfformiwr drag: Union achos marwolaeth ddim yn glir

Cafodd corff Darren Meah-Moore ei ddarganfod yn ardal Plas Windsor yng Nghaerdydd ar 22 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall y cynnwys beri gofid
Mae crwner wedi cofnodi casgliad agored mewn cwest i farwolaeth perfformiwr drag gafodd ei ddarganfod yn farw ar stryd gefn yng Nghaerdydd.
Cafodd corff Darren Meah-Moore oedd yn 39 oed ei ddarganfod wedi ei orchuddio â chardfwrdd yn ardal Plas Windsor, wedi iddo fod allan yn yfed gyda ffrindiau yng nghanol y ddinas ym mis Ionawr 2023.
Clywodd y cwest, er gwaetha'r ffaith bod ganddo alergedd i gŵn, bod Darren Meah-Moore wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithred rywiol gyda dyn a chi ar stryd gefn yn oriau mân y bore.
Roedd lluniau CCTV yn dangos Gavin Thomas a'i gi Scooby yn gadael y safle, cyn i gorff Darren Meah-Moore gael ei ddarganfod 12 awr yn ddiweddarach, o dan gardfwrdd, yn dal yn ei wisg drag.
Dywedodd Mr Thomas wrth y cwest, ar ôl eu cyfarfyddiad, ei bod hi'n ymddangos bod Darren Meah-Moore wedi mynd i gysgu, ac fe roddodd y cardfwrdd arno i'w gadw'n gynnes cyn gadael.
Dywedodd y crwner cynorthwyol, David Regan, nad oedd yn derbyn honiad Mr Thomas sef "nad oedd yn credu y byddai Darren mewn perygl" petai'n ei adael ar y stryd gefn.
Doedd o chwaith ddim yn derbyn iddo ei orchuddio gyda chardfwrdd er mwyn ei gadw'n gynnes, ond ychwanegodd y crwner ei fod yn "methu â dweud a oedd wedi cael ei orchuddio am unrhyw reswm drwg".

Dywedodd y crwner nad oedd hi'n bosib nodi union achos pendant marwolaeth Darren Meah-Moore
Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio, ond does neb wedi cael eu herlyn mewn cysylltiad â'i farwolaeth.
Roedd Darren Meah-Moore yn flaenorol wedi cael ei garcharu ym mis Mawrth 1999 ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o bedwar cyhuddiad o dreisio bachgen o dan 16 oed.
Cofnododd y crwner gasgliad agored, gan ddweud nad oedd yn bosib nodi un ffactor sicr fyddai wedi achosi marwolaeth Darren Meah-Moore, ac "nad oedd hi'n glir beth achosodd iddo fynd yn anymwybodol".
Straeon Perthnasol
Perfformiwr drag ar goll cyn ei farwolaeth - cwest
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
Cwblhau ymchwiliad i farwolaeth perfformiwr drag
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.