Arestio pedwerydd dyn ar ôl ymosodiad angheuol yng Nghaerdydd

Cafodd Colm Boston ei ddisgrifio fel "tad, mab a ffrind annwyl" gan ei deulu
- Cyhoeddwyd
Mae pedwerydd person wedi cael ei arestio gan heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd fis diwethaf.
Bu farw Colm Marcus Boston, 37 o ardal Y Mynydd Bychan yn y brifddinas, ar 26 Rhagfyr yn dilyn digwyddiad rai dyddiau ynghynt.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Pentyrch tua 18:15 ar 22 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Cafodd dyn 29 oed o ardal Sblot ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o ymosod ac o fod ag arf yn ei feddiant, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Roedd tri dyn arall wedi cael eu harestio yn barod mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2025
