Actores yn cefnogi drama ddadleuol am Huw Edwards

Power: The Downfall of Huw EdwardsFfynhonnell y llun, 5 Broadcasting Limited / Paramount / Wonderhood Studios/ PA
Disgrifiad o’r llun,

Martin Clunes sy'n portreadu'r cyn-gyflwynydd BBC, Huw Edwards, yn y gyfres

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru, a gafodd ei cham-drin pan oedd yn blentyn, wedi dweud ei bod yn cefnogi penderfyniad Channel 5 i ddarlledu drama ddadleuol am y cyn-gyflwynydd newyddion, Huw Edwards.

Bydd Power: The Downfall of Huw Edwards yn cael ei darlledu ar Channel 5 nos Fawrth.

Yn ôl Sera Cracroft, sy'n chwarae rhan Eileen yn Pobol y Cwm, mae hi wedi ei siomi ond ddim yn synnu bod rhai yn feirniadol o'r penderfyniad i greu drama am hanes y cyn-gyflwynydd newyddion blaenllaw.

Ym mis Medi 2024, fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, oedd yn cynnwys 41 o ddelweddau o blant.

Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio ym mis Medi 2024

Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol, sef categori A, ac roedd wedi derbyn y lluniau mewn negeseuon WhatsApp gan ddyn arall.

Cyn hynny, cafodd Edwards ei enwi ym mhapurau Llundain ym mis Gorffennaf 2023, fel y cyflwynydd teledu oedd wedi talu llanc am ddelweddau o'i hun, er doedd dim tystiolaeth o dor-cyfraith yn ôl Heddlu'r Met.

Roedd Edwards a'r dyn ifanc wedi bod yn cyfathrebu drwy negeseuon ffôn ers pan oedd y llanc yn 17 oed.

Fe wnaeth rhai aelodau'r cyhoedd wneud sylwadau beirniadol ar wefan Facebook Newyddion S4C am y penderfyniad i greu'r ddrama yn y lle cyntaf.

"Dim angen hyn o gwbl, mae Huw Edwards wedi cael ei gosb a'i fywyd yn racs."

"Amser gadael llonydd."

"Pwy sydd angen gweld hyn."

"Ddim yn meddwl bod angen rhaglen fel hyn i godi crachod."

Sera Cracroft
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sera Cracroft yn credu ei bod hi'n bwysig trafod beth ddigwyddodd a "dangos maint y broblem"

Roedd sylwadau eraill yn cefnogi penderfyniad Channel 5 i gynhyrchu'r ddrama, a'r actores Sera Cracroft yn cytuno.

"Roeddwn i wedi siomi ond ddim wedi synnu (gan y sylwadau)," meddai.

"Rwy'n ymwybodol iawn o bobl sydd yn dweud, 'Pam da chi'n sôn am hyn? Mae hwnna wedi bod, mae hwnna yn y gorffennol'.

"Ond diffyg dealltwriaeth yw hynny, a'r unig ffordd i ddymchwel hynny yw trwy drafod y peth a chywiro pobl a dangos maint y broblem."

Mae Ms Cracroft yn dweud nad yw hi'n synnu bod drama wedi cael ei chreu am gwymp Edwards.

"'Sgen i ddim problem bod y fath gyfres wedi ei chreu. Mae yna drosedd wedi digwydd ynglŷn â phethau eraill felly dwi ddim yn synnu.

"Roedd e'n berson enwog ac mae'n dangos bod y math yna o bethau yn digwydd ym mhob haen o gymdeithas. Os dyw pobl ddim eisiau ei wylio, 'sdim rhaid iddyn nhw."

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Edwards ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod o saith mlynedd

Cyhoeddodd Huw Edwards ddatganiad ecsgliwsif i'r Daily Mail ddydd Llun yn honni nad oedd unrhyw ymgais gan y cwmni cynhyrchu i wirio ffeithiau gydag ef cyn creu'r ddrama, dim ond gofyn am ymateb ar ôl iddi gael ei chwblhau.

Dywedodd Huw Edwards ei fod yn ymddiheuro'n ddiffuant am ei droseddau a bod y ddrama Channel 5 yn ymdrin â honiadau gwahanol.

Honnodd Edwards fod y llanc wedi newid ei stori, a'i bod yn annhebygol y byddai'r ddrama yn cyfleu realiti'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Edwards fod "cyflwr ei iechyd yn fregus" a'i fod wedi "dioddef problemau iechyd meddwl am 25 mlynedd".

Mae Newyddion S4C hefyd wedi ceisio cysylltu â Huw Edwards.

'Rhywbeth yn gyrru ni i wylio'

Yn ôl yr Athro Jamie Medhurst o adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, does dim "llawer i'w ennill" o greu drama am yr hyn sydd wedi digwydd.

"Dwi'n gofyn y cwestiwn beth sydd i'w ennill? Ni'n gwybod yr hanes a beth sydd wedi digwydd.

"Yn sicr mae yna bobl sydd wedi dioddef. Mae e wedi bod drwy'r llysoedd ac yn y blaen. Dwi ddim yn gweld, yn bersonol, bod llawer iawn i'w ennill o greu drama."

Mae'n cyfaddef, serch hynny, "bod yna ddiddordeb mawr" yn y ddrama.

"Mae yn y natur ddynol i eisiau gwylio straeon ynglŷn â phobl sydd yn amlwg, a mewn grym.

"Power yw teitl y ddrama. Mae yna rywbeth sydd yn gyrru ni i wylio pethau fel hyn."

Mae Channel 5 wedi gwrthod honiadau Huw Edwards.

Dywedodd y sianel bod drama Power: The Downfall of Huw Edwards yn seiliedig ar "gyfweliadau helaeth gyda'r dioddefwr, ei deulu, y newyddiadurwyr a dorrodd y stori, negeseuon rhwng Edwards a'i ddioddefwr ac adroddiadau o'r llys".

"Mae'r ddrama wedi ei chynhyrchu yn unol â chod darlledu Ofcom.

"Mae'r holl gyhuddiadau sydd wedi eu gwneud ar y rhaglen wedi gerbron Huw Edwards drwy ei gyfreithwyr chwe wythnos cyn y dyddiad darlledu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now